skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Lis Williams (Heddlu Gogledd Cymru) a Jonathan Evans (ymgynghorai lleol)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 272 KB

Abersoch Diner, Stryd Fawr, Abersoch, LL53 7DY

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

Caniatáu y cais 

 

Cofnod:

Abersoch Diner, Stryd Fawr, Abersoch

 

Ar ran yr eiddo:                     Gavin Hancock  (Ymgeisydd)

                                               

                                               

Eraill a wahoddwyd:             Moira Duell-Parry - Swyddog Iechyd yr Amgylchedd

                                                Cyng Dewi Roberts (Aelod Lleol)

Patricia Meyrick, Einir Wyn, Mary Marsden, Terry Evans, Paul Evans, Donna Jones a Cherry Steele (Ymgynghorai Lleol)

                                               

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau

 

a)            Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am amrywio trwydded eiddo ar gyfer Abersoch Diner, Stryd Fawr, Abersoch. Gwnaed y cais mewn perthynas ag ymestyn oriau agor, gwerthu alcohol ar yr eiddo a darparu cerddoriaeth wedi recordio ar yr eiddo.

 

Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Amlygwyd, bod yr ymgeisydd, yn dilyn derbyn sylwadau ac amodau gan Adran Gwarchod y Cyhoedd a sawl gwrthwynebiad i’r cais, wedi cyfaddawdu i beidio â defnyddio’r ardal allanol ar ôl 6:00yp a bod rhaid i’r drysau a’r ffenestri fod wedi cau wrth chwarae cerddoriaeth ar lefel sŵn cefndirol yn unig.  Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded. Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori gan nodi nad oedd gan yr Heddlu na’r Gwasanaeth Tân wrthwynebiadau.

 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

b)         Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno.

 

Ategodd y sylwadau canlynol:

 

·         Ei fod wedi cytuno i gyfaddawd yn dilyn trafodaethau

·         Ei fod wedi cytuno i beidio defnyddio’r ardal allanol ar ôl 6:00yh

·         Ei fod yn ymwybodol y bydd yr amodau yn cael eu cynnwys ar y drwydded petai yn cael ei chaniatáu

·         Ei fod angen yr addasiadau er mwyn cystadlu gyda busnesau tebyg ar Stryd Fawr Abersoch

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan yr is-bwyllgor, nododd bod y wal derfyn rhyw 10 - 15m o’r eiddo cyfagos ac nad oedd wedi derbyn cwynion am sbwriel a sŵn yn y gorffennol.

 

ch)       Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar eu gwrthwynebiadau i ganiatáu trwydded gan ategu at sylwadau a gyflwynwyd trwy lythyr.

Swyddog Iechyd yr Amgylchedd,

·         Bod yr ymgeisydd, yn dilyn trafodaethau, wedi cytuno i beidio â defnyddio’r ardal allanol ar ôl 6:00yp a bod rhaid i’r drysau a’r ffenestri fod wedi cau wrth chwarae cerddoriaeth ar lefel sŵn cefndirol yn unig.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.