skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Y Ganolfan, Porthmadog, Gwynedd. LL49 9LU. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sion Owen  01286 679665

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol cadeirydd i’r pwyllgor hwn ar gyfer 2018-19.

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Gadeirydd ar gyfer 2018-19.

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer y pwyllgor hwn ar gyfer 2018-19.

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Dewi Owen yn Is-gadeirydd ar gyfer 2018-19.

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatgniadau o fuddiant personol

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

4.

MATERION BRYS

I ystyried unrhyw faterion sydd yn faterion brys ym marn y cadeirydd.

Cofnod:

Nid oedd y Cadeirydd wedi derbyn unrhyw faterion brys.

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 100 KB

I gadarnhau cofnodion y cyfarod blaenorol a gynhaliwyd ar y 9fed o Fawrth 2018.

Cofnod:

Cyflwynwyd: Cofnodion cyfarfod y gynhadledd a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2018. 

 

Penderfynwyd: Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion.

 

6.

ADRODDIAD GAN NETWORK RAIL

I dderbyn adroddiad gan Mr Sam Hadley, Network Rail.

Cofnod:

Croesawyd Mr Sam Hadley, Rheolwr Materion Cyhoeddus Llwybrau Cymru, i'r cyfarfod ac fe adroddodd ar y materion isod: 

-       Fod y tywydd garw yn ystod Hydref 2018 wedi creu amgylchiadau heriol iawn.

-       Fod effaith newid hinsawdd yn cael ei weld yn llwyth gwaith Network Rail a bod adolygiad wedi ei gomisiynu i edrych ar yr effaith i’r dyfodol.

-       Nad oedd perfformiad y rheilffyrdd wedi bod cystal â’r gobaith, ond nododd nad oedd Rheilffordd Arfordir y Cambrian wedi ei effeithio mor ddrwg â llwybrau eraill.

-       Fod cydweithio agos rhwng Network Rail a Trafnidiaeth Cymru, gan sicrhau fod llais cryf gan Gymru.

-       Fod setliad uwch wedi ei dderbyn ar gyfer y cylch ariannu nesaf

-       Fod Prif Weithredwr newydd wedi ei benodi yn Awst 2018, oedd wedi datgan bwriad i adolygu strwythurau’r corff. Nododd fod bwriad i weithredu yn fwy lleol i’r dyfodol, gan wella’r ffocws ar ei gwsmeriaid.

 

Mewn ymateb i sylw am Adolygiad Williams i mewn i reilffyrdd Prydain nododd y byddai’n gwneud ymholiadau ynglŷn â chynnal cyfarfodydd) gyda budd-ddeiliaid Rheilffordd Arfodir y Cambrian er mwyn rhoi mewnbwn i’r Adolygiad.

 

Croesawyd Mr Chris Wood, Rheolwr Prosiect (Prosiectau Isadeiledd) Network Rail i’r cyfarfod, a derbyniwyd cyflwyniad ar waith gosod Netin Creigiau diweddar a wnaethpwyd ar 6 safle yn ardal Aberdyfi. Roedd y gwaith yn angenrheidiol er mwyn uwchraddio’r hafnau creigiog a’r tir ar ymyl y lein i gydymffurfio gyda safonau modern, a’i ddiogelu ble nad oedd hynny’n bosib. Nododd fod y gwaith wedi bod yn heriol oherwydd yr amgylchedd, a’r safleoedd ble ’roedd y gwaith wedi ei wneud. Aseswyd y tir yn drylwyr fel rhan o’r gwaith paratoi, a defnyddiwyd dull gweithredol o reoli’r tir gydag oes dyluniad o 120 mlynedd er mwyn lleihau’r gofyn i aflonyddu ar drigolion lleol er mwyn gweithio ar y lein, a lleihau costau cynnal a chadw ac i’r dyfodol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

-       Llongyfarch Network Rail am wneud y gwaith mewn modd oedd wedi achosi ychydig iawn o anghyfleuster, a nodi diolch am wneud ymdrech ychwanegol i leihau aflonyddu ar drigolion lleol.

-       Fod llawer o waith tacluso wedi ei wneud a bod hynny i’w groesawu gan ei fod wedi gwella edrychiad a diogelwch o gwmpas y lein

-       Fod y gwaith gwella ar Arhosfan Penhelig] wedi ei groesawu’n lleol, a gwnaed cais i ddangos lluniau yn y cyfarfod nesaf.

-       Fyddai’r llystyfiant a dorrwyd er mwyn gwneud y gwaith yn cael ei reoli i’r dyfodol?

