skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Claire Armitstead (Cynrychiolydd Ysgolion Uwchradd), Richard Collet (Cynrychiolydd Ysgolion Cynradd), Rhys Howard Hughes (Cyngor Sir Ynys Môn), Geraint Davies (Cyngor Sir Ddinbych) a Gareth Williams (Cadeirydd Bwrdd Ymgynghorol GwE)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL - 10 TACHWEDD, 2021 pdf eicon PDF 322 KB

(copi ynghlwm)

Cofnod:

Cadarnhawyd fod y cofnod a gyflwynwyd o’r cyfarfod ar y 10fed o Dachwedd, 2021 yn gywir.

 

5.

CYLLIDEB GWE 2021-22 - ADOLYGIAD TRYDYDD CHWARTER pdf eicon PDF 385 KB

Adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE a Phennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad.

 

Trafodaeth

 

Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr a’r Pennaeth Cyllid yn diweddaru’r aelodau ar adolygiad ariannol diweddaraf cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2021/22.  Roedd yr adroddiad hefyd yn canolbwyntio ar yr amrywiadau ariannol sylweddol, gydag Atodiad 1 yn cynnwys y wybodaeth ariannol gyflawn.

 

Mewn ymateb i gais am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r bwriad i wneud defnydd o £100,000 ychwanegol yn erbyn y pennawd grant gwella ysgolion cyffredinol, eglurodd y Rheolwr Gyfarwyddwr:-

 

·         Bod y tanwariant dros y 2 flynedd ddiwethaf, yn ystod y pandemig, ychydig dros £250,000, ac yn ddelfrydol, y dymunid symud yn ôl tuag at y sefyllfa hynny, gan fod angen i’r arian fod yn yr ysgolion. 

·         Bod yr ysgolion yn wynebu heriau trawsffurfio sylweddol ar hyn o bryd, gyda dyfodiad y cwricwlwm newydd, yr uchelgais i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, Rhaglen Trawsnewid ADY a’r gwaith sylweddol sydd angen ei gwblhau ym maes asesiadau, ynghyd ag ystyriaethau llesiant ac arweinyddiaeth.

·         Mai un o’r heriau yn wynebu ysgolion ar hyn o bryd oedd prinder athrawon llanw.  Fodd bynnag, golygai hyn fuddsoddi yn y tymor hwy, fel bod gan yr ysgolion yr adnodd ariannol i gynllunio’r prif flaenoriaethau hyn o fewn eu cynlluniau datblygu ysgolion.  Gan hynny, wrth i’r pandemig gilio, byddai mwy o gyflenwad yn dod ar gael, fel bod modd i’r ysgolion adeiladu mwy o gapasiti i mewn i’w strwythurau cynllunio i wneud y newidiadau hynny.

 

6.

CYLLIDEB SYLFAENOL 2022-23 pdf eicon PDF 373 KB

Adroddiad gan Bennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu’r gyllideb sylfaenol ar gyfer 2022/23 fel y’i chyflwynir yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Mabwysiadu’r gyllideb sylfaenol ar gyfer 2022/23 fel y’i chyflwynir yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

Trafodaeth

 

Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Cyllid yn cyflwyno cyllideb sylfaenol GwE 2022/23 (Atodiad 1 i’r adroddiad) a chyfraniadau ariannol yr awdurdodau (Atodiad 2).  Gwahoddwyd y Cyd-bwyllgor i fabwysiadu’r gyllideb sylfaenol.

 

Awgrymwyd bod swm y balansau, sef agos i £600,000, yn ymddangos yn uchel, a holwyd a oedd y swyddogion yn gyfforddus gyda hynny.  Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Gyfarwyddwr:-

 

·         Bod y ffigwr ychydig llai na £300,000 2 flynedd yn ôl, sef tua hanner y swm presennol.  Yn bersonol, byddai’n dymuno dod â’r ffigwr yn ôl i lawr i’r lefel honno, a byddai hynny’n eithaf rhwydd i’w wneud drwy roi arian i gefnogi blaenoriaethau i roi capasiti i ysgolion.

