skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

 

Dim i’w nodi

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

 

Cofnod:

 

 

Dim i’w nodi

 

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniadau yn cael ei gwneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

`        Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais.

 

          Mewn ymateb i sylw gan yr ymgeisydd fod y collfarnau wedi mynd tu hwnt i’r cyfnod a nodir yn y polisi, nododd y Rheolwr Trwyddedu bod hawl gan yr Is-bwyllgor ystyried pob collfarn sy’n ymddangos ar y cofnod DBS. Er derbyn rhwystredigaeth yr ymgeisydd ategwyd mai Polisi'r Cyngor yw ystyried yr holl gollfarnau fel bod modd cael darlun clir a llawn o’r cefndir. Blaenoriaeth yr Is-bwyllgor yw diogelwch y cyhoedd ac wrth bwyso a mesur yr holl dystiolaeth bydd modd penderfynu os yw ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer y swydd.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Nododd ei fod yn edifarhau, ei fod wedi gwella ei ymddygiad, ac yn dilyn digwyddiad 2018 ei fod wedi dysgu gwersi gan alw ar yr Heddlu a chadw cofnod o bob digwyddiad mewn dyddiadur. Nododd ei fod yn gyrru bysiau ers 27 o fynyddoedd ac nad oedd cwyn wedi ei gyflwyno am ei agwedd na’i yrru.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·         GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

·         sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd

·         Canllawiau'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

           

Yn Hydref 2010 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Gwynedd o ddefnyddio geiriau bygythiol, ymosodol neu sarhaus, gyda’r bwriad i godi ofn neu bryfocio trais yn groes i Ddeddf Trefn Cyhoeddus 1986. Derbyniodd yr ymgeisydd ddirwy o £200, costau o £85 a chostau ychwanegol o £15.

 

Yn Nhachwedd 2018 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Gogledd Orllewin Cymru o ddefnyddio geiriau bygythiol, ymsosodol neu sarhaus, sy’n debygol o godi ofn, dychryn neu drallod, yn groes i Ddeddf Trefn Cyhoeddus  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.