Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Natalie Lloyd Jones  E-bost: NatalieLloydJones@gwynedd.llyw.cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y canlynol; Annwen Morgan (Prif Weithredwr, Cyngor Sir Ynys Môn), Claire Armitstead (Cynrychiolydd Ysgolion Uwchradd), Garem Jackson (Cyngor Gwynedd), Claire Homard (Cyngor Sir y Fflint), Arwyn Thomas (Rheolwr Gyfarwyddwr GwE), Karen Evans (Cyngor Sir Ddinbych).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLANEOROL pdf eicon PDF 298 KB

(atodol)

Cofnod:

Cadarnhawyd fod y cofnod a gyflwynwyd o’r cyfarfod ar yr 24ain o Chwefror, 2021 yn gywir.

 

Cyfeiriwyd at sylw o dan Eitem 11 o'r cofnodion gan ddiweddaru’r Cydbwyllgor bod GwE yn gweithio efo ymgynghorydd ar gyfer ymgysylltu gyda rhieni er mwyn hyrwyddo cefnogi dysgu. Ymhelaethwyd gan nodi bod grŵp rhanbarthol wedi ei sefydlu er mwyn datblygu adnoddau dwyieithog a fydd ar gael i ysgolion ar ôl hanner tymor.

 

 

5.

CYFRIFON GwE 2020-2021 - ALLDRO REFENIW pdf eicon PDF 585 KB

 

Diweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar adolygiad ariannol terfynol cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2020/21.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

a)    Nodi a derbyn y Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw am 2020/21 cyflwynwyd yn Atodiad 1 fel sefyllfa ariannol derfynol.

 

 

a)    Cydbwyllgor yn cymeradwyo trosglwyddiad ariannol i neilltuo tanwariant 2020/21 o (£83,326) i gronfa wrth gefn GwE

 

 

Cofnod:

TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Cyllid, Cyngor Gwynedd, yr Awdurdod Lletyol sy’n nodi alldro refeniw ar ddiwedd y flwyddyn gyllidebol 2020/21.

 

Nodwyd bod tanwariant o £83,000 yn bennaf o ganlyniad i arbedion costau teithio. Argymhellwyd bod y tanwariant yn cael ei drosglwyddo i gronfa wrth gefn GwE. Cyfeiriwyd at yr adroddiad er mwyn egluro ymhellach y gwariant a thanwariant dros y flwyddyn.

 

Ategwyd bod sefyllfa ariannol bresennol GwE yn wastad ac yn ddarbodus ar ddiwedd y flwyddyn gyllidebol.

 

Diolchodd y Cadeirydd, ar ran y Cydbwyllgor, am yr adroddiad cynhwysfawr ac ategwyd hyn gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE.

 

6.

CYNLLUN BUSNES GwE 2021-2022 pdf eicon PDF 255 KB

I gyflwyno Cynllun Busnes Rhanbarthol GwE 2021 – 2022 i aelodau’r Cyd-bwyllgor. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo Cynllun Busnes Rhanbarthol GwE ar gyfer 2021 – 2022.

 

Cofnod:

TRAFODAETH:

Cyflwynwyd y Cynllun Busnes gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE gan nodi ei fod yn amlinellu gweledigaeth, gwerthoedd ac ymddygiad y gwasanaeth, yn ogystal â’r meysydd gwelliant â blaenoriaeth ar draws y rhanbarth. 

 

Yn ogystal, ategwyd bod y Cynllun Busnes yn rhoi sylw i flaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru a’r Awdurdodau Lleol, sydd o fewn cylch gorchwyl GwE.

 

Cefnogir y blaenoriaethau yma gan gynlluniau manwl y gwasanaeth ac hefyd mae gan bob Awdurdod Lleol gynllun busnes manwl. 

 

Adroddir yn chwarterol ar gynnydd yn erbyn y Cynllun Busnes Rhanbarthol i’r Cyd-bwyllgor. 

 

7.

