Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

 

Dim i’w nodi

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

 

Dim i’w nodi

 

 

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

 

Dim i’w nodi

 

 

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma . O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

 

 

Penderfyniad:

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol, adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais.

 

Mewn ymateb i’r adroddiad, gofynnwyd i’r ymgeisydd pam roedd wedi nodi ‘na’ ar ei ffurflen gais mewn ateb i gwestiwn oedd yn holi os oedd ganddo unrhyw gollfarnau, blaenorol, rhybuddion neu unrhyw gyhuddiadau yn yr arfaeth. Nododd yr ymgeisydd nad oedd wedi ystyried bod digwyddiad 2007 yngofnod troseddolac roedd yn ymddiheuro dros gamddeall y cwestiwn.

 

Mewn ymateb i ddiffyg cyfeiriad at y collfarnau moduro yn yr adroddiad oedd wedi arwain at dderbyn 6 pwynt cosb, nododd y Swyddog Trwyddedu bod 6 pwynt yn cael ei ystyried fel mater ymylol er yn derbyn bod paragraff 13.3 o’r polisi yn nodi 6 pwynt fel cyfanswm disgwyliedig at ddibenion polisi. Ategodd bod y collfarnau hyn angen eu hystyried wrth ddod i benderfyniad.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y pwyntiau cosb ar ei drwydded, cefndir i gollfarn 2007 a’i amgylchiadau personol. Nododd fod digwyddiad 2007 yn gamgymeriad, yn ddigwyddiad hanesyddol, teuluol. Ategodd ei fod yn gweithio fel goruchwyliwr a bod ganddo nifero gyfrifoldebau yn y gymuned leol lle mae angen iddo ymddwyn yn broffesiynol.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      ffurflen gais yr ymgeisydd

·      adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

·      sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yn Rhagfyr 2007cafwyd yr ymgeisydd yn euog o ddau gyfrif o ymosodiad oedd yn achosi gwir niwed corfforol (ABH) sydd yn groes i’r Ddeddf Troseddau Corfforol

 

Yn Medi 2020 derbyniodd gollfarn moduro a 3 pwynt cosb (SP30) am dorri terfyn cyflymder ar ffordd gyhoeddus

 

Yn Mawrth 2022 derbyniodd gollfarn moduro a 3 pwynt cosb (SP30) am dorri terfyn cyflymder ar ffordd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.