Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Natalie Lloyd Jones  01286 679665

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I nodi unrhyw ymddiheuriadau.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y canlynol; Annwen Morgan (Prif Weithredwr, Cyngor Sir Ynys Môn, Rhys Howard Hughes (Cyngor Sir Ynys Môn), Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau brys i’w hystyried ym marn y Cadeirydd.

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 293 KB

(amgaeëdig)

Cofnod:

Cadarnhawyd fod y cofnod a gyflwynwyd o’r cyfarfod ar yr 26ain o Fai, 2021 yn gywir.

 

5.

DATGANIAD O'R CYFRIFON 2020/21 pdf eicon PDF 314 KB

I gyflwyno Datganiad o’r Cyfrifon, ar ffurf ‘statudol’, wedi’i ardystio, ond yn amodol ar archwiliad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon GwE (yn amodol ar archwiliad) am flwyddyn 2020/21.

 

Cofnod:

TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd y Datganiad o’r Cyfrifon, ar ffurf ‘statudol’, wedi’i ardystio gan y Swyddog Cyllid Statudol i’r Cydbwyllgor er gwybodaeth

 

Cyfeiriwyd at y ffigyrau yr adroddwyd yn y Cydbwyllgor blaenorol ynglŷn â thanwariant a’r cyfansymiau ym mhob colofn.

Eglurwyd sefyllfa ariannol GwE gan nodi bod £811,000 i’w gweld yn y gronfa. 

 

Ategwyd mai er gwybodaeth yw’r cyfrifon yma a byddai fersiwn ôl-archwiliad yn dod gerbron y Cydbwyllgor yn yr Hydref er mwyn i’r cydbwyllgor eu derbyn a’u fabwysiadu.

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:-

 

-       Diolchwyd am broffesiynoldeb y tîm am gyflwyno’r cyfrifon mewn amser priodol.

-       Gofynnwyd a oedd gan yr aelodau unrhyw beth i’w boeni amdano o safbwynt y cyfrifon.

-       Diolchodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE i’r Pennaeth Cyllid a’r Cyfrifwyr am eu gwaith technegol i gefnogi GwE. Ategwyd y diolch i’r Rheolwr Busnes a’r Tîm Busnes sydd wedi sicrhau bod y gwasanaeth yn unioni’r gyllideb o un flwyddyn i’r llall.

 

Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cyllid:

 

-   Nad oedd unrhyw beth i boeni amdano, a bod tystiolaeth o reolaeth gadarn gydag unrhyw danwariant neu orwariant o fewn ffiniau rhesymol.

 

6.

DATGANIAD LLYWODRAETHU pdf eicon PDF 253 KB

I dderbyn a chymeradwyo y datganiad llywodraethu blynyddol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2020/21.

 

 

 

Cofnod:

 

TRAFODAETH:

 

Tywyswyd y Cydbwyllgor drwy’r adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch yr egwyddorion a’r weledigaeth. Eglurwyd bod y datganiad yn rhoi trosolwg o sut mae’r gwasanaeth wedi bod yn ymddwyn a beth yw’r camau nesaf yn y flwyddyn i ddod.

 

Mynegwyd diolch i Dewi Morgan (Cyngor Gwynedd) am ei gyngor o safbwynt llywodraethu wrth lunio’r Datganiad Llywodraethu.

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

 

-       Nodwyd ei fod yn ddogfen ddefnyddiol i gyfeirio ato ac yn cynnig lefel uchel o sicrwydd i aelodau’r Cydbwyllgor.

-       Diolchwyd am yr adroddiad.

 

 

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2020/21 pdf eicon PDF 383 KB

I gyflwyno Adroddiad Blynyddol GwE 2020-21 i'r Cyd-Bwyllgor. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2020/21 ar yr amod o ychwanegu blaenoriaeth sy’n ymdrin ag ymateb i effeithiau ôl-covid yng nghyd-destun y gwasanaeth.

 

Cofnod:

TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE ac amlinellwyd sut mae GwE wedi ail-bwrpasu yn ystod y cyfnod pandemig. Ategwyd bod y Cydbwyllgor wedi cael eu diweddaru ar y gwaith yma yn ystod y flwyddyn a bod yr  adroddiad yma yn grynodeb o hyn.

 

Amlygwyd bod yr adroddiad yn amlinellu sut mae ysgolion yn cael eu cefnogi i weithredu'r daith ddiwygio a pharatoi am y cwricwlwm newydd ac mae'n nodi’r blaenoriaethau strategol a rhanbarthol ar gyfer 2021-22 a gytunwyd arnynt yn y cyfarfod blaenorol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:-

-       Diolchwyd i Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE a’r tîm am eu gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

-       Cyfeiriwyd at Bwynt 8 - blaenoriaethau ar gyfer 21/22 gan nodi bod bwlch yna sef nad oes cyfeiriad at sut mae GwE am ymateb i effeithiau ôl-covid yng nghyd-destun Addysg.

