skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Huw Hilditch-Roberts a Claire Homard.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 98 KB

(copi wedi ei atodi)

Cofnod:

Cadarnhawyd fod y cofnod a gyflwynwyd yn gofnod priodol o’r cyfarfod ar 26 Chwefror 2020.

 

5.

CYFRIFON 2019/2020 - ALLDRO REFENIW pdf eicon PDF 93 KB

Rheolwr Gyfarwyddwr GwE a Phennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd i ddiweddaru aelodau’r Cyd-bwyllgor ar adolygiad ariannol derfynol cyllideb GwE am y flwyddyn ariannol 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd a derbyniwyd y Cyfrif Incwm a Gwariant Reveniw am 2019/20 fel y nodir yn Atodiad 1, ynghyd â sylwadaeth ar y prif wahaniaethau rhwng y gyllideb a’r gwir wariant a gyflwynir er gwybodaeth yn unol â’r drefn “arferol” ar ffurf adroddiad alldro.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD 

 

Nodwyd a derbyniwyd y Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw am 2019/20 fel y nodir yn Atodiad 1, ynghyd â sylwadaeth ar y prif wahaniaethau rhwng y gyllideb a’r gwir wariant a gyflwynir er gwybodaeth yn unol â’r drefn “arferol” ar ffurf adroddiad alldro.  

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r penderfyniad. Tynnwyd sylw at y prif wahaniaethau rhwng yr adroddiad ym mis Chwefror ac yr un a gyflwynwyd i’r cyfarfod. Nodwyd fod newid o (£217,253) i’r hyn adroddwyd yn chwarter 3, sef amcangyfrif gorwariant o £27,635. Amlinellwyd mai’r prif resymau dros hyn oedd bod secondiadau staff a chyfraniadau amser staff craidd i gynlluniau a phrosiectau newydd, ariannwyd drwy grant, wedi arwain at danwariant. O ganlyniad i Covid-19 mynegwyd fod nifer fawr o gyfarfodydd heb eu cynnal yn ystod mis Mawrth sydd wedi arwain at leihad mewn incwm.   Nodwyd mai effaith y newid hwn yw bod y tanwariant net yn cynyddu’r gronfa wrth gefn i £480,204 ar ddiwedd 2019/20. Ychwanegwyd y bydd adroddiad i gyfarfod dilynol er mwyn ystyried defnydd posib o’r gronfa wrth gefn yn dilyn y cyfnod yr argyfwng presennol.  

 

Diolchodd Rheolwr Cyfarwyddwr GwE i’r tîm cyllid am eu gwaith.   

 

6.

YMATEB LLYWODRAETH CYMRU I COVID-19 : TORIADAU I'R GRANTIAU RHANBARTHOL pdf eicon PDF 91 KB

Rheolwr Gyfarwyddwr GwE i ddiweddaru aelodau’r Cyd-bwyllgor am y sefyllfa ynghylch y grantiau rhanbarthol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/21.  

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn adroddiad er gwybodaeth. Mynegwyd o ganlyniad i ymateb Llywodraeth Cymru i Covid-19, gofynnwyd i GwE ddod o hyd i 3% o arbedion o gyfanswm dyraniadau Grant Gwella Ysgolion ar gyfer y cyfnod 2020/21.

 

Nodwyd y bydd gwireddu’r arbedion yn heriol ond fod swyddogion GwE ac awdurdodau lleol yn gweithio’n agos i reoli’r arbedion hyn.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Diolchwyd i GwE am eu gwaith a holwyd am drefniadau cyfnod adfer GwE. Mynegwyd fod angen i GwE addasu yn ystod y cyfnod hwn.

¾  Nodwyd fod GwE wedi cadw cyswllt dyddiol â’r ysgolion yn ystod y cyfnod cychwynnol. Ychwanegwyd y bydd gan dysgu o bell â rôl amlwg yn y cyfnod hwn a bydd angen ail edrych ar y ddarpariaeth a gweld sut y bydd modd ei ddefnyddio i’r dyfodol.

¾  Pwysleisiwyd y bydd y 3% o arbedion yn dod gan GwE ei hun a gan yr awdurdodau lleol er mwyn ymgeisio i leihau'r effaith ar ysgolion.

¾  Ychwanegwyd y bydd GwE yn anfon gwybodaeth unwaith y byddant wedi derbyn llythyr yn cadarnhau gan y Llywodraeth. Ychwanegodd Pennaeth Cyllid yr awdurdod lletyol y bydd angen i’r 3% ddod o rywle, a bydd y cyfnod argyfwng yma’n taro grantiau eraill, felly dylid bod yn barod am fwy o doriadau ymhen hir a hwyr. Ychwanegwyd y bydd cyhoeddiad cyllideb wythnos nesaf a gallasai hynny roi gwell syniad o’r toriadau fydd yn ein wynebu wrth symud ymlaen.

 

 

7.

CYMWYSTERAU pdf eicon PDF 100 KB

Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE i gyflwyno adroddiad sy’n ystyried goblygiadau y penderfyniad i gau ysgolion ac i beidio cynnal cyfres arholiadau 2020.  