COFRESTR RISG pdf eicon PDF 395 KB

I gyflwyno Cofrestr Risg ddiweddaraf GwE i'r Cyd-Bwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Nodi a derbyn cynnwys yr adroddiad.

b)    Bydd y Cydbwyllgor yn cael eu briffio yn ystod y drafodaeth nesaf  ar y Gofrestr Risg mewn perthynas â’r risgiau cydberthynol sydd ynghlwm â recriwtio arweinyddion, ynghyd ag recriwtio staff cymwys dwyieithog.

Cofnod:

TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd y gofrestr risg diweddaraf gan Reolwr Busnes GwE gan egluro ei bwrpas sef ffurfioli proses o adnabod risgiau a chymryd camau gweithredu. Mae cofrestr risg GwE yn ddogfen fyw, a chaiff ei hadolygu'n gyson. Fe'i cyflwynir i’r Cydbwyllgor yn flynyddol, a hefyd pan fydd risgiau newydd yn cael eu hadnabod a bod angen i’r Cydbwyllgor fod yn ymwybodol ohonynt.  Cyfeiriwyd at y pecyn gan nodi bod y risgiau wedi eu diweddaru ac wedi amlygu’n goch er gwybodaeth i’r pwyllgor.

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:-

 

-        Amlygwyd risgiau ynghylch recriwtio penaethiaid yn sgil y pandemig. Gofynnwyd a oedd diweddariad ar hyn o fewn y rhanbarth.

-        Ategwyd hyn gan nodi bod ambell i staff arweiniol yn dewis ymddeol yn gynnar ac felly mae’n bwysig ystyried hyn fel risg uwch.

-        Gofynnwyd i ystyried llwyth gwaith penaethiaid a’u cyfrifoldebau ymestynnol. Ategwyd bod angen edrych ar resymau pam mae recriwtio yn bryder gan gynnig mai oherwydd yr amrediad o gyfrifoldebau ac atebolrwydd sydd ar benaethiaid.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau nododd Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE:-

 

-        Bod ffigyrau CPCP yn iach dros y blynyddoedd diweddaraf fodd bynnag nid pawb sy’n meddu ar y cymhwyster sy’n mynd ymlaen i fod yn benaethiaid.

-        Amlygwyd pwysigrwydd sicrhau lles penaethiaid fel blaenoriaeth.

 

8.

TREFNIADAU ASESU: TYMOR YR HAF 2021 pdf eicon PDF 293 KB

I gyflwyno crynodeb o ganllawiau Llywodraeth Cymru ar drefniadau asesu tymor yr 2021 a gyhoeddwyd ar Ebrill 7fed, 2021 i aelodau’r Cydbwyllgor. 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE er gwybodaeth er mwyn nodi bod y sefyllfa asesu yn adlewyrchu'r sefyllfa a fu yn 2020 sef nad oes disgwyliad i athrawon asesu na chymedroli. Yn ogystal, nodwyd na fydd canlyniadau CA4 yn cael eu cyhoeddi ar lefel ysgol, dim ond ar lefel cenedlaethol.

 

Ategwyd nad oes rhaid i ysgolion gynnal profion llythrennedd a rhifedd, fodd bynnag,  anogir ysgolion i’w cynnal os yn bosib ar gyfer asesu’n fewnol.

 

 

9.

Y DAITH DDIWYGIO: PAPURAU PROCIO pdf eicon PDF 441 KB

I gyflwyno cyfres o Bapurau Procio sydd yn edrych ar agweddau ar arweinyddiaeth, gweledigaeth, addysgeg, asesu a dylunio'r cwricwlwm i aelodau'r Cyd-Bwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

a)    Derbyn yr adroddiad.

b)    Bwriedir rhannu datblygiadau gydag Aelodau Etholedig a’r gymuned ehangach, er mwyn codi ymwybyddiaeth o waith parhaus GwE i sicrhau llwyddiant y cwricwlwm newydd yn 2022.

 

Cofnod:

TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE gan nodi bod casgliad o bapurau wedi eu cynhyrchu ar y cyd gan aelodau tîm GwE, yn gweithio dan arweiniad a chymorth yr Athro Graham Donaldson.

