Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Virtual Meeting - Zoom

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679256

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau o absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan yr Is-Gadeirydd Gill German (Cyngor Sir Ddinbych), Alwyn Jones (Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE), Graham Boase (Cyngor Sir Ddinbych),  Garem Jackson (Cyngor Gwynedd), Karen Evans (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), Claire Homard (Cyngor Sir y Fflint) a Claire Armitstead (Cynrychiolydd Ysgolion Uwchradd).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

 

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 273 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13.07.2022 fel rhai cywir.

Cofnod:

Cadarnhawyd fod y cofnod a gyflwynwyd o’r cyfarfod ar y 13eg o Orffennaf, 2022 yn gywir.

 

5.

CYLLIDEB GwE 2022/2023 - MONITRO CHWARTER 1 pdf eicon PDF 194 KB

Diweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar yr adolygiad ariannol diweddaraf o gyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad ar gyfer Chwarter Cyntaf 2022/2023.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gyfrifydd Grŵp yr Awdurdod Lletyol a nodwyd y prif bwyntiau isod:

-      Adroddwyd bod adolygiad cychwynnol o’r gyllideb yn rhagweld tanwariant net o £116,306.00 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol bresennol (2022/23).

-      Esboniwyd bod salwch a throsiant staff, secondiadau a chyfnodau mamolaeth yn ogystal â thrafferthion recriwtio wedi cyfrannu tuag at y tanwariant hwn.

-      Eglurwyd bod nifer o ymweliadau a chyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithiol erbyn hyn ac felly mae GwE yn gwario llai o arian ar gludiant nag y disgwyliwyd.

-      Cadarnhawyd bod cronfa cyllideb GwE yn £437,503.00 ar gychwyn y flwyddyn ariannol bresennol (2022/23) ac amcangyfrifwyd y bydd cronfa cyllideb GwE yn £553,808.00 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol bresennol (2022/23).

 

PENDERFYNWYD

 

-      Derbyn a chymeradwyo’r Adroddiad ar gyfer monitro Cyllideb GwE -Chwarter 1 2022-2023.

 

 

6.

CYNLLUN BUSNES GwE 2022/2023 - ADRODDIAD MONITRO CHWARTER 1 pdf eicon PDF 158 KB

Cyflwyno Adroddiad monitro chwarter 1 - Cynllun Busnes Rhanbarthol 2022-2023 GwE i'r Cyd-Bwyllgor

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo a derbyn yr adroddiad monitro chwarter 1, Cynllun Busnes Rhanbarthol GwE 2022-2023.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE a nodwyd y prif bwyntiau isod:

-      Eglurwyd bod GwE wedi datblygu 31 o gynlluniau busnes sy’n efelychu’r blaenoriaethau rhanbarthol a chenedlaethol.

-      Pwysleisiwyd bod Chwarter 1 wedi cael eu dreulio yn datblygu’r cynlluniau busnes er mwyn iddynt fod yn weithredol hyd ddiwedd y flwyddyn ariannol bresennol (2022/23).

-      Adroddir ar gynnydd yn chwarterol i’r Awdurdodau Lleol ar y blaenoriaethau rhanbarthol gan hefyd rhoi trosolwg awdurdod lleol penodol.

Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â meysydd gwelliant rhanbarthol GwE, nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE:

-      Bod ysgolion wedi bod yn canolbwyntio yn fawr ar barhau i ddarparu addysg o’r safon gorau posibl drwy gydol pandemig Covid-19. Cadarnhaodd eu bod yn parhau i wneud hynny drwy sicrhau eu bod yn diogelu iechyd disgyblion a staff. Oherwydd bod y bygythiad o’r salwch yn parhau i fod yn bresennol, mae ysgolion angen amser i fagu hyder bod effaith Covid-19 am fod yn is yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD

 

-      Cymeradwyo’r adroddiad ar gyfer monitro chwarter 1 - Cynllun Busnes GwE 2022-2023.

