Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Natalie Lloyd Jones  01286 679665

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer y flwyddyn 2021/22.

Penderfyniad:

Etholwyd Y Cynghorydd Phil Wynn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, fel Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn o’r Cydbwyllgor.

Cofnod:

Etholwyd Y Cynghorydd Phil Wynn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, fel Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn o’r Cydbwyllgor.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer y flwyddyn 2021/22.

Penderfyniad:

 

Etholwyd Y Cynghorydd Meirion Jones, Cyngor Sir Ynys Môn, yn Is-gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor hwn.

 

Cofnod:

Etholwyd Y Cynghorydd Meirion Jones, Cyngor Sir Ynys Môn, yn Is-gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor hwn.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y canlynol; Karen Evans  (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam)

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dymunwyd yn dda i Annwen Morgan ar ei hymddeoliad a diolchwyd am ei holl waith ymroddgar fel aelod o’r Cyd-bwyllgor.

Dymunwyd yn dda i Dafydd Edwards ar ei ymddeoliad a diolchwyd iddo am ei waith amhrisiadwy dros y blynyddoedd mewn perthynas â chyllid GwE.

 

Ategodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE y byddai colli dau aelod pwysig iawn yn hanes sefydlu GwE yn un enfawr i’r sefydliad.

 

Nododd bod Annwen Morgan wedi cynrychioli penaethiaid, fel pennaeth addysg ac fel prif weithredwraig, a chynigiodd arweiniad doeth cyson a chadarn i GwE.

 

Diolchodd i Dafydd Edwards am ei gyngor cadarn a chlir ac am fod yn gyfaill da i GwE ar faterion tu hwnt i arbenigedd swyddogion. Ategodd bod cyngor doeth Dafydd parthed trefniant cyllidol yn ogystal â’i ragweliadau wedi bod yn arbennig i GwE.

 

Tymor Arholiadau 2022

 

Nodwyd nad oedd Blwyddyn 12 wedi cael profiad o arholiadau allanol, a gyda lefelau Covid yn dal yn uchel, awgrymwyd y dylid anfon llythyr at y Gweinidog Addysg, ar ran y Cyd-bwyllgor hwn, yn pwyso am eglurder ynglŷn â thymor arholiadau 2022, a bod y penderfyniad hwnnw’n cael ei adrodd i ysgolion a disgyblion cyn y Nadolig. 

 

Ategwyd y sylwadau hyn gan aelodau eraill.  Nodwyd:-

 

·         Ei bod yn bwysig cael penderfyniad cadarn ac amserol ar y mater.

·         Pe na chynhelid arholiadau allanol yn 2022, bod angen bod yn glir beth yw’r gofynion fel y gall yr ysgolion a’r bobl ifanc baratoi ar gyfer hynny.

·         Y dylai’r mater gael ei godi gyda Chymwysterau Cymru a CBAC. 

 

Cytunwyd i lythyru’r Gweinidog ar hyd y llinellau hyn, gan hefyd rannu pryder y Cyd-bwyllgor ymysg aelodau a chyfarwyddwyr.

 

6.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 378 KB

(copy enclosed)

Cofnod:

Cadarnhawyd fod y cofnod a gyflwynwyd o’r cyfarfod ar yr 22ain o Fedi 2021 yn gywir.

 

7.

CYFRIFON TERFYNOL AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2021 AC ARCHWILIAD PERTHNASOL pdf eicon PDF 338 KB

I gyflwyno:

·       Datganiad o’r Cyfrifon ôl-Archwiliad;

·       Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru;

·       Llythyr Cynrychiolaeth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r adroddiad ar ran Archwiliwr Cyffredinol Cymru, cymeradwyo cyfrifon 2020/21, ac awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi’r Cyfrifon a’r Llythyr Cynrychiolaeth ar ran y Cyd-Bwyllgor.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r adroddiad ar ran Archwiliwr Cyffredinol Cymru, cymeradwyo cyfrifon 2020/21, ac awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi’r Cyfrifon a’r Llythyr Cynrychiolaeth ar ran y Cydbwyllgor.