-       Fyddai polisi rheoli llystyfiant Network Rail yn dychwelyd i’r polisi torri ‘ffens-i-ffens’ oedd yn bodoli yn y gorffennol?

 

Mewn ymateb nododd Mr Hadley fod y llystyfiant o boptu’r lein wedi ei drin er mwyn ceisio sicrhau na fyddai’n tyfu’n ôl i’r un graddau. Ychwanegodd fod polisi clirio llystyfiant Network Rail yn datblygu i fod torri yn ehangach nag y bu yn y gorffennol.

 

7.

ADRODDIAD GAN TRAFNIDIAETH CYMRU

I dderbyn adroddiad gan Mr Ben Davies, Trafniadiaeth Cymru.

Cofnod:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Mr Ben Davies, Trafnidiaeth Cymru, i gyflwyno ei adroddiad ar weithgareddau Trafnidiaeth Cymru hyd yma ac fe adroddodd ar y materion isod gan ganolbwyntio ar gynllun Trafnidiaeth Cymru am y tymor hir:

-       Ei fod wedi trosglwyddo o Drenau Arriva Cymru, gyda chyfrifoldeb dros Ganolbarth a Gogledd Cymru.

-       Fod Trafnidiaeth Cymru wedi cael dechrau anodd, gyda phedair wythnos o dywydd garw wedi arwain at ganran sylweddol o’u trenau wedi cael eu tynnu allan o wasanaeth er mwyn eu trwsio.

-       Mai nod tymor hir Trafnidiaeth Cymru oedd gwasanaeth cynhwysfawr saith diwrnod yr wythnos gyda cherbydau newydd.

-       Fod 421 o gerbydau newydd wedi eu harchebu, fyddai’n cael eu cyflwyno dros y pedair blynedd nesaf gan stopio defnyddio trenau dosbarth 158 ar Reilffordd Arfordir y Cambrian.

-       Fod Trafnidiaeth Cymru yn anelu i uwchraddio holl orsafoedd Cymru er mwyn gwella eu cyfleusterau a’u hedrychiad, yn ogystal â gwella gwybodaeth i deithwyr, cysylltedd diwifr a chyswllt cymunedol.

-       Mai nod tymor hir Trafnidiaeth Cymru oedd datblygu rhwydwaith integredig gyda threnau a bysus yn gweithio gyda'i gilydd i greu un rhwydwaith.

-       Byddai’r Gymraeg yn cael lle canolog gan y cwmni newydd.

-       Ei fod yn gyfnod cyffrous, gan nad oedd wedi bod mewn sefyllfa ble ’roedd cyllid ar gael ar gyfer datblygiadau newydd o’r blaen, felly estynnodd gwahoddiad i fudd-ddeiliaid Rheilffordd arfordir y Cambrian i gyflwyno syniadau.

 

Croesawyd yr adroddiad gan y Gynhadledd, gan nodi’r sylwadau canlynol o’r drafodaeth:

-       Fyddai posib rhannu manylion amserlen datblygu Rheilffordd y Cambrian i’r dyfodol pan fyddai ar gael?

-       Pwy fyddai’n monitro teledu cylch cyfyng fyddai’n cael ei osod yn y gorsafoedd?

-       Fyddai’r gwaith uwchraddio cysylltedd yn cynnwys mewnosod rhwydwaith 5G?

-       Fyddai’r datblygiadau yn arwain at amseroedd teithio byrrach?

-       Croesawyd y bwriad i hyrwyddo’r Gymraeg.

-       Croesawyd y bwriad i wella diogelwch, yn enwedig ar gyfer carfannau bregus o gymdeithas.

-       Galw am bresenoldeb dynol ar bob platfform er mwyn gwneud i deithwyr deimlo’n saff.

-       Beth fydd strwythur prisio tocynnau?

 

Mewn ymateb nododd Mr Davies:

-       Byddai’r teledu cylch cyfyng yn cael ei fonitro yng Nghaerdydd, ond mai staff fyddai’n gwneud y monitro.

-       Nid oedd unrhyw wybodaeth wedi dod i law ynglŷn â mewnosod cysylltedd 5G

-       Na fyddai natur Rheilffordd Arfordir y Cambrian yn galluogi cyflymu llawer ar amseroedd teithiau oherwydd y nifer o orsafoedd ar y lein.

-       Fod defnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg yn bwysig i Drafnidiaeth Cymru.