 

 

Mewn ymateb nododd Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE:-

-       Y bydd trosolwg o’r cynlluniau sy’n ystyried effeithiau ôl-covid i yn yr adroddiad monitro yn yr hydref

-       Ategwyd y bydd modd ychwanegu effeithiau Covid fel rhan o’r adroddiad neu, nodwyd bod posibilrwydd i’w ychwanegu fel blaenoriaeth 7.

 

 

8.

STRATEGAETH I GEFNOGI RHIENI/ GOFALWYR pdf eicon PDF 287 KB

I ddiweddaru aelodau'r Cyd-bwyllgor am ein strategaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael i helpu rhieni a gofalwyr ar sut orau i gefnogi eu plant i ddysgu.

 

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad a chefnogi’r strategaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael i ysgolion mewn perthynas ag ymgysylltiad rhieni/gofalwyr yng ngogledd Cymru.

 

Cofnod:

TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE gan nodi mai un o flaenoriaethau’r cynllun busnes yw cynorthwyo rhieni/ gofalwyr i fedru helpu eu plant i ddysgu.

 

Ategodd bod grŵp rhanbarthol eisoes wedi ei sefydlu sydd wedi cyfarfod dwywaith i osod cyfeiriad strategol i’r gwaith. Soniwyd am becyn i helpu plant rhwng 5-12 oed i ddysgu, sydd wedi rhannu efo’r ysgolion cynradd  . Cyfeiriwyd at y rhaglen gan nodi bod dolen yn y fersiwn ar-lein i aelodau’r Cydbwyllgor ei weld.

 

Eglurodd bod Penaethiaid eisoes wedi cael cyflwyniad i’r adnodd a bod y grŵp rhanbarthol wedi adnabod yr angen  i gael pecyn ar gyfer dysgwyr 13-16 oed. Ategodd bod penaethiaid Uwchradd yn gefnogol ac yn awyddus i gael y pecyn yn ogystal â phecyn ar gyfer plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

-       Nododd aelod bod wir angen am hyn a bod yr adnodd yn cael ei werthfawrogi.

-       Gofynnodd aelod a yw’r adnodd yn berthnasol ar gyfer rhieni di-gymraeg sydd â phlant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

 

Mewn ymateb:

-       Nododd Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE bod angen i GwE arddangos eu cyfraniad i CSGA yr Awdurdodau Lleol. 

-       Ategodd bod y mater o gynorthwyo rhieni di-gymraeg yn un lled Cymru a bod angen trafodaethau yn y Bwrdd Rheoli er mwyn adnabod sut i lenwi’r bwlch.

 

9.

MENTER TEDxGwE pdf eicon PDF 373 KB

Rhoi trosolwg o Fenter TEDxGwE i aelodau'r Cyd-Bwyllgor.

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r adroddiad a Menter TEDxGwE Gogledd Cymru ac edrychir ymlaen at dderbyn diweddariad yn yr Hydref.

Cofnod:

 

TRAFODAETH:

 

Rhoddwyd trosolwg o’r menter newydd gan ategu ei fod yn ddarn o waith fydd yma yng ngogledd Cymru am flynyddoedd.

Eglurwyd bod GwE wedi cofrestru ac wedi cael trwydded ar gyfer TEDxGwE  ble bydd plant yn cyfrannu at y drafodaeth o ran sut i fynd i'r afael â, a chynnig datrysiadau i’r argyfwng newid  hinsawdd. Ategwyd  y bydd modd mynd a barn a llais plant y gogledd ymlaen at COP26 sydd yng Nglasgow eleni a bod ysgolion wedi derbyn gwybodaeth am hyn.

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

-       Gofynnwyd a oedd amserlen ar gyfer dychwelyd i’r Cydbwyllgor gydag adroddiad pellach ar y fenter yma.

-       Cytunwyd bod y fenter yn amserol iawn ar gyfer dibenion y cwricwlwm newydd a gallai ysgolion fabwysiadu’r fenter yn flynyddol.

-       Diolchwyd i GwE am ymdrechu i sicrhau’r fenter yma fel yr unig gonsortia rhanbarthol i wneud hynny.

 

Mewn ymateb nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE:

 

-       Ei ddiolchiadau ar ran y Cydbwyllgor i Gavin Cass am sicrhau bod pobl ifanc y gogledd ar y blaen efo’r cyfleoedd yma.

-       Bod angen sicrhau bod gan y fenter yma cyswllt clir gyda blaenoriaethau’r ALl.

 

 

 

Materion yn codi

 

I gloi, ffarweliwyd â Rheolwr Busnes GwE. Estynnwyd diolch iddi am ei holl waith a chefnogaeth dros y blynyddoedd ers sefydlu GwE. Nodwyd bod y gwasanaeth yn gwerthfawrogi ei chyfraniad, ei deallusrwydd dwfn, a’i chyngor dros ei hamser yno.