skip to main content

Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2020/21.

Penderfyniad:

Bu i Cyng. Phil Wyn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ei ethol yn gadeirydd ar gyfer 2020/21.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2020-21.

Penderfyniad:

Bu i Cyng Meirion Jones, Cyngor Sir Ynys Môn, yn Is-gadeirydd ar gyfer 2020/21. 

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

6.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 333 KB

(ynghlwm).

7.

TREFNIADAU LLYWODRAETHU : ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 280 KB

Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, i gyflwyno a gofyn am gymeradwyaeth y Cydbwyllgor mewn perthynas â threfniadau archwilio mewnol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y trefniadau fel y’i nodwyd ym mhwynt 4.1 o’r adroddiad, gan ychwanegu fel eithriad lle’n briodol, y bydd angen i rai adroddiadau archwilio unigol gael eu cyflwyno i’r Cydbwyllgor pan fydd angen yn codi, yn hytrach nac aros am yr adroddiad blynyddol.

 

8.

ADRODDIADAU ARCHWILIADAU MEWNOL pdf eicon PDF 256 KB

Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, i rannu adroddiadau archwilio perthnasol a gynhaliwyd gan awdurdodau lleol y rhanbarth ar y Grant Datblygu Disgyblion a'r Grant Gwella Ysgolion Consortia Rhanbarthol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiadau gan nodi bod rheolaeth a phrosesau priodol a digonol mewn lle, ac felly ni fydd angen cyflwyno eitemau cyffelyb i’r Cydbwyllgor yn y dyfodol, ar wahân i’w crybwyll yn adroddiad blynyddol Rheolwr Archwilio'r awdurdod lletyol i’r Cydbwyllgor.

9.

COFRESTR RISG pdf eicon PDF 395 KB

Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, i gyflwyno Cofrestr Risg ddiweddaraf GwE i'r Cyd-Bwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bu i’r Cydbwyllgor adolygu cynnwys y gofrestr ac i dderbyn y wybodaeth.

 

10.

CYLLIDEB - MONITRO AIL CHWARTER pdf eicon PDF 464 KB

Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE a Dafydd L Edwards, Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd i ddiweddaru aelodau’r Cyd-Bwyllgor am yr adolygiad ariannol diweddaraf o gyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2020/21.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad.

 

11.

RHAGLEN TRAWSNEWID ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL pdf eicon PDF 316 KB

Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, i gyflwyno offeryn hunanasesu i aelodau’r Cyd-Bwyllgor fydd yn cynorthwyo’r Awdurdodau Lleol i asesu eu parodrwydd ar gyfer gweithredu'r diwygiadau fel yr amlinellir yng Nghod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Drafft Cymru

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd yr offeryn hunan asesu a’r Cynnig Proffesiynol Anghenion Dysgu Ychwanegol fydd yn cefnogi’r Awdurdodau Lleol a’r ysgolion i weithredu’r diwygiadau fel yr amlinellir yng Nghod Anghenion Dysgu Drafft Cymru.

 

Gofynnwyd am adroddiad pellach i’r cyfarfod nesaf yn nodi sut y bydd yr offeryn hunanasesu yn gweithio ac i nodi unrhyw oblygiadau ariannol fydd o ganlyniad i’r Cod Anghenion Dysgu drafft.

 

12.

CANLYNIADAU 2020 - ADOLYGIAD ANNIBYNNOL Y GWEINIDOG ADDYSG pdf eicon PDF 411 KB

Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, i gynnal trafodaeth yn y Cyd-bwyllgor ar yr Adolygiad Annibynnol o ddyfarnu Cymwysterau yng Nghymru yn 2020 yn dilyn cyhoeddiad y Gweinidog Addysg ar 10 Tachwedd 2020. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd mai prif flaenoriaeth y rhanbarth dros y cyfnod nesaf fydd rhoi’r gefnogaeth briodol i’r ysgolion uwchradd i gefnogi dysgwyr CA4 a CA5 i gael eu hachredu’n deg.  Er mwyn gweithredu hyn, cytunwyd i ddefnyddio refeniw wrth gefn sydd o ganlyniad i’r tanwariant.

Penderfynwyd ysgrifennu at y Gweinidog Addysg, yn gyntaf i ddiolch am ei chyhoeddiad ar y 10fed o Dachwedd ar y trefniadau ar gyfer dyfarnu cymwysterau ar gyfer 2021, ac yn ail i nodi pryderon sydd yn codi o’r cyfarfod.

Penderfynwyd ysgrifennu at Geraint Rees, Cadeirydd y Grŵp Dylunio a Chynllunio, yn amlinellu’r pryderon a nodwyd..

 

13.

ADNODDAU DYSGU CYFUNOL pdf eicon PDF 263 KB

Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, i rannu gwybodaeth ag aelodau'r Cyd-bwyllgor am y strategaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael i ysgolion i sicrhau parhad y dysgu. 

Penderfyniad:

Nodwyd a derbyniwyd yr adroddiad ac i gefnoi’r dull a’r model rhanbarthol i sicrhau parhad y dysgu yng Ngogledd Cymru.

 

14.

ADRODDIAD LLESIANT pdf eicon PDF 264 KB

Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, i rannu gwybodaeth ag aelodau'r Cyd-bwyllgor am y dull rhanbarthol o gefnogi lles  ein plant a'n gweithlu

Penderfyniad:

Nodwyd a derbyniwyd cynnwys yr adroddiad ac i gefnogi’r dull rhanbarthol o gefnogi lles plant a gweithlu’r rhanbarth.

 

15.

ADOLYGIAD THEMATIG ESTYN pdf eicon PDF 266 KB

Arwyn Thomas, Rheolwr Cyfarwyddwr GwE, i ddiweddaru aelodau’r Cyd-Bwyllgor ynglŷn ag Adolygiad Thematig Estyn. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd cynnwys yr adroddiad a chytunwyd i gynnal trafodaethau pellach yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad. 

 

16.

YSGOLION MEWN CATEGORI pdf eicon PDF 346 KB

Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, i ddiweddaru aelodau'r Cyd-Bwyllgor ar y sefyllfa bresennol o ran yr ysgolion sydd mewn Categori Statudol Estyn a Chategori Adolygu gan Estyn.

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd cynnwys yr adroddiad achytunwyd ar y camau nesaf. Penderfynwyd ysgrifennu at Estyn yn gofyn am arweiniad ac eglurder buan ynglŷn â’r sefyllfa.