 

TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog Cyllid statudol GwE gan nodi fod yr adroddiad yn cwmpasu'r cyfrifon cyn archwiliad a gyflwynwyd i’r Cydbwyllgor ym mis Mai, 2021. Diolchwyd i staff Gwynedd, ac i Archwilio Cymru am archwilio GwE am y tro cyntaf.  Nododd ei fod yn adroddiad glan sydd i’w groesawu. Mynegwyd nad oedd unrhyw newid sylweddol i’r cyfrifon yn dilyn y cyfarfod hwnnw a bod y cywiriadau wedi eu cyfyngu i’r nodiadau. Ategodd nad oedd y mân addasiadau yn newid y prif ddatganiadau.

 

Cyflwynodd Sioned Owen (Archwilio Cymru) y prif bwyntiau ar y cyfrifon a thynnwyd sylw’r Cydbwyllgor at eu bwriad i gyhoeddi adroddiad archwilio yn ddiamod.

Diolchwyd i’r tîm cyllid am eu cymorth yn archwilio am y tro cyntaf o dan amodau heriol.

 

Gofynnwyd i’r Pwyllgor ganiatáu i’r Cadeirydd ynghyd â Phennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd (fel Swyddog Cyllid Statudol GwE), arwyddo’n electronig y Cyfrifon a’r Llythyr Cynrychiolaeth (Atodiad 1 i adroddiad Archwiliwr Cyffredinol Cymru).

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

-       Croesawyd Archwilio Cymru i’w cyfarfod cyntaf o’r Cydbwyllgor. Hefyd, diolchwyd i’r tîm cyllid.

-       Diolchwyd i Dafydd a’r tîm am eu gwaith gan nodi bod eu gwaith wedi bod yn gryfder gan GwE.

 

 

8.

CYLLIDEB GWE 2021-2022 - ADOLYGIAD CHWARTER 2 pdf eicon PDF 419 KB

·       Diweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar adolygiad ariannol diweddaraf cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2021/22.

 

·       Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar yr amrywiadau ariannol sylweddol, gydag Atodiad 1 yn cynnwys y wybodaeth ariannol gyflawn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH:

 

Diweddarwyd aelodau’r Cydbwyllgor ar adolygiad ariannol diweddaraf cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidebol 2021/22. Nodwyd fod cyllideb 2021/22 GwE dan reolaeth, er gwaethaf effaith parhaus Covid-19.

 

Nododd bod tanwariant o oddeutu £80,000. Eglurodd bod effaith Covid-19 yn parhau yn nhermau ymweliadau ysgolion, ategodd bod y rhain wedi ail gychwyn ond nad ydynt ar yr un raddfa.

 

Eglurodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE bod y gronfa tanwariant yn cynnwys oddeutu £643,000. Nododd y bydd cyfran helaeth o hwn yn mynd i ysgolion er mwyn creu capasiti ynddynt i wynebu heriau'r agenda trawsnewid. Byddai cynnwys y gwariant yn cael ei rannu gyda’r Bwrdd Rheoli er mwyn sicrhau bod y Cyfarwyddwyr yn gyfforddus gyda chyfeiriad y gwariant.                        

 

 

9.

GRANT DATBLYGU DISGYBLION 2021-22 pdf eicon PDF 273 KB

Rhoi diweddariad i'r Cyd-bwyllgor ar y Cynllun Cymorth Grant Datblygu Disgyblion am 2021/22 ar draws y rhanbarth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad

 

            TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad er gwybodaeth gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE. Eglurodd na chafodd ei drafod yn gynt yn y flwyddyn oherwydd yr etholiadau ym mis Mai.

Cyfeiriwyd at fanylder y cynlluniau sy’n barhad o gynlluniau a roddwyd mewn lle yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Eglurodd bod y gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth agos gydag awdurdodau lleol i adnabod blaenoriaethau.

