Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

 

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Eirwyn Williams, (Cyngor Gwynedd), Cyng. Angela Russell (Cyngor Gwynedd), Cyng. Gareth Griffith (Aelod Cabinet Amgylchedd - Cyngor Gwynedd), Liz Saville Roberts (AS Dwyfor Meirionnydd), Mabon ap Gwynfor (AS Dwyfor Meirionnydd), Cyng. Annwen Hughes, (Cynrychiolydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri) Claire Williams (Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian), Cyng. Michael Williams (Cyngor Powys), Ann Elias (Cyngor Sir Ceredigion) a Joyce Watson (AC Rhanbarth Gorllewin a Chanolbarth Cymru)

 

Amlygodd y Cadeirydd bod y Cynghorodd Selwyn Griffiths yn ymddeol fel Cynghorydd Sir ym mis Mai 2022. Diolchodd i’r Cynghorydd am ei waith a’i gefnogaeth i’r Cambrian dros y blynyddoedd. Mewn ymateb, nododd y Cynghorydd Griffiths ei fod wedi mwynhau bod yn rhan o’r grŵp a’i fod yn pwysleisio'r angen i’r grŵp barhau i sicrhau bod y Cambrian yn allweddol i economi Gwynedd. Diolchodd  i’r swyddogion am eu cefnogaeth a’u parodrwydd i gydweithio ac ymateb i bryderon. Ar ran Network Rail, mynegodd Sam Hadley ei ddiolch i’r Cynghorydd am ei waith a hefyd am y croeso cynnes  wrth ymweld â Porthmadog.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 239 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd 1af o Hydref  2021

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 1af o Hydref 2021 fel rhai cywir

 

Materion yn codi o’r cofnodion:

·         Sicrhau bod posteri yng ngorsaf Llandanwg yn amlygu gwasanaeth tacsi. GJ i wirio hyn ynghyd a sicrau bod gwybodaeth gyfredol yn atgoffa defnyddwyr o’r gwasanaethau bws fydd ar gael o ganlyniad i Draphont Abermaw yn cau

·         Strategaeth Llwybrau Diogel at Wasanaethau - sut mae rhoi mewnbwn i’r strategaeth? GJ i rannu manylion gyda’r Cynghorydd Gwynfor Owen

·         Gosod rhwystrau damweiniau a thrwsio wal derfyn ar yr A493 rhwng Llwyngwril a Friog. Cyfarfod nesaf gyda’r Cyngor Cymuned wedi ei drefnu ar gyfer 9/3/22. Pryder gan yr Aelod Lleol (Cyng. Louise Hughes Llangelynnin) bod cyflwr y wal yn gwaethygu ac amserlen ar gyfer cwblhau’r gwaith yn llithro. SH yn amlygu bod rheolwr prosiect a chyllideb wedi ei gosod ar gyfer y gwaith sydd yn parhau yn faes blaenoriaeth.

·         Gorsaf Llanbedr - adroddwyd bod cyfarfod i drafod gwelliannau / addasiadau posib i’r orsaf wedi ei gynnal gyda’r Cyngor Cymuned ym mis Hydref, bod David Crunkhorn (Gorsaf Feistr) wedi ymweld â’r orsaf a bod ail gyfarfod wedi ei drefnu gyda’r Cyngor Cymuned. Cais am ddiweddariad pan fydd mwy o wybodaeth ar gael GJ

·         Cais am gyllid i gynnal astudiaeth fer ar wasanaeth trên posib rhwng Bangor ac Afonwen wedi bod yn aflwyddiannus oherwydd bod angen mwy o dystiolaeth am y buddion posib. BG yn adrodd bod gwaith yn cael ei wneud i ailgyflwyno cais i’r dyfodol.

 

5.

DERBYN DIWEDDARIAD GAN Y GWASANAETHAU

·         Network Rail

·         Trafnidiaeth Cymru

·         Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig

Cofnod:

NETWORK RAIL

 

Croesawyd Sam Hadley, Rheolwr Materion Cyhoeddus Llwybrau Cymru i’r cyfarfod

 

Diweddariad ar uwchraddio traphont Abermaw

 

Cyflwynwyd lluniau a ffeithiau allweddol ar waith a gwblhawyd ar y draphont rhwng Medi 2021 a Rhagfyr 2021. Nodwyd bod y gwaith wedi bod yn heriol ac yn ffisegol anodd i’r gweithwyr oherwydd amodau gwaith yn ymwneud a’r tywydd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn os oedd rhywfaint o’r bont wreiddiol yn weddill, nodwyd bod pob ymgais yn cael ei wneud i gadw cymaint â phosib o’r nodweddion gwreiddiol a bod unrhyw ailosodiad yn un ‘tebyg at ei debyg’. Ategwyd bod y bont wedi ei chofrestru (Gradd 2) a bod pob ymgais yn cael ei wneud i sicrhau bod y nodweddion yn cael eu diogelu.

 

ETCS (European Train Control System)

 

Adroddwyd bod y System ETCS sydd yn cael ei ddefnyddio i reoli signalau a chyflymder trenau yn cael ei uwchraddio ar gyfer fflyd Dosbarth CAF 197 Civity fydd yn cael eu defnyddio ar y Cambrian i’r dyfodol agos.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a fyddai’r llinell Cambrian yn cau dros gyfnod  uwchraddio’r system ETCS, nodwyd y byddai’r gwaith yn debygol o gael ei wneud dros y penwythnos ac / neu yn ystod cyfnod cau arall sydd wedi ei gynllunio i osgoi aflonyddwch.