-       Byddai Trafnidiaeth Cymru yn gwella diogelwch gorsafoedd wrth eu huwchraddio, ond na fyddai’n bosib cyflogi staff ar gyfer pob gorsaf. Fodd bynnag, nododd y byddai gard ar bob trên fel rhan o’r cytundeb gwasanaeth.

-       Roedd y strwythur prisio ac amserlenni wedi cael eu trosglwyddo yn uniongyrchol yn y lle cyntaf, a byddai Trafnidiaeth Cymru yn eu hadolygu yn eu tro.

 

8.

ADRODDIAD Y RHEOLWR UNDED TRAFNIDIAETH INTEGREDIG

I dderbyna droddiad gan Reolwr yr Uned Drafniadiaeth Integredig.

Cofnod:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Rhian Williams, Rheolwr Trafnidiaeth Integredig i’r cyfarfod. Adroddodd fod Gwasanaeth Trafnidiaeth Integredig y Cyngor yn bwriadu adolygu’r rhwydwaith bysus yn 2019. Ychwanegodd eu bod hefyd yn bwriadu cydweithio’n agos gyda Thrafnidiaeth Cymru i’r dyfodol.

9.

ADRODDIAD SWYDDOG RHEILFFORDD Y CAMBRIAN pdf eicon PDF 312 KB

I dderbyn adroddiad Swyddog Rheilffordd y Cambrian.

Cofnod:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Claire Williams, Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian.

 

Amlinellodd y gweithgareddau wnaed ers y cyfarfod blaenorol sef:

-       Fod y gwaith o hyrwyddo’r Rheilffordd wedi parhau, gyda gwefan newydd wedi ei datblygu a’r tudalennau ar wefannau cymdeithasol wedi cyrraedd mwy o bobl. ‘Roedd pwyslais Croeso Cymru gydag ymgyrch Blwyddyn y Môr yn 2018 o gymorth wrth hyrwyddo Rheilffordd Arfordir y Cambrian.

-       ‘Roedd Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian wedi penderfynu creu hysbyseb i’w dangos ar rwydwaith Sky yn ardal Swydd Amwythig. Ystyriwyd yr hysbyseb yn llwyddiant gan iddi gael ei gweld gan oddeutu 171000 o bobl.

-       Cynhaliwyd digwyddiad llwyddiannus iawn yng ngorsaf Birmingham New Street o’r enw ‘Mynd a Glan y Môr i Birmingham’, a dyfarnwyd y digwyddiad yn ail yng nghategori ‘Ymgyrch Farchnata neu Gyfathrebu Orau’ gwobrau'r Gymdeithas Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol.

-       Fod gwaith wedi ei wneud er mwyn asesu pa mor dementia cyfeillgar oedd Gorsaf y Drenewydd. ‘Roedd y profiad yn werthfawr er mwyn asesu gorsafoedd Rheilffordd Arfodir y Cambrian wrth i fwy o gymunedau anelu i ddod yn gymunedau dementia cyfeillgar. ‘Roedd Trafnidiaeth Cymru wedi cynorthwyo trwy gynnig teithio am ddim i’r rhai oedd yn asesu a chynorthwyo.

-       Fod fideo wedi ei greu ar y cyd a Network Rail er mwyn hysbysu’r cyhoedd o beryglon croesfannau ar y rheilffordd, oedd yn parhau yn broblem.

 

Penderfynwyd - Derbyn a nodi’r adroddiad a diolch i Swyddog Rheilffyrdd Partneriaeth y Cambrian amdano.

 

10.

ADRODDIAD HEDDLU TRAFNIDIAETH BRYDEINIG

I dderbyn adroddiad gan gynrhychiolydd o’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.

Cofnod:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i PC Andy Greaves o’r Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig.

 

Cyflwynodd ei hun gan roi trosolwg o’i waith, gan nodi fod y nifer o droseddau ar leiniau Amwythig i Aberystwyth a Rheilffordd Arfordir y Cambrian yn isel iawn. Y brif broblem ar Reilffordd Arfordir y Cambrian oedd tresmasu ar y lein wrth i aelodau’r cyhoedd gymryd mantais o lwybr y rheilffordd er mwyn canfod llwybr byrrach. ‘Roedd yn gobeithio y byddai’n bosib defnyddio technoleg er mwyn canfod pobl yn tresmasu yn gynt. Nododd y byddai’n hapus i sgwrsio gydag unrhyw un o aelodau’r Gynhadledd er mwyn trafod a cheisio datrys problemau.

11.

CWESTIYNAU FFURFIOL pdf eicon PDF 288 KB

I dderbyn atebion i unrhyw gwestiynnau amgaedig a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf.

