skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais Mrs A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mrs A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol ac adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais. Roedd trwydded yrru'r ymgeisydd yn drwydded lân.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y gollfarn a’i hamgylchiadau personol. Nododd ei bod yn mynd drwy gyfnod anodd ac mai un digwyddiad domestig arweiniodd at gollfarnau Mawrth a Mai 2014. Ar y pryd roedd hefyd yn dioddef gyda phroblemau meddygol ac wedi’r digwyddiad, derbyniodd gefnogaeth a thriniaeth i wella. Cyfeiriodd at ei gwaith fel goruchwyliwr teithwyr trwyddedig sydd â chyfrifoldeb o gynorthwyo gyrwyr tacsi sydd yn cludo teithwyr / plant bregus ar gytundebau ysgol Adran Addysg Cyngor Gwynedd.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      ffurflen gais yr ymgeisydd

·      adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

·      sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yn Mawrth 2014 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o yrru Cerbyd Modur gyda gormodedd o alcohol, yn groes i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 A.5(1)(A. Derbyniodd ddirwy o £110, costau o £85 a gwaharddiad gyrru o 17 mis. Cyflawnwyd y drosedd 27-02-2014

 

Ym Mai 2014 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o Guro, yn groes i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 A.39. Derbyniodd ddirwy o £55, costau o £200 a Gorchymyn Atal - Diogelu rhag aflonyddu ar Gollfarn hyd nes y byddai gorchymyn pellach. Cyflawnwyd y drosedd 27-02-2014

 

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.