Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

 

Penderfyniad:

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol ynghyd a thystysgrif feddygol, datganiad personol yr ymgeisydd, geirdaon a thystlythyrau. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais.

 

Mewn ymateb i gyflwyniad y Rheolwr Trwyddedu, gofynnodd cynrychiolydd yr ymgeisydd i’r Rheolwr Trwyddedu gadarnhau nad oedd y teithiwr yn achos 2019 wedi dioddef unrhyw  niwed nac wedi gwneud cwyn ffurfiol i’r Heddlu am ymddygiad y gyrrwr. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Trwyddedu bod y dystiolaeth wedi cael ei herio yn Llys yr Ynadon ac er nad oedd collfarn roedd y Barnwr wedi penderfynu bod y dystiolaeth yn gredadwy.

 

Awgrymodd cynrychiolydd yr ymgeisydd bod argraffiadau’r teithiwr yn gwahanol iawn i argraffiadau’r gyrrwr yn nigwyddiad 2019. Mewn ymateb nododd y Rheolwr Trwyddedu, er yn cadarnhau nad oedd gweithrediad pellach gan yr Heddlu, bod recordiad o’r sefyllfa wedi ei gyflwyno o’r noson fel tystiolaeth a bodymddygiad cyffredinolyn ystyriaeth er nad oedd collfarn.

 

Mewn ymateb, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd nad oedd rhybudd gan yr Heddlu yn gollfarn, ond mewn ymateb nododd y Rheolwr Trwyddedu bod tystiolaeth o rybudd yn ddigon cryf yn yr achos yma.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais gan roi gwybodaeth am gefndir y rhybudd ar ei drwydded a’i amgylchiadau personol. Cyflwynwyd 37 o dystlythyrau yn gymysg gan ffrindiau, cydweithwyr, cymdogion a defnyddwyr gwasanaeth. Nododd bod digwyddiad 2018 a 2019 yn rai yr oedd yn edifar a'i fod yn cydnabod ei fod wedi ymddwyn yn ddifrifol. Ar y pryd roedd o dan straen er yn derbyn nad oedd hyn yn esgus am ei ymddygiad. Roedd yn gwerthfawrogi bod rhaid i yrwyr fod yn ddibynadwy a bod yr is-bwyllgor yn chwarae rhan bwysig yn sicrhau hyn.

 

Rhannodd enghreifftiau o’r gwaith a'r cyfrifoldebau cymunedol roedd wedi ymgymryd â hwy ers y digwyddiadau, oedd yn cynnwys mynychu cwrs ar sicrhau diogelwch i’r cyhoedd. Nododd ei ddymuniad i roi'r gorffennol tu cefn iddo a chanolbwyntio ar symud ymlaen drwy roi blaenoriaeth i’w fusnes a’i deulu. Diolchodd i’w staff am eu cefnogaeth o gario’r busnes drwy gyfnod anodd. Cyfeiriodd at ei waith  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.