Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Gethin Glyn Williams (Aelod Lleol), Mrs W Lawrence, Susan Wattis, Helen Charlton, Jenny Wilson, Salmon Williams, Cyng. Judith Humphreys, Veronica Roberts, Wendy Cleaver, Carol Jones, Jan Clark, Norma Stockford, June Davies, Victor Perham, Tom Dobson a Marilyn Whitehouse (ymatebwyr)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Mater o drefn:

 

Amlygodd yr ymgeisydd bod ganddo bryderon ynglŷn â threfniadau’r gwrandawiad ac y dylai’r Is-bwyllgor ystyried y canlynol cyn parhau gyda’r gwrandawiad.

 

            Gwrthdroi achos cyfiawnder

            Cyfreithlondeb y broses

            Camgymeriadau yn y rhaglen

            Dehongliad o'r gyfraith

 

Amlygodd:

·          bod rhai ymatebion yn awgrymu bod yr ymgeiswyr wedi ceisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder drwy gysylltu â'r rhai a wrthwynebodd y cais. Roedd yr ymgeisydd yn gwrthbrofi'r honiad hwn yn gryf ac yn teimlo mai’r ymatebwyr hyn oedd yn gwyrdroi cwrs cyfiawnder trwy wneud honiadau ffug.

·          bod y Cyngor wedi cynnwys / cyhoeddi’r cyhuddiadau enllibus hyn ac wrth wneud hynny yn cydoddef a chefnogi'r datganiadau. Gwnaed cais i’r Cyngor gyflwyno tystiolaeth a’u darbwyllodd fod y datganiadau hyn yn ffeithiol gywir cyn eu cyhoeddi

·          Y dylid gwrthod unrhyw ymateb na ymatebwyd i lythyr diweddar gan y Cyngor yn gwirio bod y sawl oedd yn cyflwyno’r ymateb yn parhau i’r ymateb hwnnw gael ei ystyried. Dadleuwyd bod yr ymatebion hyn yn disgyn tu allan i’r gyfraith, ond yn parhau i fod yn rhan o’r raglen yr Isbwyllgor.

·          Bod rhai ymatebion yn cynnwys nifer o ffeithiau a sylwadau ffug am y cwmni a heriodd y Cyngor pam nad oeddynt wedi ymchwilio i’r sylwadau ffug yma cyn cyhoeddi rhaglen. Ystyriwyd bod y sylwadau yn gamarweiniol ac yn debygol o gamarwain aelodau’r is-bwyllgor pan fyddant yn dod i benderfyniad

 

 

Yn dilyn cyngor cyfreithiol gan Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol y Cyngor nodwyd bod y cais gerbron wedi ei gyflwyno cyn i’r Ddeddfwriaeth gael ei mabwysiadu gan Cyngor Gwynedd. Ategwyd bod y pwerau bellach yn eu lle a bod modd parhau gyda’r gwrandawiad ac i’r is-bwyllgor ystyried y sylwadau wrth ddod i benderfyniad.

 

4.

CAIS AM DRWYDDED SIOP RHYW pdf eicon PDF 286 KB

I ystyried cais  Eva Amour, 6th St Anne Square, Stryd Fawr, Abermaw, LL42 1DL

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

GWRTHOD Y CAIS AR Y SAIL NAD YW'N CYD-FYND Â CHYMERIAD YR ARDAL GYFAGOS A BOD LLEOLIAD ARFAETHEDIG YR EIDDO YN AGOS I EIDDO A FYNYCHIR GAN BLANT AC OEDOLION BREGUS.

 

Cofnod:

Ymgeisydd:   Mr David Powley a Mr Daniel Millar (ar ran DD Trading (NW) Ltd)

 

Ymatebwyr:   Mr a Mrs D Hooper, Mr Trevor Parry, Parchedig Dawn Robinson, Cyng Rob Triggs (Cyngor Tref Abermaw), Cyng Katie Price (Cyngor Tref Abermaw) a Katie Pattison

           

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau.

 

a)            Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded siop rhyw ar gyfer Eva Amour, 6, Sgwar Santes Anne, Stryd Fawr, Abermaw.

 

Eglurwyd bod unrhyw unigolyn sy'n dymuno rhedeg Sefydliad Rhyw yn unol â diffiniad Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 angen trwydded sefydliad rhyw, oni bai bod yr awdurdod priodol wedi hepgor y gofyn am drwydded. Gan fod darpariaethau'r Ddeddf wedi eu mabwysiadu'n llawn 7fed o Hydref 2021, ni all unrhyw fusnes o'r fath weithredu yn ardal Gwynedd heb drwydded ddilys. Er hynny, gan fod y busnes yma wedi ymgeisio am drwydded ym mis Chwefror 2021, cyn mabwysiadu'r system drwyddedu i holl ardal Gwynedd, nid oedd gan y Cyngor unrhyw bwerau i atal y busnes rhag agor heb drwydded ar y pryd a nodwyd bod y busnes wedi bod yn masnachu ers Rhagfyr 2021.

 

Cyfeiriwyd at y broses o reoleiddio sefydliadau rhyw a'r broses drwyddedu gan amlygu bod pum rheswm gorfodol am wrthod cais - os yw'r ymgeisydd

 

           Yn iau na 18 mlwydd oed

           Ar hyn o bryd wedi cael ei wahardd rhag dal trwydded sefydliad rhyw

           Ddim yn gorff corfforedig ac nad yw'n byw neu nad yw wedi byw yn y DU am y chwe mis cyn dyddiad y cais hwn

           Yn gorff corfforedig sydd ddim wedi'i ymgorffori yn y DU

           Yn y 12 mis cyn dyddiad y cais hwn wedi cael gwrthod caniatâd neu gais i adnewyddu trwydded ar gyfer yr eiddo sy'n destun y cais hwn, oni bai bod y gwrthodiad wedi cael ei wyrdroi mewn apêl 

 

Ategwyd, nad oedd unrhyw un o'r rhesymau gorfodol hyn dros wrthod yn berthnasol yn yr achos hwn ond cyfeiriwyd at y rhesymau dewisol - 

 

           Os yw'r ymgeisydd yn anaddas ar gyfer dal y drwydded am ei fod wedi derbyn collfarn am drosedd

           Pe bai'r busnes yn cael ei reoli neu ei weithredu er budd trydydd parti fyddai ddim yn derbyn trwydded eu hunain

           Bod nifer y sefydliadau rhyw yn yr ardal leol neu o'r math penodol hwn yn yr ardal leol gyfartal neu'n uwch na'r nifer yr ystyrir yn briodol

           Yn amhriodol o ran:

 

i.          Cymeriad yr ardal leol berthnasol - yn fater i'r aelodau, yn seiliedig ar ffeithiau'r cais. Nodwyd nad oedd rhaid diffinio'r ardal leol berthnasol yn glir, ac fe all yr aelodau benderfynu bod yr ardal leol yn yr achos yma yn cyfeirio at yr ardal sy'n amgylchynu'r eiddo ar/neu wrth ymyl Sgwâr Santes Anne, ar y Stryd Fawr yn Abermaw yn yr achos yma.

ii.          Defnydd yr eiddo yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.