skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Mabon ap Gwynfor (AS Dwyfor Meirionnydd), Llio Hughes (Rheolwr Swyddfa Plaid Cymru – Senedd Cymru), Ann Elias (Cyngor Sir Ceredigion), Cyng. Trevor Roberts (Rheilffordd Aberystwyth/Amwythig), Clare Williams (Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian) a David Thorp (Ysgol Uwchradd Tywyn)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

 

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 156 KB

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 18 Tachwedd 2022 fel rhai cywir

 

 

5.

DERBYN DIWEDDARIAD GAN Y GWASANAETHAU

 

·         Network Rail

·         Trafnidiaeth Cymru

·         Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig

Cofnod:

 

NETWORK RAIL

 

Croesawyd Ben Perkins (Rheolwr Prosiect), Gareth Yates (Rheolwr Prosiect) a Sara Crombie (Rheolwr Cyfathrebu Network Rail) i’r cyfarfod

 

Diweddariad ar uwchraddio traphont Abermaw

 

Cyflwynwyd lluniau a ffeithiau allweddol ar y gwaith ar y draphont gan nodi bod y gwaith pren bellach wedi ei gwblhau ar gwaith dur ar ddechrau. Nodwyd na fydd dim newid i ddyluniad y bont wreiddiol - strwythurau dur newydd yn cael eu hadeiladu gan gwmni o Doncaster fydd yn cael eu cludo fesul darn i  Abermaw ar ddechrau’r Haf. Bydd y bont yn cau rhwng 01-09-23 a 25-11-23 i gwblhau’r gwaith (gan fanteisio ar gwblhau gwaith atgyweirio ychwanegol ar y rheilffordd tra wedi cau)

 

Diweddariad ar draphont Aberdyfi

 

Adroddwyd, fel traphont Abermaw bod angen adnewyddu’r strwythur yn llawn a’r gwaith yn cael ei gwblhau mewn dwy ran i osgoi  aflonyddwch amgylcheddol. Bydd y bont yn cau rhwng 01-09-23 a 31-10-23.

 

Diolchwyd am y diweddariad a gwerthfawrogwyd y buddsoddiad yn lleol.

           

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â galluogi mynediad at waith traphont Aberdyfi, nodwyd bod cynllun mynediad at y safle wedi cael ei gymeradwyo. Bydd y mynediad o ochr Ceredigion i’r aber gyda thrafodaethau eisoes wedi eu cynnal gyda thirfeddianwyr . Mewn ymateb i sylw pellach ynglŷn ag ail gyfeirio Llwybr yr Arfordir i fynd dros y bont yn hytrach na dros y mynyddoedd, nodwyd nad oedd hyn yn bosib oherwydd bod y bont yn rhy gul.

 

Mewn ymateb i siom bod y rheilffordd yn cau ar ddechrau mis Medi a hynny yn effeithio ar ddigwyddiadau sydd wedi eu trefnu yn lleol yn ystod y cyfnod yma,  nodwyd, er yn derbyn yr effaith ar y tymor gwyliau a digwyddiadau lleol bod rhaid sicrhau balans gyda mynediad ecolegol a’r angen am gyfnod amser o 12 wythnos i wneud y gwaith (amodau caeth ar draphont Dyfi oherwydd gwyddau sydd yn cael eu gwarchod).

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn a darpariaeth bysiau yn ystod y cyfnod cau, nodwyd bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda Trafnidiaeth Cymru. Unwaith bydd trefniadau wedi eu cadarnhau bydd modd rhannu’r wybodaeth. Mewn ymateb, nodwyd bod angen sicrhau gwasanaeth bysiau digonol ar gyfer digwyddiadau lleol e.e., Gŵyl Gwrw Harlech

Angen trefnu cyfarfod gyda’ Trafnidiaeth Cymru i drafod darpariaeth bysiau digonol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r amserlen, gan dderbyn bod y gwaith yn heriol ac amodau tywydd yn cael effaith, nodwyd bod y tywydd wedi’i raglennu i mewn i’r amserlen a bod gwaith o adeiladu’r gwaith dur yn datblygu yn dda. Ategwyd, bydd y bont yn cael ei chludo mewn darnau ar gefn lori i safle Morfa Madog ddiwedd Mai gydag ymarferiad o adeiladu’r bont wedi ei gynnal yn Doncaster cyn hynny. Cadarnhawyd nad oeddynt yn edrych ar gau’r bont wedi mis Tachwedd. Awgrymwyd cynnal ymweliad safle fel bod modd i’r Aelodau weld y gwaith.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ategol ynglŷn â goblygiadau cludo’r gwaith dur yn ystod tymor gwyliau, nodwyd y bydd y gwaith cludo yn golygu rhyddhau rhybudd cludiant a’r cwmni cludo yn gwneud  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CWESTIYNAU FFURFIOL pdf eicon PDF 96 KB

