Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni
dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig
fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol
1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r
hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad,
mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd
cyhoeddus o’i ddatgelu. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth
eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A,
Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r
paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i
breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth
bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r
wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais gan
Mr A (copi
arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol • Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r
cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru
cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau
a chollfarnau perthnasol. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei
gais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau
a hefyd ei amgylchiadau personol. Nododd bod ganddo
brofiad o yrru car ar gyfer gwaith
ond bod hynny
gyda’r nos. Amlygodd bod cwmni lleol
wedi cynnig swydd iddo petai
ei gais yn llwyddiannus. Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell
tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. Wrth wneud
eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: • gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ • ffurflen
gais yr ymgeisydd • sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd
yn ystod y gwrandawiad • adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu
collfarnau. Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol. Derbyniodd yr ymgeisydd rybudd ffurfiol gan Heddlu Gogledd
Cymru (Chwefror 2015) ar ddau gyhuddiad yn ymwneud a meddiant cyffuriau yn
groes i adran 5 (2) o’r Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971. Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn
gan Lys Ynadon Gwynedd (Ionawr 2016) ar ddau gyhuddiad
o fod mewn meddiant nwyddau gyda nod masnach ffug er mwyn eu gwerthu neu hurio yn groes i adran 92 (1)(c) o’r
Ddeddf Nodau Masnach 1994. Cafodd orchymyn cymunedol
12 mis ynghyd a gorchymyn i dalu costau, gwaith di-dâl a gordal dioddefwr.
Ystyriwyd
paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r
Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio. Mae paragraff 8 o’r Polisi yn nodi y bydd cais fel rheol yn cael ei wrthod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |