skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8BF

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Haf Williams (Cynrychiolydd Ysgolion Cynradd), Claire Armisted (Cynrychiolydd Ysgolion Uwchradd), Jonathan Morgan (Cynrychiolydd Ysgolion Arbennig), Rhys Howard Hughes (Cyngor Sir Ynys Môn), Dr Lowri Brown (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy), Karen Evans (Cyngor Sir Ddinbych) a Claire Homard (Cyngor Sir y Fflint).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 81 KB

(copi wedi ei atodi)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar y 11 Medi 2019 fel rhai cywir.

5.

ADRODDIAD AR DDEILLIANNAU 2019 pdf eicon PDF 76 KB

Alwyn Jones i gyflwyno adroddiad ar berfformiad ar draws Gogledd Cymru gan gydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad fel model ar gyfer adrodd i bwyllgorau craffu o ran y cyd-desun rhanbarthol a pherfformiad lleol.

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr egwyddorion o ran sut y bydd GwE yn adrodd ar berfformiad wedi eu cymeradwyo eisoes. Ychwanegwyd fod yr adroddiad yn amlinellu’r cefndir a’r cyd-destun mewn perthynas â’r newidiadau cenedlaethol ar sut yr adroddir ar berfformiad a'i fod yn egluro’r materion a godwyd yn y datganiad ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Cymdeithasol Llywodraeth Leol Cymru ac Estyn.

 

Mynegwyd ei fod yn rhoi trosolwg rhanbarthol o ddeilliannau GwE ond y bydd dadansoddiad lleol yn cael ei wneud i bob awdurdod hefyd. Nodwyd nad yw’r data yn derfynol ar hyn o bryd ac y bydd gwaith yn cael ei wneud i’w gwblhau erbyn mis Ionawr.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Croesawyd fformat newydd yr adroddiad.

¾     Pwysleisiwyd yr angen i sicrhau fod y wybodaeth yn cael ei rhannu â phawb a’i fod yn cael ei ddefnyddio yn gywir.

¾     Pwysleisiwyd mai newid mewn diwylliant yw hwn a'i fod yn daith o ganolbwyntio ar y disgyblion yn hytrach na’r canlyniadau. Ychwanegwyd fod angen pwysleisio hyn a bod gwaith pellach angen ei wneud.

¾     Nodwyd fod angen sicrhau fod yr un negeseuon yn cael ei rannu ar draws y rhanbarth.

 

 

 

6.

ADNODDAU A SGÔP GwE pdf eicon PDF 76 KB

Adroddiad Arwyn Thomas sydd yn amlinellu adnoddau a chwmpas presennol y gwasanaeth rhanbarthol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai dechrau trafodaeth yw pwrpas yr adroddiad. Mynegwyd ei fod yn amlygu fod dwy elfen i’r gyllideb - yr elfen graidd ac agenda Llywodraeth Cymru. Mynegwyd fod yr adroddiad yn esbonio beth mae GwE yn ei wneud ac yr amrediad eang o grantiau sydd yn cael ei dderbyn gan GwE. Ategwyd fod dull monitro ar gyfer pob un o’r grantiau a bod angen pwyso ar Lywodraeth Cymru er mwyn ail edrych ar hyn.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Mynegwyd ei bod yn agoriad llygaid ac yn rhoi syniad i bobl beth yn union mae GwE yn ei wneud.

¾     Nodwyd efallai fod angen ffigyrau gada rhai o’r grantiau er mwyn rhoi gwell dealltwriaeth.

¾     Pwysleisiwyd fod angen edrych ar y grantiau a’r gwaith o’u monitro – bydd angen trafodaeth bellach ar hyn.

7.

CYLLIDEB GwE 2019-20 - ADOLYGIAD CHWARTER 2 pdf eicon PDF 120 KB

Arwyn Thomas a Dafydd Edwards i ddiweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar adolygiad ariannol diweddaraf cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2019/20.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi nad oes llawer o newid wedi bod ers chwarter cyntaf 2019/20. Nodwyd mai’r prif newid yw’r arbedion i’w darganfod gan fod y Cydbwyllgor bellach wedi cymeradwyo strategaeth barhaol i wireddu arbedion. Nodwyd fod amcangyfrif gorwariant net yn erbyn y gyllideb ond y bydd modd defnyddio balansau GwE ar gyfer mantoli hyn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

8.