 

Nododd bod cwestiynau yn aml yn codi ar sail y dyraniad ac eglurwyd hyn i’r Cydbwyllgor. Aethpwyd ati i egluro i’r Cydbwyllgor bod yr arian yn cael ei ddefnyddio ar lefel clwstwr ac i ariannu prosiectau rhanbarthol.

Cyfeiriodd at y dashfwrdd sydd wedi ei osod ar gyfer y grantiau i helpu ysgolion efo cynllunio ac i adrodd ar gynnydd.

Eglurodd eu bod yn annog yr ysgolion i gwblhau'r gwaith fel bod darlun o’r gwariant yn ogystal ag i helpu i adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru ar y gwariant.

 

I gloi, nododd bod trafodaeth ar y gweill i ystyried ai dyma’r model cyllido fwyaf priodol i ariannu cinio am ddim.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

-       Mynegwyd bod cynnydd yn y nifer o blant sy’n gymwys ar gyfer prydau am ddim dros y deunaw mis diwethaf ac o ganlyniad, gofynnwyd i weld data mwy diweddar oherwydd hyn.

-       Ategodd at hyn gan nodi bod angen cynyddu’r dyraniad er mwyn ymdopi a’r cynnydd niferoedd.

 

Mewn ymateb nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE:

-       Bod hwn yn agenda cymhleth ac o safbwynt addysg mae ysgolion yn dibynnu ar y cyllid i sicrhau darpariaeth e.e. i gyflogi staff cefnogol. Ategodd os oes unrhyw newid, bydd effaith ar weithrediad yr ysgolion.

-       Argymhellwyd y dylid gwahodd Yr athro David Egan i’r Cydbwyllgor fel bod cyfle i fwydo mewn i’r gwaith.

 

 

10.

CYNLLUN BUSNES RHANBARTHOL 2021-2022 GWE - ADRODDIAD MONITRO CHWARTER 2 pdf eicon PDF 368 KB

Cyflwyno Adroddiad monitro chwarter 2 - Cynllun Busnes Rhanbarthol 2021-2022 GwE i'r  Cyd-Bwyllgor. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo a derbyn yr adroddiad monitro ar gyfer chwarter 2.

Cofnod:

PENDERFYNIAD  

 

Cymeradwyo a derbyn yr adroddiad monitro ar gyfer chwarter 2. 

 

TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE a diolchwyd i’r Rheolwr Rheoli Perfformiad am dynnu’r adroddiad at ei gilydd.

 

Atgoffwyd y Cydbwyllgor bod 6 amcan i’r cynllun busnes a chyfeiriwyd at yr atodiadau sy’n cynnwys naratif o gynnydd yn erbyn yr amcanion ac atodiad 2 sy’n cynnwys data rhanbarthol ar ymgysylltu gan yr ysgolion a’u staff.

Ategodd bod cofnod lleol o’r data rhanbarthol yn cael ei baratoi ar gyfer pob awdurdod yn unigol a gaiff ei rannu drwy’r byrddau ansawdd sirol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

-       Diolchwyd am yr adroddiad a mynegwyd hyder yn y cynnwys a roddwyd gerbron y Cydbwyllgor.

 

 

11.

CEFNOGI POB YSGOL GYDA'R CWRICWLWM I GYMRU: DATBLYGU RHWYDWEITHIAU LLEOL A RHANBARTHOL CWRICWLWM I GYMRU pdf eicon PDF 669 KB

Cyflwyno gwybodaeth i aelodau'r Cyd-bwyllgor ar ein dull gweithredu gyda datblygu rhwydweithiau lleol a rhanbarthol Cwricwlwm i Gymru er mwyn cefnogi pob ysgol a lleoliad i weithredu'r Cwricwlwm i Gymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo'r adroddiad.

Cofnod:

PENDERFYNIAD  

 

Derbyn a chymeradwyo'r adroddiad. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE a chyfeiriodd at y ddogfen a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ar ddechrau’r tymor a oedd yn nodi’n glir iawn y dewis ar gyfer disgyblion yn y sector Uwchradd.

