Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau :

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau ar ei drwydded a’i amgylchiadau personol.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol :

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      Ffurflen gais yr ymgeisydd

·      Adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

·      Sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yn Nhachwedd 2011, derbyniodd yr ymgeisydd 3 collfarn :

·         defnyddio cerbyd heb yswiriant yn groes i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 A143 (2). Cafodd ddirwy o £120 ac arnodiad ar ei drwydded.

·         gyrru cerbyd modur gyda gormodedd o alcohol yn groes i Ddeddf Traffig A988 A.5 (1) (A). Cafodd ddirwy o £120 a chostau o £85 a’i wahardd o yrru am 18 mis

·         gyrru cerbyd modur heb fod hynny yn unol â thrwydded - na ellid ei ardystio yn groes i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 A.87 (1). Cafodd ddirwy o £40, arnodiad ar ei drwydded a chostau ychwanegol o £15.

 

Yn Hydref 2013 derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn am siop ladrata yn groes i Ddeddf Dwyn 1968 A.1 a methu ac ildio i’r ddalfa ar yr amser a nodwyd, yn groes i Ddeddf Mechnïaeth 1976 A.6 (1). Cafodd ddirwy o £50 costau o £100 a chostau ychwanegol o £20.

 

Yn Mehefin 2014 derbyniodd 3 collfarn am ;

·         wrthsefyll neu rwystro Cwnstabl, yn groes i Ddeddf yr Heddlu 1996 A.89 (2). Cafodd ddirwy o £90

·         defnyddio cerbyd heb yswiriant, yn groes i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 S 143 (2). Cafodd ddirwy o £110, costau o £85, ei wahardd am yrru am 12 mis a chostau ychwanegol o £20

·         gyrru heb fod hynny yn unol â thrwydded, yn groes i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 A 87(1). Cafodd ddirwy o £50 ac arnodiad ar ei drwydded.

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais Mr B

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

 

Penderfyniad:

Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau :

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol ynghyd a thystysgrif diogelu gyrwyr tacsi. Amlygwyd nad oedd wedi datgan bod ganddo gollfarnau blaenorol ar ei ffurflen gais. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y ddedfryd, pam nad oedd wedi datgan bod ganddo gollfarnau blaenorol ar ei ffurflen gais a’i amgylchiadau personol. Eglurodd mai 1 mis yn y carchar a wnaeth ac wedyn gwisgo tag gan mai ei ffrind oedd wedi bygwth tyst drwy ddefnyddio ei ffôn. Amlygodd hefyd mai un collfarn / digwyddiad oedd ganddo ac nid collfarnau / digwyddiadau fel y nodwyd yn yr adroddiad. Ymddiheurodd am beidio â datgelu'r drosedd ar ei ffurflen gais gan egluro nad oedd yn dda iawn am lenwi ffurflenni.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      ffurflen gais yr ymgeisydd

·      adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

·      sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yn Awst 2008 dyfarnwyd yr ymgeisydd yn euog o fygwth tyst neu reithiwr gyda’r bwriad o rwystro, gwyrdroi neu ymyrryd a chyfiawnder yn groes i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 A.51 (1) lle derbyniodd garchar am 6 mis.

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol.

 

Mae cymal 2.3 o'r polisi yn nodi y gellir ystyried unrhyw gollfarnau troseddol, neu faterion eraill sy'n ymwneud ag addasrwydd a phriodoldeb yr ymgeisydd. Yn hyn o beth, mae'r drosedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais Mr C

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

 

Penderfyniad:

Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau :

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr C am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y drosedd amgylcheddol a’i amgylchiadau personol. Mewn ymateb i gwestiwn pam nad oedd manylion y drosedd amgylcheddol wedi ei gynnwys ar y ffurflen gais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd nad oedd wedi ystyried bod trosedd amgylcheddol yn berthnasol i gais gyrrwr tacsi

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol :

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      ffurflen gais yr ymgeisydd

·      adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

·      sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd /ddarpar gyflogwr

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yng Ngorffennaf 2019 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o drosedd o weithredu cyfleuster rheoledig heb drwydded amgylcheddol ; Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007 Rheoliad38(1) (a).

 

Yn Medi 2020 derbyniodd yr ymgeisydd 3 pwynt cosb am yrru tu hwnt i derfyn cyflymder ar ffordd gyhoeddus (SP30)

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Er nad yw’r Polisi’n cyfeirio yn benodol at droseddau sy'n ymwneud â Throseddau Amgylcheddol, bydd troseddau o'r fath yn berthnasol i'w hystyried. Mae pob trosedd a gyflawnwyd gan Unigolyn sy'n dymuno bod yn Yrrwr Tacsi, yn berthnasol ar gyfer ystyried os yw unigolyn ynberson addas a phriodol’. Roedd y swyddogion o’r farn bod gweithredu Cyfleuster Rheoledig heb drwydded amgylcheddol yn fater difrifol.

 

Mae rhan 13 yn ymwneud a mân droseddau traffig ac yn cyfeirio yn bennaf at droseddau sydd heb eu rhestru ym mharagraff 12.2 o’r Polisi. Ystyriwyd paragraff 13.2 sydd yn amlygu gall un gollfarn am fan drosedd gyrru arwain at wrthod y cais.

 

CASGLIADAU

 

Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad nad oedd y drosedd SP30 yn broblem o ystyried darpariaethau’r polisi - nid oedd y drosedd SP30 yn mynd a chyfanswm yr ymgeisydd dros y cyfyngiad 7 pwynt a nodi’r ym Mholisi Goryrru Cyngor Gwynedd cyn ei fod yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.