 

Nodwyd mai bwriad y Papurau Procio yw annog trafodaeth a chefnogi ysgolion i baratoi ar gyfer Cwricwlwm i Gymru. Ategwyd bod y rhain wedi eu rhannu efo ysgolion mewn cyfres o webinarau a'u bod yn ddefnyddiol i’w hysgogi i feddwl beth sydd angen ei roi mewn lle ar gyfer y cwricwlwm newydd.

 

 

Sylwadau sy’n codi o’r drafodaeth:-

 

-        Diolchwyd i swyddogion GwE am eu gwaith ar y cwricwlwm newydd ac estynnwyd balchder o glywed bod perthynas agos gyda’r Athro Donaldson.

-        Ategwyd balchder yn y gwaith a brwdfrydedd o’r cyfleoedd a daw efo’r cwricwlwm newydd fel ffordd o roi Cymru ar y map.

-        Mynegwyd bod angen rhannu'r rhain efo pwyllgorau craffu addysg ac yn ehangach er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r gwaith sydd yn digwydd.

-        Ategwyd hyn gan nodi’r angen i gael y neges allan i rieni ac awdurdodau lleol am y newid mawr sydd ar y gweill a’r cyfleoedd a daw yn sgil y cwricwlwm.

-        Nodwyd bod y pandemig wedi rhoi cysgod dros y gwaith yma ac ategwyd pwysigrwydd bod y gwaith yn cael ei amlygu erbyn hyn.

 

 

Mewn ymateb i’r sylwadau nododd Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE:-

 

-        Bod y gwaith yn cael eu recordio fel webinarau ac felly bydd modd i rannu'r rhain efo aelodau’r cydbwyllgor ac efo rhieni a llywodraethwyr er mwyn amlygu’r gwaith. 

 

 

10.

ADOLYGIAD THEMATIG ESTYN: ARGYMHELLION pdf eicon PDF 317 KB

I gyflwyno adroddiad cynnydd ar argymhellion adolygiad thematig Estyn ‘Cymorth awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i ysgolion ac UCDau i ymateb i COVID-19’  i aelodau’r Cyd-Bwyllgor. 

.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)     Nodi a derbyn cynnwys yr adroddiad.

b)     Bod aelodau’r Cydbwyllgor yn cael eu briffio yn yr Hydref ar y camau a gymerwyd i ddiwallu’r argymhellion sydd o fewn yr adolygiad thematig gan Estyn.

 

Cofnod:

TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE gan nodi y derbyniwyd rhestr o argymhellion gan Estyn o ganlyniad i’r adolygiad a fu.

 

Nodwyd bod Estyn eisoes wedi ymweld â’r awdurdodau a GwE i drafod  y cynnydd yn erbyn yr argymhellion a chyfeiriwyd at yr adroddiad er gwybodaeth i aelodau’r cydbwyllgor sy’n amlinellu’r cynnydd hyd yma. 

 

 

Gan nad oedd amser hir rhwng cyhoeddi’r adroddiad ym mis Rhagfyr/Ionawr a’r ymweliadau diweddar, awgrymwyd bod y Cydbwyllgor yn derbyn diweddariad yn yr Hydref ar y camau a gymerwyd i ddiwallu’r argymhellion sydd o fewn yr adolygiad thematig gan Estyn.

 

 

Sylwadau sy’n codi o’r drafodaeth:-

 

-        Nodwyd bod yr adroddiad yn un defnyddiol wrth iddo ddangos ymarferion ar draws y rhanbarth.

-        Gofynnwyd a oes mwy o waith i wneud er mwyn diwallu’r argymhellion, ac os felly, cynigwyd bod angen diweddaru’r cydbwyllgor yn yr Hydref.

-        Mynegwyd bod yr argymhellion yn briodol ac yn amlygu’r gwaith arbennig sydd wedi bod ymysg y 6 Awdurdod Lleol a GwE.

-        Ategwyd aelodau eraill y cydbwyllgor eu bod yn ddiolchgar iawn am y gwaith gan GwE, ALl a’r ysgolion.