 

Ategodd eu bod yn ymgynghori ar strategaeth GwE ac un o brif linynnau’r strategaeth yw cefnogaeth ar gyfer y cwricwlwm. Nododd bod yr Athro Graham Donaldson yn eistedd yn y grwpiau rhanbarthol yn cynghori ar gyfeiriad yr ymgynghoriad.

 

Eglurodd bod ysgolion yn amrywio o ran sut maent wedi ymgymryd â’r newidiadau ar gyfer y cwricwlwm a bod y sefyllfa bresennol wedi rhoi cyfle i ganolbwyntio ar addysgeg a sgiliau digidol. Ategodd bod tystiolaeth o gydweithio ardderchog ar draws y Gogledd ag eglurodd bod gwahoddiad agored i ysgolion ar draws y rhanbarth i adnabod aelodau blaenllaw yn eu cynghreiriau i fod yn rhan o rwydweithiau. Ategodd bod y rhain ar gyfer y meysydd dysgu profiad, rhwydwaith arall ar ddylunio cwricwlwm ac un arall ar gyfer asesu.

 

Gan ymestyn ar y pwynt yma, nododd bod oddeutu 600 o ymarferwyr yn rhan o’r rhwydweithiau a rhagwelir bydd y niferoedd yn tyfu wedi i’r cyfnod cyntaf. Eglurodd y bydd angen modd o gyllido hyn ac awgrymodd y dylai fod hyn yn brif fwriad defnydd arian wrth gefn.

 

Mewn perthynas â’r drefn asesu, nododd eu bod yn aros am ganllaw pellach gan y Llywodraeth.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

 

-       Diolchwyd am yr adroddiad diddorol, balch o weld Yr Athor Graham Donaldson yn rhan o’r gwaith.

-       Ategwyd bod yr adroddiad yn dangos eglurder ar beth sydd angen ar ein disgyblion

-       Holwyd a ydi’r brwdfrydedd yn parhau yn weledol o fewn y rhwydweithiau, ymysg yr ymarferwyr.

-       Nodwyd pryder gyda’r drefn o ddisgwyl i ysgolion darparu staff i fynychu’r sesiynau fel rhan o’r rhwydweithiau os oes diffyg staff oherwydd Covid-19.

-       Gofynnwyd am eglurder ar asesiadau er mwyn sefydlu os yw ysgolion Uwchradd angen mwy o amser i benderfynu pa bryd i gychwyn ar y cwricwlwm newydd.

-       Ategodd aelod y bwriedir i ysgolion Uwchradd Sir Ddinbych gychwyn yn 2022.

 

Mewn ymateb nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE y pwyntiau canlynol:

 

-       Yn gyffredinol mae ysgolion yn awyddus i fod yn rhan o’r agenda i’w symud yn ei flaen.

-       Ategodd bod rhwystrau am godi o fod yn rhan o’r rhwydweithiau oherwydd amgylchiadau’r pandemig yn yr ysgolion, yn arbennig ysgolion bach. Fodd bynnag, pwysleisiodd bwysigrwydd bod y drafodaeth yn digwydd ar lefel clwstwr fel bod aelod sydd yn mynychu yn adrodd yn ôl i’r rhai na ellir gwneud.

-       Ar yr un trywydd, ychwanegodd y rhagwelir y bydd mwy yn dod i mewn unwaith y byddant yn gweld ymarferoldeb yr agenda.

-       O ran safbwynt cynllunio pa bryd i gychwyn, nododd bod modd i wneud yn 2022 neu 2023. Ategodd bod angen gweithio efo’r ysgolion fel bod modd esblygu’n raddol i’r drefn newydd.

-       Cytunodd a’r aelod a nododd bod llawer o ysgolion Uwchradd wedi nodi eu dymuniad i gychwyn y cwricwlwm yn 2022, lle bo  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.