CYNLLUN BUSNES 2019-20 - MONITRO CHWARTER 2 pdf eicon PDF 104 KB

Arwyn Thomas i gyflwyno Adroddiad Monitro Chwarter 2 - Cynllun Busnes Lefel 1 i’r Cyd-bwyllgor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad monitro ar gyfer Chwarter 2 a gofynnwyd am drafodaeth pellach ar y defnydd o blatfform G6 a’i ddiwylliant.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a thywyswyd drwy’r amcanion a blaenoriaethau GwE. Nodwyd o ran Amcan Strategol 6, fod GwE yn parhau i ddisgwyl am y setliad drafft cyn symud ymlaen i gyflawni adolygiad o’r gyllideb a’r gweithlu.

 

9.

STRATEGAETH RHANBARTHOL Y GYMRAEG pdf eicon PDF 94 KB

Alwyn Jones i gyflwyno strategaeth ‘Datblygu’r Gymraeg mewn Addysg yn rhanbarth Gogledd’ i'r Cyd-bwyllgor i’w gymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd y ddogfen ‘Datblygu’r Gymraeg mewn Addysg yn rhanbarth Gogledd Cymru’.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod cynllunio strategaeth ar gyfer Rhanbarth y Gogledd yn cynnig cryn her, gan fod amrywiaeth sylweddol o fewn y rhanbarth.  Ategwyd fod y strategaeth yn gosod amcanion a chamau gweithredu ac yn rhoi cyfeiriad i’r rhanbarth.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Croesawyd yr adroddiad gan nodi cefnogaeth i’r 6 maes sydd yn cael ei  blaenoriaethu. Holwyd beth fydd yn deillio o’r strategaeth a sut y bydd yn datblygu.

¾     Amlygwyd y bydd yn broses anodd gan fod gwahaniaethau dros y rhanbarth a phwysleisiwyd yr angen i beidio dyblygu. Ychwanegwyd mai strategaeth tymor hir yw’r strategaeth a holwyd os oes digon o athrawon Cymraeg.

¾     Mynegwyd fod cael cefnogaeth rhieni yn mynd i fod yn holl bwysig er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o bwysigrwydd a buddion defnyddio’r iaith. 

 

10.

GDD / PMG - DIWEDDARIAD pdf eicon PDF 72 KB

Arwyn Thomas i gyflwyno diweddariad i’r Cyd-bwyllgor ar y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer dysgwyr sy'n derbyn gofal a dysgwyr a arferai dderbyn gofal.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Nodwyd a derbyniwyd yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai GwE sydd yn gyfrifol am waith gweinyddu a chydlynu cyffredinol y grant. Mynegwyd fod y broses yn dryloyw a fod yr adroddiad yn dangos yn glir sut mae’r arian yn cael ei ddyrannu.

 

Mynegwyd fod yr adroddiad yn nodi’r proses ynghyd â gofynion, telerau a chanllawiau’r grant. Nodwyd fod y gyllideb yn £970,000.

 

11.

ADOLYGIAD O GYNNYDD GwE - ADRODDIAD STEVE MUNBY pdf eicon PDF 96 KB

Arwyn Thomas i gyflwyno adroddiad ‘Adolygiad o gynnydd GwE’ gan Steve Munby  i’r Cyd-bwyllgor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

PENDERFYNIAD

 

Nodwyd a derbyniwyd yr adroddiad

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Steve Munby flwyddyn yn ôl wedi cynnal adolygiad ar gyfeiriad GwE. Bu iddo ail ymweld â'r rhanbarth yn ddiweddar i werthuso'r gwasanaeth ymhellach. 

 

Ychwanegwyd o edrych ar y gwelliannau a gyflwynwyd y llynedd, fod cynnydd wedi ei wneud o ran datblygu diwylliant GwE er mwyn gweithio er lles pawb o fewn y system. Mynegwyd fod y cyfnod wedi bod yn anodd a heriol ond fod yr adroddiad yn un calonogol.