skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Ms M A G Davies (Preswylydd Lleol) a Mr Simon Bromley (Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 220 KB

Bonna Pizza, 23 Holyhead Rd, Bangor LL57 2EU

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Caniatau y cais yn unol â sylwadau'r Heddlu, a gofynion Deddf Trwyddedu 2003.

 

 

Cofnod:

 

Bona Pizza, 23 Ffordd Caergybi, Bangor

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Amlygodd y Rheolwr Trwyddedu nad oedd yr Aelodau Lleol wedi cyflwyno sylwadau, ond yn awyddus i annerch yr Is-bwyllgor os byddai’r holl bartïon yn derbyn hynny.

 

Mewn ymateb, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd eu bod yn derbyn anerchiad yr Aelodau Lleol, ond yn dymuno nodi bod amserlen bendant wedi ei gosod ar gyfer cyflwyno sylwadau.

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer siop bwyd poeth i’w gario allan yn gwerthu pizza, kebabs, byrgyrs a sglodion; y cais yn cael ei gyflwyno mewn perthynas â darparu lluniaeth hwyr yn y nos ac oddi ar yr eiddo.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod gwrthwynebiadau i’r cais wedi eu derbyn gan aelodau o’r cyhoedd ar sail niwsans cyhoeddus, yn benodol mewn perthynas tebygol mewn sŵn yn hwyr yn y nos gan gwsmeriaid, yn ogystal â niwsans arogleuon. Nodwyd hefyd bod deiseb wedi ei derbyn yn cyfeirio at bryderon mewn perthynas ar Amcanion Trwyddedu o Atal Niwsans Cyhoeddus a Diogelwch y Cyhoedd. Amlygwyd bod Heddlu Gogledd Cymru yn argymell amodau TCC i’w cynnwys ar y drwydded ynghyd a sicrhau bod staff yn derbyn hyfforddiant mewn perthynas â holl agweddau’r Ddeddf Trwyddedu. Nid oedd gan y Gwasanaeth Tân wrthwynebiad i’r cais

 

Argymhellwyd i’r Pwyllgor ganiatáu’r cais yn unol â sylwadau’r Heddlu a gofynion Deddf Drwyddedu 2003.

 

a)                    Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·         Cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·         Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.

·         Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ymhelaethu ar y cais a galw tystion

·         Rhoi cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd

·         Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd

·         Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw sylwadau ysgrifenedig

·         Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd grynhoi eu

hachos.

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r ‘angen’ i’r eiddo fod yn agored hyd 3:30am, nododd y Rheolwr Trwyddedu bod ardal Bangor Uchaf yn ardal drwyddedig hwyr  - byddai’r eiddo yma yn cyfateb i oriau trwyddedig dau eiddo pryd ar glud arall yn yr ardal.

Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd:

·         Ei bod yn sicrhau bod gan y ddau ymgeisydd brofiad helaeth o weithio yn y diwydiant bwyd (cyfnod o 25 mlynedd)

·         Bod oriau agor bwriededig yn cyfateb i oriau 2 eiddo arall yn yr  un ardal ynghyd a siop gyfleus oedd yn agor 24 awr

·         Bod gofyn am hanner awr ychwanegol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.