Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Y Ganolfan, Porthmadog, Gwynedd. LL49 9LU. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301

Nodyn: glyndaobrien@gwynedd.llyw.cymru 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Y Cynghorwyr Dylan Bullard, Anne Lloyd Jones, Gethin Williams, Owain Williams (Cyngor Gwynedd), Mr Tudur Williams (Pennaeth Ysgol Ardudwy), Yr Heddwas Rob Newman (Heddlu Trafnidiaeth Prydain), Liz Saville Roberts (AS Dwyfor/Meirionnydd), Yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas (Aelod Cynulliad Dwyfor/Meirionnydd), Cyng. Delwyn Evans (Grŵp Mynediad Meirionnydd), Mr Alun Wyn Evans (Cynrychiolydd Meirionnydd Unllais Cymru), Ann Elias (GMW)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

I ystyried unrhyw fater sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. 

 

Cofnod:

Nid oedd y Cadeirydd wedi derbyn unrhyw faterion brys.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 249 KB

I gadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2017.

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

 

Cyflwynwyd: Cofnodion cyfarfod y gynhadledd a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2017. 

 

Penderfynwyd:          Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion.

 

 

5.

ADRODDIAD GAN NETWORK RAIL

I dderbyn adroddiad gan Mr Samuel Hadley, Network Rail.

Cofnod:

Croesawyd Mr Sam Hadley, Rheolwr Materion Cyhoeddus Llwybrau Cymru, i'r cyfarfod ac fe adroddodd ar y materion isod: 

 

(a)          Tywydd eithafol - tynnwyd sylw at y cyfnod adfer arbennig o sydyn wedi'r tywydd garw a gafwyd ar draws Cymru'r wythnos ddiwethaf, ac ar ben hyn bu'n rhaid tynnu'r fflyd 175/1758 i ffwrdd dros dro oherwydd niwed i olwynion.   Roedd timau Network Rail a Threnau Arriva Cymru wedi gweithio'n arwrol o Fôn i Fynwy yn mynd i'r afael gydag ystod o effeithiau’r tywydd - o luwchfeydd 8 troedfedd o uchder i bibonwy enfawr ar dwnnel Ffestiniog a phwyntiau a signalau wedi rhewi ar draws y rhwydwaith. 

 

Rhoddwyd teyrnged arbennig i'r timau trac ac i ffwrdd o'r trac, oedd yn gweithio o Ddepo Machynlleth.   Roeddent wedi gweithio yn ddiflino ar ddydd Iau / dydd Gwener ac yna wedyn dros y penwythnos yn archwilio'r pwyntiau, yn profi'r llwybr ac yn helpu i glirio'r llwybr mynediad i Orsaf Machynlleth ac mewn mannau eraill.

 

Nodwyd ymhellach fod 25 o goed wedi cwympo ar y llwybr rhwng Cyffordd Dyfi a Phwllheli yn unig.    Derbyniodd Network Rail ymateb ardderchog gan y cyhoedd yn ystod y tywydd garw.

 

Talodd swyddogion ac aelodau'r Gynhadledd deyrnged arbennig gan ddiolch i staff rheng-flaen am eu hymdrechion anhygoel a'u gwaith caled dan amgylchiadau anodd iawn.  

 

(b)          Cynllun Busnes Strategol

 

Tynnwyd sylw’r aelodau at y ffaith fod Network Rail wedi cyhoeddi ei gynllun busnes strategol cyntaf ar gyfer llwybr datganoledig Cymru a'r Gororau mis diwethaf. Roedd hon yn ddogfen allweddol o ran ariannu ar gyfer y cyfnod contract nesaf.    Roedd yn canolbwyntio yn gyfan gwbl ar weithrediadau, cynnal a chadw ac adnewyddu - y rheilffordd 'sefydlog' gan y bydd gwelliannau yn awr yn cael eu hystyried ar wahân.   O ran diddordeb lleol, nid oedd y cynllun yn cynnwys ailwampio £20m+ i Draphont Abermaw, fel rhan o'r cyfanswm ariannu o £1.3b.   Dyma'r tro cyntaf y bydd Llwybr datganoledig Cymru yn derbyn ei setliad ariannol ei hun wedi'i reoleiddio a chred Network Rail ei fod wedi datblygu cynllun cryf.   Yn ddiweddar, cwblhawyd yr olaf o'r cyfarfodydd ffurfiol gyda'r rheoleiddiwr, Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, a hyderir y bydd setliad llawn y bid a gyflwynwyd yn cael ei dderbyn fel rhan o'r cynllun.   

 

Roedd hefyd wedi bod yn bwysig cael cefnogaeth gref Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru oedd â rhan agos yn natblygiad y cynllun uchod.   Trwy sefyll gyda'r gweithwyr allweddol a'r rhanddeiliaid cred Network Rail fod ganddynt setliad ardderchog i Gymru a'r Gororau.

 

Anfonwyd copi o’r crynodeb at y Swyddog Cefnogi Aelodau a bydd hithau yn ei thro yn anfon copi ymlaen at aelodau'r Pwyllgor.

 

(c)           Diweddariad ar brosiectau lleol allweddol    

 

·         Roedd gorsaf Penhelyg wedi bod ar gau am nifer o fisoedd i alluogi Network Rail i ail-adeiladu'r holl blatfform.   Nodwyd fod y gwaith yn mynd rhagddo'n dda iawn ac yn ôl yr amserlen, fel y gallai'r orsaf ail-agor ar y 1af o Ebrill.

·         Gorsaf Tywyn - Darperir cynllun i wella'r platfform gan fod rhan o'r hen blatfform pren sydd wedi breuo wedi ei gau i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD GAN TRENAU ARRIVA CYMRU CYF.

I dderbyn adroddiad gan Mr Ben Davies, Trenau Arriva Cymru.

Cofnod:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Mr Ben Davies, Trenau Arriva Cymru, i gyflwyno ei adroddiad ar weithgareddau Trenau Arriva Cymru hyd yma.

 

Dywedodd Mr Davies erbyn hyn mai dim ond dau gwmni oedd yn ymgeisio i redeg y gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru o 2018.   

 

O ran y mesur perfformiad cyhoeddus, nodwyd fod Trenau Arriva Cymru yn chweched allan o 26 yn y DU oedd yn golygu fod trenau ar amser.   Roedd trafodaethau'n mynd rhagddynt gyda bysiau Traws-Cymru er mwyn trefnu gwell cysylltiadau gyda'r trenau.  Yn ogystal, roedd Mr Davies mewn cysylltiad gyda swyddogion CADW am y cynigion dau docyn am bris un i deithwyr oedd yn ymweld â'r ardal.     

 

I gloi, dywedodd Mr Davies fod y canopi ar Orsaf y Borth wedi ei drwsio ac wedi ei osod yn ei le yn ystod y deuddydd diwethaf.  

 

Penderfynwyd - Derbyn a nodi’r adroddiad a diolch i Mr Ben Davies am ei adroddiad.

 

 

7.

ADRODDIAD SWYDDOG PARTNERIAETH RHEILFFORDD Y CAMBRIAN

I dderbyn adroddiad gan Swyddog Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian. 

Cofnod:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Claire Williams, Swyddog Parterniaeth Rheilffyrdd y Cambrian, i'w chyfarfod cyntaf o'r pwyllgor hwn.

 

Amlinellodd y gweithgareddau wnaed ers y cyfarfod blaenorol sef:

 

(a)          Gwella cysylltiadau gyda chymunedau lleol a'u rheilffordd

 

Roedd gwaith cymunedol ac ymgysylltu yn parhau gyda Threnau Arriva Cymru a Network Rail. Yn ddiweddar, cynhaliwyd cystadleuaeth diogelwch croesfannau rheilffordd gydag Ysgol Maenofferen, Blaenau Ffestiniog, Ysgol y Traeth, Abermaw ac Ysgol Tan y Castell, Harlech, fel rhan o'r bartneriaeth gyda Network Rail i newid ffordd o feddwl pobl ifanc am bwysigrwydd croesfannau rheilffordd ac i ddangos iddynt y peryglon o beidio eu defnyddio'n gywir.
  Cafodd y buddugol a'r ddau oedd yn ail docynnau teulu rhad ac am ddim i weld Siôn Corn ar Reilffordd yr Ucheldir a Ffestiniog a thocynnau gan Bartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian a Chyngor Llyfrau Cymru. 

 

(b)       Gwelliannau parhaus a datblygiad gwasanaethau rheilffordd a seilwaith presennol

 

Cynhelir cyfarfodydd rhanddeiliaid allweddol bob mis i ddatblygu Bow Street, gyda chadeirydd SARLC hefyd yn mynychu'r cyfarfodydd hyn.  Yn ddiweddar, gofynnwyd i Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian gan Lywodraeth Cymru a Network Rail i arwain elfen Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y prosiect.  Byddai'r cynlluniau yn mynd allan i ymgynghoriad cyn bo hir ac ar hyn o bryd roeddent yn gweithio gyda nifer sylweddol o grwpiau anabledd a chydraddoldeb i sicrhau nad oes gan y cynlluniau effaith andwyol ar ddefnyddwyr gwasanaeth. 