·         Y byddai’n rhaid gwneud yn siŵr wedyn bod yr isadeiledd a’r strwythurau y tu ôl i hynny mewn lle, er mwyn sicrhau gwerth am yr arian ychwanegol yna ar lefel ysgol, ar lefel awdurdod, ac wedyn ar lefel rhanbarth.

·         Yn sgil y cynnydd presennol mewn chwyddiant, bod angen ystyried beth sy’n swm darbodus i’w gadw wrth gefn, gan gofio hefyd y rhagolygon cynnar bod cyllideb 2023/24 am fod yn fwy heriol, o bosib’.  Hefyd, er na dderbyniwyd y gyllideb grantiau gan Lywodraeth Cymru hyd yma, roedd y naratif cychwynnol yn sôn am doriad eithaf sylweddol i’r pwll grantiau, ond heb weld y manylion, nid oedd yn glir eto beth fyddai effaith hynny.

·         Petai’r gyllideb grantiau yn cyweddu yn eithaf tebyg i’r sefyllfa eleni, yna gyda chyngor ar yr hyn sy’n ddarbodus o ran chwyddiant, byddai’r gwahaniaeth yna yn dod â ni yn ôl i oddeutu'r 2-3%, neu i’r sefyllfa fel ag yr oedd 2 flynedd yn ôl.  Dyna’r nod, os nad erbyn diwedd y flwyddyn ariannol yma, yna yn sicr yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Nododd y Cadeirydd fod yr ansicrwydd ynglŷn â chwyddiant cyflogau athrawon ym mis Medi hefyd yn gost anhysbys y byddai’n rhaid ei gyfarch o falansau, yn hytrach na thorri gwasanaethau, a’i bod felly bob amser yn ddoeth cadw rhywfaint o arian wrth gefn.

 

7.

CYNLLUN BUSNES RHANBARTHOL 2021-22 GWE - ADRODDIAD MONITRO CHWARTER 3 pdf eicon PDF 252 KB

Adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo a derbyn yr adroddiad monitro ar gyfer chwarter 3.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo a derbyn yr adroddiad monitro ar gyfer chwarter 3. 

 

Trafodaeth

 

Cyflwynwyd - adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr yn gofyn i’r Cyd-bwyllgor gymeradwyo a derbyn adroddiad monitro chwarter 3 - Cynllun Busnes Rhanbarthol 2021-22 GwE.

 

Mynegwyd pryder ynglŷn â chapasiti yn wyneb y cynnydd yn nifer ymweliadau Estyn, a’r angen i ddeall sut yn union fyddai’r drefn newydd yn gweithio, ac effaith Covid ar hynny, o gofio bod dysgwyr a gafodd eu heffeithio’n uniongyrchol gan y pandemig bellach wedi cyrraedd oed arholiad.  Holwyd pryd fyddwn ni’n gwybod faint ar ei hôl hi mae’r dysgwyr, a faint o ystyriaeth fydd Estyn yn ei roi i hynny.

 

Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Gyfarwyddwr:-

 

·         Bod y 2 flynedd ddiwethaf, heb arolygiadau ffurfiol, wedi rhoi cyfle i’r system anadlu a thyfu a chydweithio ar wella gwahanol bethau, yn arbennig yng nghyd-destun trawsffurfiol y prif faterion polisi.

·         O ran sut fyddai’r drefn newydd yn gweithio, nid ffurf yr arolygiadau oedd y brif ystyriaeth, eithr y diwylliant, a sut i reoli hynny oll mewn ffordd deg a chyfiawn ar draws y gyfundrefn, wrth i wahanol bobl fynd o ysgol i ysgol.

·         Y disgwylid y byddai yna bwysau sylweddol ar y system wrth symud ymlaen, a byddai’r arolygiadau cyntaf ym mis Medi yn allweddol o safbwynt gweld a yw’n fwriad gan Estyn edrych ar y cyd-destun ai peidio.