 

 

7.

Y DAITH DDIWYGIO: ADRODDIAD CYNNYDD pdf eicon PDF 164 KB

Cyflwyno adroddiad cynnydd pellach i aelodau'r Cyd-bwyllgor ar baratoadau ysgolion i waith Cwricwlwm i Gymru yn sgil yr agenda adnewyddu a diwygio.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Uwch Arweinydd – Cwricwlwm i Gymru a nodwyd y prif bwyntiau isod:

 

-      Soniwyd bod cynnwys yr adroddiad yn edrych yn ôl dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn datgan sut roedd ysgolion cynradd ac uwchradd yn paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd a ddaeth i rym ym mis Medi 2022. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi sylw penodol i dymor yr haf cyn i’r cwricwlwm ddod i rym.

 

-      Eglurwyd bod Llywodraeth Cymru wedi rhannu 6 cam er mwyn paratoi at y newid hwn i’r cwricwlwm a nodwyd bod ysgolion yn ymdopi yn dda gyda’r camau hynny.

 

-      Ychwanegwyd bod adborth gan arweinwyr ysgolion yn cadarnhau bod angen cymryd camau ychwanegol er mwyn cyrraedd y targedau hyn yn enwedig wrth gysidro rôl cynnydd, asesu ac addysgeg yn y cyd-destun lleol.

 

-      Mynegwyd bod ysgolion cynradd wedi ymgysylltu’n dda wrth baratoi at y cwricwlwm newydd a'u bod wedi cael eu cefnogi gan Gwricwlwm i Gymru drwy gyfresi o weithdai, webinarau a modelau.

 

-      Esboniwyd bod gwaith yn cael ei wneud gyda ysgolion uwchradd eleni i ffocysu ar ddisgyblion oedd yn symud i flwyddyn 7, ac flwyddyn nesaf bydd y gwaith yn ffocysu ar flwyddyn 7 ac 8.

 

-      Cadarnhawyd fod ysgolion uwchradd yn edrych ar hunaniaeth leol er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei fewnosod drwy ddulliau addas.

 

-      Pwysleisiwyd fod addysgeg a hunanasesiadau yn newid o ysgol i ysgol a bod strategaethau yn cael eu datblygu’n rheolaidd.. Mae cymorth yn cael ei ddarparu i annog llesiant i bawb ac anogir i ysgolion gydweithio er mwyn creu rhwydwaith o staff sy’n gallu cefnogi ei gilydd drwy’r daith diwygio hwn.

 

Ymhelaethodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE ar y pwyntiau hyn gan nodi’r prif bwyntiau isod:

 

-      Mynegwyd dyhead i gyflwyno diweddariad o’r cwricwlwm i aelodau newydd yr awdurdodau lleol yn dilyn etholiad fis Mai 2022, neu i holl aelodaeth y cynghorau lleol er mwyn eu diweddaru ar ddatblygiadau’r cwricwlwm.

 

-      Mewn ymateb i’r sylw yma, nododd y Cadeirydd efallai byddai cynnal diweddariad ar lein yn opsiwn er mwyn diweddaru llawer o aelodau ar yr un adeg.

 

-      Cyfeiriwyd at ofynion mesur cynnydd ac atebolrwydd ysgolion gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE. Nodwyd bod strwythur, siâp a chyfeiriad y cwricwlwm yn anodd ei bennu, ac felly mae ysgolion angen amser i fagu hyder ar y dull gorau i’w ymgorffori gan fanteisio ar yr agweddau sydd fwyaf perthnasol iddynt. Ychwanegwyd y byddai pontio a chydweithio naturiol yn digwydd drwy anghenion lleol, daearyddol a phrofiadau dysgu wrth i amser fynd yn ei flaen.