I dderbyn ymateb i gwestiynau ffurfiol a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf:

 

·         Cyngor Cymuned Llangylennin

·         Cyngor Cymuned Llanbedr

·         Cyngor Tref Criccieth

·         R Goodhew (Cymdeithas Teithwyr Amwythig-Aberystwyth)

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Cyngor Cymuned Llangelynnin

 

Cwestiwn i Network Rail NR): Hoffai Cyngor Cymuned Llangelynnin ofyn y cwestiwn i NR ac unrhyw barti perthnasol arall ynghylch pryd y gall gwaith ddechrau ar Allt Friog Hill A493 parthed y wal ffin /rhwystr damwain, gan fod hyn wedi'i amserlennu i gychwyn yn Chwarter 1 o 2023, (rydym bron ar ddiwedd y cyfnod erbyn hyn) Mae rheolaeth traffig wedi bod ar waith ers cryn amser bellach a dim arwydd o unrhyw waith wedi ei wneud.

 

Ategodd Y Cynghorydd Louise Hughes (Aelod Lleol) bod y sefyllfa wedi bod yn destun pryder i’r ardal ers bron i 10 mlynedd ac er bod trafodaethau ac asesiadau yn cael eu cwblhau, nid yw’r gwaith wedi dechrau.

 

Ateb: NR yn dal yn ymrwymedig i wneud y gwaith atgyweirio i'r wal ar Allt Friog Fodd bynnag, bod rhai datblygiadau dros yr wythnosau diwethaf  wedi newid elfennau o’r gwaith roeddynt yn bwriadu ei wneud. Daeth i’r amlwg, wrth edrych trwy hen ddogfennau, fod llythyr yn dyddio’n ôl i 1976 yn nodi y bydd NR yn parhau i gynnal a chadw’r wal derfyn, ond bod y rhwystr damwain ar yr A493  yn eiddo i Cyngor Gwynedd a’r Cyngor felly yn gyfrifol am ei gynnal. Ategwyd bod  Tîm Eiddo NR wedi cysylltu â Steffan Jones, Pennaeth Priffyrdd Cyngor Gwynedd, i geisio trafod y mater. Er na fydd hyn yn effeithio cynlluniau NR i atgyweirio’r wal, bydd yn newid sgôp y gwaith ac felly byddent ond yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar yr asedau sydd o fewn eu perchnogaeth.

 

O ran y broses, nodwyd bod NR wrthi yn cwblhau dyluniadau ac yn adolygu'r costau. Wedi sicrhau cyllid digonol i gyflawni'r prosiect bydd angen gosod amserlen i gwblhau’r gwaith. Awgrymwyd cynnal galwad Teams neu Zoom gyda chynrychiolwyr o ardal Friog - Cyngor Cymuned Llangelynnin, Cyngor Cymuned Arthog ac Aelodau’r wardiau priodol i drafod yn fanylach gyda Thîm Asedau NR

 

Nododd y Cynghorydd Dafydd Meurig (Aelod Cabinet Amgylchedd) y buasai’n cysylltu gyda Phennaeth Priffyrdd, Peirianneg a YGC am ddiweddariad o safbwynt y Cyngor.

 

Nododd Y Cyng. Louise Hughes y byddai’n croesawu gwahoddiad i gyfarfod Teams  / Zoom  i drafod ymhellach ac o’i dymuniad i gael ei chynnwys mewn unrhyw ohebiaeth pellach. Roedd hefyd yn awyddus i wahodd Aelod Cabinet Amgylchedd ac Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg a YGC am ymweliad safle.

 

Cyngor Cymuned Llanbedr

 

Cwestiwn: Hoffwn wybod os a phryd fydd Gorsaf Drên Llanbedr yn cael ei adnewyddu. Diolchwn fod yr orsaf wedi cael ei phaentio yn ddiweddar.

 

Ateb Trafnidiaeth Cymru (TC): Nid oes unrhyw ddiweddariad mewn perthynas â gwella cyfleusterau gorsaf Llanbedr. Mae'r holl orsafoedd wedi'u cynnwys mewn Cynllun Integredig a bod bwriad ymweld i gwblhau gwaith ail-frandio, arwyddion a gwelliannau i asedau gorsafoedd h.y. seddi, llochesi ac ati. Fodd bynnag, nid oes cyllid wedi’i ddyrannu ar hyn o bryd i symud ymlaen ar hyn.

 

Mewn ymateb, nododd yr Aelod Lleol, gyda Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ffordd osgoi i Lanbedr, bod angen uwchraddio a gwella cyfleusterau gorsaf Llanbedr.

 

Cwestiwn: Rydym fel Cyngor  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.