·         Gyda phob ysgol yn cael 10 diwrnod yn unig o rybudd o arolwg, byddai’r sefyllfa’n wahanol iawn i’r 2 flynedd ddiwethaf, a dyma lle’r oedd y cydweithio’n bwysig.  Roedd yna weithdrefnau mewn lle rhwng GwE a’r awdurdodau lleol, ond gyda dwbl yr arolygiadau, byddai yna gost hefyd yn nhermau adnoddau dynol.

 

Nodwyd bod llawer o waith wedi’i wneud i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o benaethiaid ysgolion, ac i annog dirprwy benaethiaid, ac ati, i ymgeisio am swyddi penaethiaid, ond holwyd a fyddai’n rhaid ystyried ymgeiswyr o dros y ffin i lenwi rhai o’r swyddi, ac os felly, pa gefnogaeth gychwynnol fyddai ar gael i sicrhau bod y bobl hynny yn llwyr ymwybodol o’r newidiadau enfawr sy’n digwydd ym maes addysg yng Nghymru ar hyn o bryd. 

 

Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Gyfarwyddwr:-

 

·         Nad oedd ganddo lawer o bryder ynglŷn â’r niferoedd, ond hytrach y diffyg cyfle i roi cynllunio olyniaeth ar waith dros y 2 flynedd ddiwethaf, gan y bu’n rhaid canolbwyntio’n llwyr ar gynnal, yn hytrach na datblygu, addysg.

·         Y byddai’r gwaith o gefnogi’r sawl sydd ag uchelgais i fod yn bennaeth, a phenaethiaid newydd, yn un o’r prif flaenoriaethau wrth symud ymlaen.

 

8.

ADRODDIAD CYNNYDD AR Y DAITH DDIWYGIO TYMOR YR HYDREF 2021 pdf eicon PDF 276 KB

Adroddiad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad, ynghyd â’r blaenoriaethau lefel uchod a nodwyd.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad, ynghyd â’r blaenoriaethau lefel uchod a nodwyd.

 

Trafodaeth

 

Cyflwynwyd - adroddiad y Cyfarwyddwr Cynorthwyol yn cyflwyno gwybodaeth i’r Cyd-bwyllgor yng nghyd-destun ble mae ysgolion ac UacCD arni ar hyn o bryd wrth iddynt roi sylw i’r agenda adfywio a diwygio, a hynny’n seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd gan Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant GwE fel rhan o’u gwaith yn cefnogi ysgolion yn ystod tymor yr hydref 2021.  Gofynnwyd i’r Cyd-bwyllgor dderbyn a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad, ynghyd â’r blaenoriaethau lefel uchel a nodwyd.

 

Cadarnhaodd Cadeirydd y Bwrdd Rheoli ei bod hi a’r prif swyddogion yn llwyr gefnogol i’r daith ddiwygio, a’u bod yn ddiolchgar am y trosolwg cynhwysfawr gan y Rheolwr Gyfarwyddwr a’i dîm, a’r mewnbwn gan swyddogion eraill hefyd i gyfarfodydd y Bwrdd Rheoli ynghylch y manylion o gwmpas y cyfleoedd i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r cwricwlwm.

 

Nodwyd bod yna lawer o elfennau heriol ar droed ar hyn o bryd, ond holwyd a oedd yna unrhyw beth y dylai’r Cyd-bwyllgor fod yn arbennig o wyliadwrus yn ei gylch ar y pwynt yma.  Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Gyfarwyddwr:-

 

·         Bod angen i bawb fod yn ymwybodol o’r shifft sylweddol o gwricwlwm cenedlaethol, lle mae pawb yn weddol unffurf yn ei ddilyn, i gwricwlwm sy’n cael ei arwain gan bwrpas, ac sy’n gwricwlwm lleol, a pha mor bwysig ydyw bod y llywodraethwyr ac arweinyddiaeth yr ysgolion yn arwain y cynnig yma yn eu cymunedau, ac i’w disgyblion, ac yn cyfathrebu hynny’n glir.

