skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd a hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais gan Mr A

 

(copi arwahan i Aelodau’r Is-bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

a)    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau  trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais.

 

Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor. Rhoddwyd cyfle i’r ymgeisydd ymhelaethu ar ei gais a rhoi gwybodaeth am gefndir y digwyddiadau a hefyd ei amgylchiadau personol. Nododd ei fod wedi mynd drwy gyfnod anodd, personol oedd yn ymwneud a gwaeledd ei fab, colli ei dad a’i ffrind. Ategodd bod ganddo gwmni tacsis o safon, ei fod yn cyflogi gyrwyr lleol a’i flaenoriaeth oedd cadw’r busnes.  Gwahoddwyd tyst i gefnogi cais yr ymgeisydd.

 

Wedi cyflwyno’r dystiolaeth ymneilltuodd yr ymgeisydd, ei gyfreithiwr, a’i ffrind o’r ystafell ynghyd a’r Rheolwr Trwyddedu, tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

 

b)    PENDERFYNWYD nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

 

c)    Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar gan yr ymgeisydd, ei gyfreithiwr a’i ffrind

·         dogfennau a lluniau a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad

·         llythyrau geirda a dderbyniwyd yn cefnogi cais yr ymgeisydd

·         darn o ffilm teledu cylch cyfyng (digwyddiad 2018)

·         recordiad o alwadau 999 (digwyddiad 2019)

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarn.

·         Tystiolaeth a sylwadau Llys yr Ynadon

 

ch)  Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Derbyniodd yr ymgeisydd rybudd ffurfiol gan Heddlu Gogledd Cymru (Mai 2018) ar gyhuddiad o ymosod ar berson yn groes i adran 39 o’r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988.

 

Yn Chwefror 2019 derbyniodd yr Adran Trwyddedu alwad gan yr Heddlu yn ei hysbysu bod aelod o’r cyhoedd wedi gwneud cyhuddiad o fod wedi dioddef ymosodiad corfforol gan yr ymgeisydd yn dilyn anghydfod ynglŷn â phris. Ni ddaethpwyd â chyhuddiadau troseddol yn erbyn yr ymgeisydd am y digwyddiad hwn. Yn dilyn y digwyddiad derbyniodd y Rheolwr Trwyddedu wybodaeth yn amlinellu ffeithiau’r digwyddiad a gwnaed penderfyniad i ddiddymu trwydded yr ymgeisydd er mwyn diogelu’r cyhoedd; yn unol â darpariaeth adran 61(1) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. 

 

Apeliodd yr ymgeisydd yn erbyn y penderfyniad ac yn dilyn gwrandawiad yn Llys Ynadon Caernarfon (Gorffennaf  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.