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad a cytunwyd i drefnu cyfarfod gyda CBAC i drafod y mater ymhellach.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad a cytunwyd i drefnu cyfarfod gyda CBAC i drafod y mater ymhellach.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad ac amlinellwyd y broses arfaethedig.  Nodwyd bod angen i’r Cyd-Bwyllgor ystyried goblygiadau penderfyniad y Gweinidog i gau ysgolion a’r penderfyniad dilynol i beidio cynnal cyfres arholiadau 2020 ar gyfer dyfarnu graddau TGAUI, UG, Safon Uwch, Tystysgrif Her Sgiliau a chymwysterau galwedigaethol eraill; a hefyd ystyried goblygiadau ar gyfer arholiadau haf 2021.

 

Mynegwyd fod y broses a amlinellwyd yn un annheg i ddisgyblion, yn benodol os yw’r ysgol ar daith gwella. Mynegwyd y bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ond na fydd yn cael ei ryddhau tan ganol mis Mehefin.

 

Ategwyd fod ysgolion eisiau gwybod os oes newid am fod i’r maes llafur er mwyn dechrau ar y gwaith paratoi ar gyfer y flwyddyn nesaf. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Pwysleisiwyd fod y drefn model ystadegau yn gwbl annheg ar y disgyblion, ynghyd â’r ysgolion. Ychwanegwyd fod pryderon am y flwyddyn nesaf yn ogystal gan y bydd sefyllfa eleni yn cael effaith ar ddisgyblion ac felly yn amharu ar eu canlyniadau y flwyddyn nesaf.

¾  Nodwyd fod y cyfnod yma wedi bod yn anodd iawn ar ddisgyblion ac amlygwyd bod angen bod yn deg a chefnogi pobl ifanc.

¾  Mynegwyd pryder am blwyddyn 10 a 12 yn benodol.

¾  Nodwyd yr angen i drefnu cyfarfod â CBAC i drafod y mater ymhellach.

¾     Holwyd o ran costau arholiadau os y bydd modd i ysgolion dderbyn cyfran o’r arian yn ôl. Nodwyd fod angen trafod hyn yn y cyfarfod â CBAC.

 

8.

PONTIO YN ÔL I'R YSGOL pdf eicon PDF 86 KB

Rheolwr Gyfarwyddwr GwE i gyflwyno adroddiad i drafod trefniadau pontio i gael dysgwyr yn ôl i’r ysgol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd i  gymeradwyo dull gweithredu rhanbarthol, gyda GwE, awdurodau lleol ac ysgolion yn gweithio mewn partneriaeth, ar gyfer y cam nesaf o addasu addysg yng Nghymru.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

Penderfynwyd i  gymeradwyo dull gweithredu rhanbarthol, gyda GwE, awdurodau lleol ac ysgolion yn gweithio mewn partneriaeth, ar gyfer y cam nesaf o addasu addysg yng Nghymru.

 

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai’r bwriad yw cael cymeradwyaeth i’r Awdurdodau Lleol, GwE ac ysgolion i weithio gyda’i gilydd i greu fframwaith fydd yn cynnwys asesiadau risg a pholisïau/canllawiau drafft sy’n edrych ar amrywiaeth o feysydd y mae angen i ysgolion eu hystyried a’u datblygu pan fydd Llywodraeth Cymru yn cyfarwyddo ysgolion i ailagor i ragor o ddisgyblion.

 

 

Nodwyd fod Prif Weinidog Prydain wedi nodi fod ysgolion Lloegr yn ail agor ddechrau Mehefin ond nad oedd Cymru wedi nodi dyddiad eto. Pwysleisiwyd fod Bwrdd Rheoli GwE wedi trafod y mater ac wedi nodi’r angen i ysgolion, GwE a’r awdurdodau lleol i gyd weithio a chefnogi ei gilydd wrth symud ymlaen.

 

Pwysleisiwyd y bydd dysgu o bell yn parhau am gyfnod hir o amser ac felly fod angen cynllunio ymlaen at y cyfnod anodd hwn. Byddai’r fframwaith yn edrych ar faterion megis adnoddau dynol,  dysgu o bell a.y.b.  Ychwanegwyd er bod y fframwaith yn un rhanbarthol, y byddai’n cael ei addasu yn lleol. Byddai’r wybodaeth yn cael ei gadw mewn un lle, ond byddai modd i ysgolion ychwanegu dogfennau ynghyd a’i haddasu gan fod y sefyllfa yn newid mor aml.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Pwysleisiwyd fod cyfathrebu yn holl bwysig, a gyda’r cyfnod nesaf am ddod a sialensiau mawr, mae’n holl bwysig fod pawb yn gweithio gyda’i gilydd.

¾  Nodwyd mai partneriaeth fydd hyn.  Mynegwyd yr angen i weithio gyda’n gilydd  a chael un llais a chysondeb dros y rhanbarth.