·         O bosib’, na lawn sylweddolwyd pa mor bwysig yw rôl yr arweinyddiaeth yn yr ysgol yn diffinio’r arlwy maen nhw’n dymuno ei roi i’r disgyblion er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn llwyddo yn eu milltir sgwâr.

·         Mai her arall i’r gwleidyddion, ac i’r swyddogion, oedd bod yr arlwy am fod yn wahanol o ysgol i ysgol, ac y byddai’r gwaith o gymharu ysgolion hefyd yn digwydd ar lefel ychydig yn wahanol. 

·         Ei bod yn ofynnol i’r arweinyddiaeth fod yn glir o ran beth yw’r rhesymeg dros eu cynnig hwy yn lleol.  Roedd cymunedau yn hollol wahanol i’w gilydd yn ieithyddol ac o ran diwydiant, ayb.  Roedd yna bethau creiddiol fyddai’n gyffredin, ond pethau eraill fyddai’n gwneud y cynnig yn y gwahanol ardaloedd yn unigryw, ac yn benodol ac yn bersonol i’r disgyblion hynny, a’u taith hwy tuag at fyd gwaith, addysg neu hyfforddiant.

·         Bod gennym waith i addysgu ein hunain, a gwaith i’r swyddogion, yn eu hadroddiadau craffu, i egluro a rhoi cyd-destun i’r newid mewn diwylliant a’r gwahaniaeth fyddai yna mewn cynnig o ysgol i ysgol.

 

Mynegwyd pryder ynglŷn â gallu’r seilwaith i ymdopi â’r holl bwysau wrth symud ymlaen, e.e. o ran y cwricwlwm a’r Rhaglen Trawsnewid ADY, a holwyd a ddylem fod yn gwthio nôl ychydig, ac yn datgan nad yw’n ‘fusnes fel arfer’ yn y maes addysg.  Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Gyfarwyddwr:-

 

·         Bod yna flaenoriaethau a gytunwyd ar lefel genedlaethol, ac sy’n rhaid eu mabwysiadu ar lefel leol.  Cytunid bod yna densiwn, a rôl GwE  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

ADOLYGU STRWYTHUR Y TIM BUSNES pdf eicon PDF 250 KB

Adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE.

Penderfyniad:

 

·         Nodi cynnwys yr adroddiad a rhoi caniatâd i’r gwasanaeth symud ymlaen gyda’r newidiadau i sicrhau cynhwysedd priodol.

·         Cyflwyno adroddiad pellach i’r cyd-bwyllgor ar yr adeg priodol ar ganlyniadau’r ail-strwythuro.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

·      Nodi cynnwys yr adroddiad a rhoi caniatâd i’r gwasanaeth symud ymlaen gyda’r newidiadau i sicrhau cynhwysedd priodol.

·      Cyflwyno adroddiad pellach i’r Cyd-bwyllgor ar yr adeg briodol ar ganlyniadau’r ail-strwythuro.

 

Trafodaeth

 

Cyflwynwyd - adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr yn cyflwyno gwybodaeth i aelodau’r Cyd-bwyllgor am y bwriad i ail-strwythuro Tîm Busnes GwE.  Gofynnwyd i’r Cyd-bwyllgor nodi cynnwys yr adroddiad a rhoi caniatâd i’r gwasanaeth symud ymlaen gyda’r newidiadau i sicrhau cynhwysedd priodol.

 

10.

CYFLAWNI'R DAITH I WEITHREDU'R CWRICWLWM - CYMORTH I YSGOLION pdf eicon PDF 275 KB

Adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE.

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad, ynghyd â’r gweithgareddau arfaethedig fel yr amlinellir.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad, ynghyd â’r gweithgareddau arfaethedig fel yr amlinellir.

