Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y ddau ymgeisydd.

 

Nodwyd bod y ddau ymgeisydd wedi amlygu nad oeddynt eisiau i’r gwrandawiad gael ei ohirio oherwydd eu habsenoldeb

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

                     Dim i’w nodi

 

 

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

Cofnod:

 

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

a)    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu’r cais.

 

Nid oedd yr ymgeisydd yn bresennol i ymhelaethu ar ei gais.

 

 

b)    PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

 

c)    Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

 

ch)  Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Caernarfon a Gwyrfai (Awst 2000) am fod yn feddw ac afreolus yn groes i adran 91(1) o Ddeddf Trosedd Cyfiawnder 1967.  Cafodd ddirwy o £50 a gorchymyn i dalu £30 costau. Yn Ionawr 2007 derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Gwynedd am ddefnyddio ymddygiad afreolus neu eiriau ymosodol/treisgar/dilornus oedd yn debygol o achosi aflonyddwch, braw neu drallod, trosedd yn groes i adran 5(1)(A) o’r Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986. Derbyniodd ‘ryddhad amodol’ o 12 mis ynghyd a gorchymyn i dalu costau o £75.00.

 

d)    Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run            ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae paragraff 6 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr trwyddedig yn dod i gysylltiad agos ar cyhoedd yn rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau yn ymwneud a thrais.  Mae paragraff 6.5 o’r Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried (gan gynnwys rhybuddion) am ymosodiad cyffredin a /neu drosedd o dan A4 Trefn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais Mr B

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

 

a)    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, datganiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr & Cherbydau, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais.

 

 

Nid oedd yr ymgeisydd yn bresennol i ymhelaethu ar ei gais.

 

 

b)    PENDERFYNWYD nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

 c)   Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         Ffurflen gais yr ymgeisydd

·         Adroddiad yr Adran Drwyddedu, datganiad DBS a datganiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr & Cherbydau

·         Canllawiau y Sefydliad Trwyddedu

·         Clip fideo o ddigwyddiad Ionawr 2019

 

     ch)  Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Yn Mai 1982, derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn am gyfres o droseddau. Roedd y drosedd gyntaf am ddwyn o gerbyd yn groes i Ddeddf Lladrata 1968. Roedd yr ail yn un o fyrgleriaeth, y trydydd am ddifrod troseddol yn groes i adran 1 Deddf Difrod Troseddol 1971 a’r pedwerydd yn un arall am ddwyn o gerbyd. Ar gyfer pob cyhuddiad unigol cafodd orchymyn gwasanaeth cymunedol 150 awr, gorchymyn i wneud cyfraniad at gymorth cyfreithiol o £75.00 a gorchymyn i dalu costau o £75.00.

 

Yn Nhachwedd 1983 derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Pwllheli ar un cyhuddiad o geisio dwyn o gerbyd, yn groes i adran 1 o’r Ddeddf Lladrata 1968. Derbyniodd ddirwy o £60.00 a gorchymyn i dalu costau o £3.00. Yn Mai 1985 derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon Pwllheli am gyfres o gyhuddiadau – troseddau yn ymwneud a dwyn yn groes i adran 1 Deddf Lladrata 1968, ac o geisio bwrglera yn groes i adran 9(1)(B) Deddf Lladrata 1968. Derbyniodd ddedfryd o garchar ieuenctid am 6 mis a gorchymyn i dalu iawndal o £450.00.

 

Yn Hydref 1988 derbyniodd gollfarn gan Lys y Goron Caernarfon am gyhuddiad o ymosodiad a arweiniodd at niwed corfforol yn groes i adran 47 Deddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861. Derbyniodd ddedfryd o garchar am 9 mis, wedi ei atal am 6 mis.

 

Yn dilyn digwyddiad yn Ionawr 2019, derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon Gogledd Orllewin Cymru (Medi 2019) am ymyrraeth beryglus ag offer traffig, yn groes i adran 22A(1)(c) Deddf Traffig Ffordd 1988. Derbyniodd ddirwy o £250.00, gorchymyn i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.