 

(c)        Cynhyrchu amserlen benodol i lein leol

 

Mae amserlen boced Rhagfyr 2017 - Mai 2018 wedi ei chynhyrchu a'i dosbarthu i'r Canolfannau Croeso perthnasol, gorsafoedd a mannau gwerthu perthnasol eraill.  Bydd Swyddog Rheilffyrdd Partneriaeth y Cambrian hefyd yn gweithio'n agos gyda TAC ar unrhyw newidiadau i amserlen Mai 2018 - Rhagfyr 2018. 

 

(d)       Arolygon

 

Roedd Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn falch o gael gweithio gyda Phwyllgor Cyswllt Rheilffordd Amwythig i Aberystwyth gan gomisiynu arolwg a gynhaliwyd yng ngwanwyn 2017 fel rhan o'r grant gan Lywodraeth Cymru.  Mae'r arolygon yn dilyn llwyddiant arolygon 2013 a 2015 a olygodd well gwasanaethau ar Leiniau'r Cambrian.  Cyflwynwyd canlyniadau'r arolwg i Gareth Evans, Economegydd Rheilffyrdd Llywodraeth Cymru ynghyd â swyddogion eraill LlC, gan y Pwyllgor ar Dachwedd 17eg 2017 mewn cyfarfod ym Mharc Cathays.  Wedyn fe rannwyd yr wybodaeth yma i'r rhai fyddai'n gwneud bid am y fasnachfraint fel gwybodaeth gefnogol ar gyfer eu bid olaf, yr oedd yn rhaid ei gyflwyno i LlC a Thrafnidiaeth Cymru. 

(e)        Ymgyrch Hyrwyddo 2018/19

 

Roedd y SDRh hefyd wedi cytuno gyda'r bartneriaeth er mwyn gwneud y defnydd gorau o thema 'Blwyddyn y Môr 2018' Croeso Cymru, y byddai'n syniad da estyn gwahoddiad i dendro i greu a rheoli ymgyrch cyfryngau cymdeithasol Blwyddyn y Môr ynghyd â pharhau i reoli a chynnal gwefan newydd 'Cymru ar Gledrau'. Anfonwyd y gwahoddiad ym mis Rhagfyr er mwyn derbyn ymateb erbyn canol Ionawr.  Dyfarnwyd y contract i Equinox Communications yng Nghaerdydd, sydd eisoes wedi dechrau gwneud newidiadau sylweddol a gwella'r wefan a'r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, gyda'r wefan newydd  http://www.walesonrails.com a ddylai fynd yn 'fyw' yng nghanol mis Mawrth yn barod ar gyfer y Pasg.   Cafodd yr aelodau gyfle  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CWESTIYNAU FFURFIOL pdf eicon PDF 223 KB

I dderbyn ymateb I’r cwestiynau amgaeedig a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Roedd cwestiynau ysgrifenedig ffurfiol wedi eu cyflwyno gan amryw o Gynghorau Cymuned a chafwyd yr atebion isod:  

 

(a)       Cyngor Tref Cricieth - A oes diweddariad ar gael arwyddion i'r stesion drên yng Nghriccieth?

 

Roedd y Cydlynydd Trafnidiaeth Cyhoeddus wedi gwneud ymholiadau ac wedi anfon e-bost at y Swyddog Cefnogi Aelodau yn nodi mai Cyngor Gwynedd oedd berchen y tir, ond oherwydd diffyg lle parcio a gan nad oedd y ffordd yn addas i nifer o gerbydau, nid oedd yr Adran Draffig yn awyddus i gyfeirio cerbydau yno.   Er hynny, byddent yn barod i ystyried mwy o arwyddion i gerddwyr.  Os oedd Cyngor y Dref yn dymuno trafod y mater ymhellach, gellid gwneud cais er sylw Dylan Wynn Jones, Rheolwr Traffig.

 

(b)          Cyngor Cymuned Llanbedr - Dim ond holi pryd bydd y gwaith o osod barrier ar draws y ffordd Crossing Talwrn Bach yn cael ei wneud.   Deallwn fod y gwaith i fod i'w wneud eleni yn 2018.

 

Adroddodd Mr Sam Hadley nad oedd unrhyw newyddion da am yr uchod.   Y bwriad oedd dechrau ar y gwaith yn 2018, ond yn anffodus gan fod Carillion Construction wedi mynd i drafferthion ariannol, byddai'n rhaid i Network Rail fynd drwy'r broses o ail-dendro'r gwaith ac felly rhagdybiwyd mai yn 2019 y gwneir y gwaith.    

 

Penderfynwyd:          Diolch am y cwestiynau ac am yr atebion ffafriol a gafwyd gan y swyddogion.