 

Trafodaeth

 

Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr yn cyflwyno gwybodaeth i aelodau’r Cyd-bwyllgor am y cymorth sydd ar gael i ysgolion dros y ddau dymor nesaf i’w galluogi i weithredu a chyflwyno’r cwricwlwm newydd.  Gofynnwyd i’r Cyd-bwyllgor dderbyn a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad, ynghyd â’r gweithgareddau arfaethedig a amlinellwyd.

 

Holwyd a ddisgwylid bod y safon yn eithaf cyson ar draws yr ysgolion.  Mewn ymateb, nododd yr Uwch Arweinydd – Cynradd:-

 

·         Bod rhaid derbyn bod pob ysgol mewn lle gwahanol ar y siwrne, gyda rhai angen mwy o gefnogaeth nag eraill, ond trwy’r arlwy yma, gobeithid sicrhau bod yr elfennau statudol yn eu lle erbyn mis Medi, gyda phob ysgol wedi cael y gefnogaeth a’r cyfle i fynd drwy’r broses.  

·         Bod hyn hefyd yn rhoi cyfle i bob ysgol gychwyn ar y daith gynllunio, ac edrych ar y meysydd datblygu hyfforddiant.  Roedd llawer o ysgolion wedi cychwyn ar y gwaith yma eisoes, a byddai’n rhoi pob ysgol mewn lle i fedru dechrau ym Medi.

·         Bod rhaid cofio mai dechrau’r siwrnai yn unig fydd hyn, ac y bydd yna lawer o ail-ymweld a llawer o gefnogaeth ar gael fel bod ysgolion yn gallu addasu a chael y cwricwlwm mewn lle yn briodol dros y blynyddoedd i ddod.

 

Nodwyd, er gwaethaf yr anawsterau dros y 2 flynedd ddiwethaf, y gobeithid bod y gwaith wedi’i gyflawni fel na wynebir gormod o heriau rhwng hyn a mis Medi.  Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Gyfarwyddwr:-

 

·         Er bod yna le i roi'r dimensiwn lleol, bod yna broses ffurfiol y mae’n rhaid i bawb fynd drwyddi i gyrraedd y pwynt, ac mai prif fwriad y gyfres nesaf o weithdai fyddai rhoi’r rhwydwaith diogelwch o gwmpas yr ysgolion, fel bod pawb yn glir o ran cyflawni’r pethau sydd angen bod yn barod.

·         Bod y cwestiwn o ansawdd angen sylw, fel yn y blynyddoedd a fu, ond byddai yna heriau lleol iawn, ac roedd angen i ni i gyd ystyried beth yw’r gymuned rydym yn byw oddi fewn iddi.  Roedd yna gymuned i’r ysgol, ond roedd y gymuned ysgol yna yn byw o fewn cymuned awdurdod hefyd, ac roedd yna drafodaeth gorfforaethol o gwmpas arweinyddiaeth y cwricwlwm a’r cyfeiriad strategol y dymunai’r cyngor ei ddilyn hefyd.  Gan hynny, roedd rhaid peidio meddwl bod ysgolion mewn gwagle yn gweithredu eu dymuniadau eu hunain, ac roedd yn ofynnol iddynt weithio o fewn yr is-adeiledd yma hefyd.

 

Nodwyd mai’r her fwyaf yw’r trosglwyddo o flwyddyn 6-7, a sut mae’r ysgolion yn mynd i ymdopi â hynny o ran dalgylchoedd lleol.  Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Gyfarwyddwr:-

 

·         Bod hon yn her ar fwy nag un lefel, oherwydd, er mwyn gosod y weledigaeth yn ei chymuned, ei bod yn ofynnol i’r gymuned o 3-18 oed gael y weledigaeth, neu bydd yna linynnau gwahanol yn dod i mewn.

·         I gymhlethu’r sefyllfa, roedd yna rai ysgolion lle mae eu dalgylchoedd naturiol yn croesi, a hefyd disgyblion yn symud o ysgol i ysgol o  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

LLYTHYR I'R GWEINIDOG ADDYSG YNGHYLCH CYFRES GYMWYSTERAU 2021-22 A'I YMATEB pdf eicon PDF 251 KB

Adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi’n ffurfiol gynnwys y llythyr.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Nodi’n ffurfiol gynnwys y llythyr.

