skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Elfed P Roberts (Aelod Lleol) Daniel Preston ac Ian Page (ymatebwyr)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 347 KB

CAFFI A BAR PARC GWYLIAU TRAWSFYNYDD

 

I ystyried y cais

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Caniatáu y cais diwygiedig yn unol â chaniatâd cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (rhif NP5/78/519/A - sylwadau Gwarchod y Cyhoedd) a gofynion Deddf Trwyddedu 2003
  • Cynnwys y mesurau a argymhellir yn adran M o’r cais fel amodau i’r drwydded

 

Cofnod:

CAIS AM DRWYDDED EIDDO – CAFFI A BAR PARC GWYLIAU TRAWSFYNYDD, BRONABER, TRAWSFYNYDD

 

Ymgeisydd     Mr David Owen (ar ran Pure Leisure Group)

 

Ymatebwyr    Michael Sawyer, David Meech, Ric Taylor, Kathryn Hawker, Jamie a Clare Kerrigan, Jane Dinnell a Rachel Jones

           

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer caffi a bar Parc Gwyliau Trawsfynydd – cynllun llawr agored gyda deciau i eistedd tu allan. Amlygwyd y byddai defnydd y caffi / bar ar gyfer defnyddwyr y parc yn unig. Gwnaed y cais mewn perthynas â gwerthu alcohol ar ac oddi ar yr eiddo; chwarae cerddoriaeth wedi recordio ar yr eiddo a darparu lluniaeth hwyr y nos.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod sawl gwrthwynebiad wedi ei dderbyn gan berchnogion cabanau yn y Parc oedd yn berthnasol i’r amcanion trwyddedu o sŵn yn creu niwsans cyhoeddus a phryderon o gynnydd mewn trosedd ac anrhefn o ganlyniad i or-yfed. Amlygwyd bod sylwadau Adran Gwarchod y Cyhoedd yn nodi bod y cais yn mynd yn groes i amodau caniatâd cynllunio NP5/78/519/A a oedd yn gosod goblygiadau i’r ymgeisydd.

 

Nodwyd nad oedd gan Heddlu Gogledd Cymru dystiolaeth i wrthwynebu’r cais Argymhellwyd i’r  Pwyllgor ganiatáu’r cais yn unol â gofynion Deddf Drwyddedu 2003. 

 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd:

·      Bod y cais yn cael ei gyflwyno mewn ymateb i amryw o geisiadau gan ddefnyddwyr cabanau i ddatblygu caffi a bwyty yn dilyn colled Rhiw Goch

·      Cyflwynwyd cais cynllunio i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

·      Bod camgymeriad wedi ei wneud ar y ffurflen gais am drwydded a bod bwriad diwygio’r drwydded i gyd-fynd ag amodau’r caniatâd cynllunio – oriau agor dyddiol o 9:00 – 22:00

·      Byddai ceisiadau am ddigwyddiadau arbennig yn cael ei gwneud drwy hysbysiad digwyddiadau dros dro

·      Mai at ddefnydd perchnogion cabanau a’u gwestai oedd pwrpas y caffi/bwyty ac  y byddai alcohol yn cael ei weini gyda bwyd.

·      Nad oedd bwriad iddo fod yn dafarn lleol

·      Bod cais am gerddoriaeth wedi ei recordio yn unig (yn bennaf cerddoriaeth gefndirol) o fewn yr adeilad. Petai cais gan  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.