 

Prosiect Glandulas (Black Bridge) ger Machynlleth

 

Bod codi'r bont sy'n rhedeg dros yr Afon Dulas wedi profi yn llwyddiannus iawn.  Codwyd y bont un metr yn uwch er mwyn lleihau effaith llifogydd ( lefel yr afon yn codi yn ystod  glaw trwm a llinell y Cambrian yn gorfod cau). O ystyried bod y buddsoddiad yn un eithaf bychan, yr effaith yn sylweddol - yn ystod y tywydd garw diweddar, nodwyd nad oedd  llifogydd arferol wedi atal gwasanaethau’r Cambrian

 

Rhaglen Mynediad i Bawb (Access for All)

 

Amlygwyd bod y rhaglen yn gwella mynediad i orsafoedd a bod gorsafoedd ar draws y wlad yn cael eu hysytired ar gyfer gwelliannau. Am y tro cyntaf eleni, amlygwyd bod dwy o orsafoedd y Cambrian wedi eu cynnwys ar y  rhestr waith posib - hyn yn rhywbeth nas gwelwyd o’r blaen ac yn newyddion gobeithiol.

                                                           

 

TRAFNIDIAETH CYMRU

 

Croesawyd Gail Jones, Trafnidiaeth Cymru i’r cyfarfod i gyflwyno diweddariad ar weithgareddau Trafnidiaeth Cymru.

 

Cyflwynwyd gwybodaeth am y trenau newydd Dosbarth CAF 197 Civity

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gweld model o’r cerbydau newydd nodwyd bod gwahoddiad i ymweld â’r  trenau newydd wedi ei drefnu Ebrill 2022 a  thaith brawf yn cael ei threfnu i Gyffordd Llandudno. Mewn ymateb, amlygwyd bod dyddiadau ymweld mis Ebrill yng nghanol cyfnod cyn etholiad ac felly’n debygol o fod angen eu hail drefnu.

 

Cyfeiriwyd at SGWRS sef cymuned ymchwil ar-lein Trafnidiaeth Cymru i rannu  barn ar drafnidiaeth yng Nghymru gyda chyfle i gymryd rhan mewn arolygon, trafodaethau ar-lein, a fforymau trafod i wella’r gwasanaeth.

SGWRS (tfw.wales)

 

Amlygwyd pryder bod y cerbydau newydd gyda llai o seddau ac un toiled fesul 2 gerbyd. Ategwyd bod y Cambrian yn un o linellau mwyaf prysur Cymru a’r defnydd yn cynyddu o flwyddyn i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

DYFODOL CYNHADLEDD ARFORDIR Y CAMBRIAN pdf eicon PDF 420 KB

Trafod awgrym a wnaed gan Bwyllgor Cyswllt Rheilffordd yr Amwythig ac Aberystwyth (SARLC) i gyfuno Pwyllgorau SARLC a Chynhadledd yr Arfordir.

Cofnod:

 

Cynigiwyd gohirio'r drafodaeth ar y mater tan ar ôl cyfnod yr etholiad. Ategwyd bod cynnal y drafodaeth yn hanfodol ac mai dyhead yr aelodau oedd parhau fel grŵp ar wahân. Angen sicrhau bod swyddogion Cyngor Gwynedd yn ymwybodol o hyn.

 

7.

CWESTIYNAU FFURFIOL pdf eicon PDF 324 KB

I dderbyn ymateb i gwestiynau ffurfiol a dderbyniwyd

Cofnod:

 

Derbyniwyd cwestiynau ysgrifenedig ffurfiol gan Gyngor Tref Criccieth

 

‘Mae Cyngor Tref Criccieth yn pryderu nad yw Network Rail yn cyfathrebu yn ddigonol gyda’r cyhoedd i nodi pryd oedd y trenau wedi ail-ddechrau’n ddiweddar – a bod angen gwella hyn ar gyfer y dyfodol gan ei fod yn fater iechyd a diogelwch. A oes modd sicrhau gwell cyfathrebu am newidiadau i’r gwasanaeth i’r dyfodol? Mae Cyngor Tref Criccieth hefyd a chonsyrn am daclusrwydd/edrychiad y tir o gwmpas y stesion ar y dde. A oes modd gwneud rhywbeth amdano’

 

Derbyniodd SH y feirniadaeth ac amlygodd bod  pob ymgais wedi ei wneud i sicrhau cyn lleied â phosib o aflonyddwch a chymhlethdod yn ystod y cyfnod heriol o gau ac ail agor y rheilffordd. Ategodd, yn y dyfodol, bydd mwy o ystyriaethau  i faterion  diogelwch croesfannau ac y bydd gwelliant yn y dulliau cyfathrebu wrth weithio tuag at Cyfnod 3.

 

Yng nghyd-destun taclusrwydd yr orsaf nodwyd mai TFC sydd yn gyfrifol am daclusrwydd yr orsaf a bod Network Rail, fel perchennog y tir, yn gyfrifol am y rheilffordd a thir bob ochr i’r rheilffordd ac yn llesu'r orsaf i TFC i reoli materion dydd i ddydd. Nododd y byddai yn codi cais gwasanaeth ar ran Cyngor Tref Criccieth ac y byddai asesiad yn cael ei wneud o’r gwaith angenrheidiol. Ategodd GJ y byddai yn cysylltu gyda Rheolwr yr Orsaf.

 

Diolchwyd i bawb am eu cyfraniad