 

Trafodaeth

 

Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr yn gofyn i’r Cyd-bwyllgor nodi’n ffurfiol gynnwys llythyr a anfonwyd at y Gweinidog Addysg ar 12 Ionawr, 2022, ar ran y Cyd-bwyllgor, ynghylch cyfres gymwysterau eleni.  Gofynnwyd hefyd i’r Cyd-bwyllgor ystyried oes angen unrhyw ohebiaeth bellach â’r Gweinidog Addysg ar hyn o bryd yn dilyn ei ymateb i’r llythyr.

 

Nodwyd, er gwaethaf penderfyniad y Llywodraeth i asesu drwy arholiadau eleni, bod llawer, os nad y mwyafrif o ysgolion, yn teimlo nad oedd hynny’n briodol yn yr amgylchiadau.

 

Nododd y Cadeirydd fod pawb yn rhannu’r pryderon hyn, gan nodi y byddai’n ddiddorol gweld pa sicrwydd fydd y Gweinidog Addysg yn gallu rhoi i’r aelodau yn ei gyfarfod gyda hwy yn dilyn y cyfarfod hwn.

 

Mynegwyd gwerthfawrogiad o’r llythyr a anfonwyd at y Gweinidog Addysg ar ran yr aelodau, a nodwyd ei fod yn adlewyrchu’r cydweithio aeddfed o fewn GwE.

 

 

12.

CYTUNDEB RHANNU GWYBODAETH AM DDISGYBLION Y RHANBARTH pdf eicon PDF 246 KB

Adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Trafodaeth

 

Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr yn cyflwyno gwybodaeth i aelodau’r Cyd-bwyllgor ynglŷn â’r cytundeb rhannu gwybodaeth am ddisgyblion sy’n bodoli rhwng yr awdurdodau lleol a GwE.

 

13.

CALENDR CYFARFODYDD 2022-23 pdf eicon PDF 264 KB

Adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE.

Penderfyniad:

 

·         Cymeradwyo’r calendr cyfarfodydd fel y’u cynigir yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

·         Awdurdodi’r Rheolwr Gyfarwyddwr i symud y cyfarfod a raglenwyd eisoes ar gyfer Mai eleni i ddechrau Mehefin, os oes angen, mewn ymgynghoriad â’r Bwrdd Rheoli, yn ddibynnol ar y sefyllfa o safbwynt ail-ddyrannu’r portffolios addysg yn yr awdurdodau yn dilyn yr etholiad.

·         Awdurdodi Cadeirydd 2022/23 i wneud newidiadau i’r calendr yn Atodiad 1, os oes angen.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

·      Cymeradwyo’r calendr cyfarfodydd fel y’u cynigir yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

·      Awdurdodi’r Rheolwr Gyfarwyddwr i symud y cyfarfod a raglenwyd eisoes ar gyfer Mai eleni i ddechrau Mehefin, os oes angen, mewn ymgynghoriad â’r Bwrdd Rheoli, yn ddibynnol ar y sefyllfa o safbwynt ail-ddyrannu’r portffolios addysg yn yr awdurdodau yn dilyn yr etholiad.

·      Awdurdodi Cadeirydd 2022/23 i wneud newidiadau i’r calendr yn Atodiad 1, os oes angen.

 

Trafodaeth

 

Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr yn gwneud cais i’r Cyd-bwyllgor gytuno ar galendr cyfarfodydd am y flwyddyn i ddod, ac awdurdodi’r Cadeirydd i wneud newidiadau i’r calendr os oes angen.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod cyfarfod o’r Cyd-bwyllgor eisoes wedi’i raglennu ar gyfer mis Mai eleni, ond o bosib’ y byddai angen ystyried ei symud i ddechrau Mehefin, yn ddibynnol ar y sefyllfa o safbwynt ail-ddyrannu’r portffolios addysg yn yr awdurdodau yn dilyn yr etholiad.