skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8BF

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2019/20

Cofnod:

Etholwyd Cyng. Phill Wynn (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) yn Gadeirydd ar gyfer 2019/20.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2019/20

Cofnod:

Etholwyd Cyng. Garffild Lewis (Cyngor Bwrdeistref Conwy) yn Is-gadeirydd ar gyfer 2019/20.

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Croesawyd pawb i’r cyfarfod, yn benodol Cyng. Cemlyn Williams i’w gyfarfod cyntaf o Gyd-bwyllgor GwE a Delyth Gray a oedd yn bresennol fel Sylwebydd o Estyn. Bu i’r Cadeirydd longyfarch y Cyng. Ian Roberts ar ddod yn Arweinydd Cyngor Sir y Fflint.  Anfonwyd cydymdeimlad at Arwyn Thomas yn dilyn profedigaeth ddiweddar.

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Haf Williams (Cynrychiolydd Ysgolion Cynradd), Claire Homard (Cyngor Sir y Fflint),  Ian Roberts (Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Wrecsam) ac Arwyn Thomas (Rheolwr Gyfarwyddwr GwE).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o  fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu

hysteried.

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

6.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 71 KB

(wedi ei atodi)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 20 Chwefror 2019 fel rhai cywir.

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL GwE 2018/19 pdf eicon PDF 67 KB

Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE i gyflwyno Adroddiad Blynyddol GwE 2018-19. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr Adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod mwyafrif o’r wybodaeth wedi codi o drefn rheoli perfformiad GwE. Ychwanegwyd fod yr adroddiad yn ceisio cael cydbwysedd rhwng perfformiad GwE yn ystod y flwyddyn, a’r camau ar gyfer y dyfodol. Ategwyd fod y blaenoriaethau sydd i’w gweld yn yr adroddiad yn bwydo mewn i Gynllun Busnes GwE ar gyfer 2019-20.

 

Codwyd y mater o ganlyniadau Saesneg yn ystod arholiadau TGAU. Mynegwyd y bydd trafodaeth yn ail gychwyn gyda Phrif Weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Blaker yn fuan gyda Phenaethiaid Ysgolion Uwchradd Sir Ddinbych yn dilyn cyfnod o beidio ymgysylltu. Anogwyd y Cynghorwyr i drafod â Phenaethiaid Ysgolion Uwchradd eraill y rhanbarth, ac i gysylltu â Chymwysterau Cymru er mwyn ail gychwyn y drafodaeth. Ategwyd y bydd Pennaeth Addysg Sir Ddinbych yn adrodd yn ôl yn dilyn y cyfarfod.

Mynegwyd fod cynllun Shirley Clarke yn parhau ac yn llwyddiannus, gyda’r 27 ysgol sydd yn rhan o haen 1 wedi bod yn rhannu eu sgiliau â ysgolion haen 2. Ychwanegwyd fod y daith ddiwygio yn parhau ac yn integredig â phob agwedd o waith GwE. Ategwyd fod gan y daith ddiwygio rôl allweddol yn cefnogi’r Gymraeg. Nodwyd fod y blaenoriaethau strategol yn cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

-        Diolchwyd i’r staff am yr adroddiad gan nodi fod cyfnod heriol o flaen GwE.

 

8.

CYNLLUN BUSNES LEFEL 1 2019/20 pdf eicon PDF 83 KB

Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, i gyflwyno'r Cynllun Busnes Lefel 1 ar gyfer 2019-2020 i'r Cyd-bwyllgor eu cymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd y Cynllun Busnes gan nodi ei fod yn adlewyrchu’r blaenoriaethau rhanbarthol a  chenedlaethol. Nodwyd fod y Cynllun yn cyd-fynd â disgwyliadau'r Llywodraeth.

 

Tynnwyd sylw at flaenoriaethau’r Cynllun Busnes a oedd yn cynnwys datblygu a gwella darpariaeth gyda’r prif ffocws ar arweinyddiaeth lefel ganol o safon uchel. Mynegwyd fod y maes anghenion dysgu ychwanegol yn flaenoriaeth yn ogystal â chwricwlwm trawsnewidiol.  

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Mynegwyd mai’r risg mwyaf ar hyn o bryd yw sefyllfa ariannol Awdurdodau Lleol - o dan y toriadau sydd wedi bod i gyllidebau Awdurdodau Lleol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, risg i ysgolion wynebu toriadau pellach.

¾     Nodwyd o ganlyniad i’r newidiadau mawr gyda trawsnewid y cwricwlwm fod nifer o athrawon â blynyddoedd o brofiad yn gadael y maes addysg. Mynegwyd yr angen am greu cofrestr risg penodol ar gyfer hyn o ran ei effaith ar athrawon, rhieni a disgyblion.

¾     Tynnwyd sylw penodol at y mater fod angen i GwE gyfarch yr arbedion fel bod datrysiad tymor hir. Awgrymwyd bod angen i’r adolygiad o’r gyllideb a'r gweithlu gael ei wneud cyn mis Hydref yn barod ar gyfer mis Mawrth.

¾     Mynegwyd fod y cynllun busnes yn cyd-fynd ag amcanion cenedlaethol.

 

 

 

9.

CYFRIFON GwE 2018/19 pdf eicon PDF 92 KB

Dafydd Edwards, Pennaeth Cyllid Awdurdod Lletyol – Cyngor Gwynedd ac Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE i ddiweddaru aelodau’r Cyd-bwyllgor ar sefyllfa ariannol derfynol cyllideb GwE am y flwyddyn ariannol 2018/19.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn nodi’r Incwm Refeniw a’r Cyfrif Gwariant ym 2018/19. Tynnwyd sylw at yr amrywiadau ariannol. Nodwyd fod tanwariant o ran gweithlu yn bennaf o ganlyniad i secondiad Cyfarwyddwr Cynorthwyol. Ychwanegwyd fod gorwariant gydag Adeiladau a bod hyn o ganlyniad i GwE ddim yn cyfarfod targed incwm, a Chyflenwadau a Gwasanaethau gan fod y costau cyfieithu wedi codi gan nad yw GwE wedi gallu penodi cyfieithydd.

 

Mynegwyd fod sefyllfa ariannol GwE ar 31/03/2019 yn daclus iawn, ond fod angen adnabod arbedion parhaol erbyn Hydref 2019.