Cofnod:

Roedd cwestiynau ysgrifenedig ffurfiol wedi eu cyflwyno gan amryw o Gynghorau Cymuned a chafwyd yr atebion isod:  

 

1

Cyng. Annwen Hughes – Cwestiwn i Network Rail

 

“Beth yw'r diweddaraf erbyn hyn ynglŷn â gosod barriers ar groesfan Talwrn Bach”

 

Nodwyd mai'r pecyn o ddatblygiadau oedd yn cynnwys croesfan Talwrn Bach oedd un o’r ychydig rai i gael ei effeithio gan gwymp cwmni Carillion. Nid oedd y sefyllfa wedi newid ers cyfarfod blaenorol y Gynhadledd, ac y byddai’r gwaith yn cael ei raglennu ar ôl Ebrill 2019. Nododd Mr Sam Hadley ei fod yn cydymdeimlo gyda rhwystredigaeth y trigolion lleol, ac y byddai’n adrodd ar unrhyw gynnydd yng nghyfarfod nesaf y Gynhadledd.

 

2.1

Richard Williams, Cynghorydd Tref Porthmadog – Cwestiwn i Trafnidiaeth Cymru

 

“Pam fod y gwybodaeth ar y system uchelseinydd yn uniaith Saesneg yn yr orsaf Porthmadog?”

 

Nodwyd y byddai cyhoeddiadau uchelseinydd i’r dyfodol yn ddwyieithog, yn unol â pholisi Trafnidiaeth Cymru.

 

2.2

“Agwedd anghwrtais gan y person ‘Arweinydd Tocynnau ar y tren’ pan holais beth oedd y rheswm nad oeddwn yn cael defnyddio’r Cerdyn Teithio. (Pam fod teithwyr Blaenau Ffestiniog a Conwy yn cael eu defnyddio drwy y flwyddyn)” 

 

Nodwyd fod y trenau presennol ar Reilffordd Arfodir y Cambrian yn rhy brysur i alluogi teithiau am ddim. Hyderwyd y byddai dyfodiad trenau gyda mwy o seddi yn galluogi cynnig yr un gwasanaeth i’r dyfodol.

 

3.1

Cyngor Tref Porthmadog - Cwestiynau i Trafnidiaeth Cymru, Network Rail a’r Pwyllgor

 

“Dymunai Gyngor Tref Porthmadog dderbyn sicrhad gennych fod yr Iaith Gymraeg am gael ei defnyddio ym mhob agwedd o wasanaeth gan y gweithredwr trenau ar Reilffordd Arfodir y Cambrian

 

Dymunir gweld popeth yn ddwyieithog a dymunir gweld enwau llefydd yn cael eu hynganu/cyhoeddi mewn Cymraeg Cywir.”

 

Nodwyd fod polisi Trafnidiaeth Cymru yn golygu fod hyn ar y gweill, a bod rhaid gwella’r ddarpariaeth fel rhan o’r trefniadau newydd.

 

4.1

Cyng. Owain Williams – Cwestiynnau i Trafnidiaeth Cymru a Network Rail

 

“A yw holl lenyddiaeth y Rheilffordd Cambrian yn hollol ddwyieithog? h.y. posteri, taflenni gwybodaeth ayyb. Os na, yna pryd gellir hyn ddigwydd?”

 

Nodwyd fod Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu cydweithio gyda Claire Williams, Swyddog Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian a gweithredu ei pholisi o weithredu’n ddwyieithog. Bwriedid dechrau’r gwaith yn fuan.

 

4.2

“A yw’r holl staff sy’n delio a’r cwsmeriaid ar Reilffordd y Cambrian yn Ddwyieithog? Os na, yna pryd y gellir disgwyl hyn?”

 

Nodwyd mai ychydig iawn oedd cyswllt Network Rail gyda’r cyhoedd yn uniongyrchol. Fodd bynnag, ychwanegwyd y byddai Netwrork rail yn gweithio’n agos gyda Trafnidiaeth Cymru er mwyn rhoi wyneb cyhoeddus dwyieithog.

 

5

R. Goodhew, Cymdeithas Teithwyr Rheilffordd Aberystwyth i’r Amwythig – Cwestiwn i Trafnidiaeth Cymru

 

Are there any plans to provide specific guidance for passengers who are travelling to and from the Cambrian Coast Line and the Cambrian Main Line west of Machynlleth in the next version of the printed pocket timetable (Dec 2018)? [any through carriages/change at Mach/Change at Dyfi Jn etc]

 

Nodwyd y byddai llawer o drefniadau oedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.