 

Mewn ymateb i ymholiad am yr amserlen o  ran pryd bydd y dulliau asesu’n ddigon aeddfed i allu dehongli os ydi’r dulliau addysgu hyn yn fyw llwyddiannus na’r dulliau blaenorol, nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE:

 

-      Mi fydd yn beth amser i allu cymharu hyn.  Aethpwyd ymlaen i egluro bod hyn yn bennaf oherwydd bod y systemau newydd yn edrych ar lesiant, profiadau dysgu a’r profiadau yn erbyn y pedwar diben. Eglurwyd bod angen cael trafodaethau manwl yn y dyfodol er  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

RHAGLEN WAITH GwE: TYMOR YR HYDREF 2022 pdf eicon PDF 202 KB

I Cyflwyno gwybodaeth i aelodau'r Cyd-bwyllgor ar brif ffocws ein rhaglen waith ar gyfer tymor yr hydref a'r tu hwnt.

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Arweinydd Rhanbarthol Uwchradd GwE a nodwyd y prif bwyntiau isod:

 

-      Eglurwyd bod y cydbwyllgor eisoes yn ymwybodol o ddisgwyliadau a gofynion y canllawiau gwella ysgolion cenedlaethol newydd. Atgoffwyd bod GwE, y Llywodraethwyr ac Aelodau Lleol yn gyfrifol am ddal y gyfundrefn yn atebol ar y lefel lleol a bod Estyn yn rhannu’r un cyfrifoldebau yn rhanbarthol a chenedlaethol.

 

-      Nodwyd bod yr adroddiad hwn yn amlygu’r rhaglen waith ar gyfer y tymor hwn yn ogystal â’r tymhorau sy’n dilyn er mwyn cefnogi pob ysgol i ymateb i ofynion y fframwaith newydd.

 

-      Cadarnhawyd bod yr adroddiad wedi cael ei gymeradwyo gan Fwrdd Rheoli GwE  ac ymgynghorwyd â Phenaethiaid rhanbarthol mewn Fforymau Strategol ac yng Nghynhadledd GwE i uwch arweinwyr yn Venue Cymru ar 22 a 23 Medi 2022. 

 

-      Rhoddwyd sylw manwl i’r canllawiau newydd ar gyfer gwella ysgolion gan nodi’r pwyntiau canlynol:

 

-      Disgwylir i ysgolion feddu ar brosesau hunan-arfarnu a hunanwerthuso cadarn yn ogystal â’r mecanwaith ar gyfer gwella. Disgwylir hefyd bod gan ysgolion brosesau ar gyfer cynllunio a chynnal gwelliannau.

 

-      Eglurwyd nad yw ysgolion ar eu pen eu hunain gyda hyn gan y bydd yr awdurdodau lleol a’r consortia rhanbarthol yn sicrhau fod ganddynt gynhaliaeth er mwyn cynnal gwelliannau.

 

-      Esboniwyd mai un o brif ddyletswyddau ALl, GwE ac Estyn ydi gwerthuso’r gweithdrefnau hyn a’u gwella yn effeithiol. Golyga hyn fod yn rhaid cael system atebolrwydd clir er mwyn i bawb wybod beth sydd angen ei weithredu a pha ymyrraeth ychwanegol sydd ei angen.

 

-      Pwysleisiwyd bod gweithdrefnau arfarnu a gwelliannau wedi newid dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn sgil y pandemig ac o’r herwydd nid yw’r rhaglen waith mor syml ag y mae’n edrych ar yr olwg gyntaf. Deilliai hyn o’r ffaith fod ysgolion wedi wynebu heriau dwys iawn i sicrhau fod plant y rhanbarth yn parhau i dderbyn addysg o safon, yn saff. Golyga hyn fod addysgu o safon uchel, llesiant ac iechyd a diogelwch wedi bod yn flaenoriaeth dros y ddwy flynedd diwethaf yn hytrach na diweddaru fframweithiau arfarnu.

 

-      Rhannwyd diolchiadau penaethiaid rhai ysgolion y rhanbarth am safiad y Cyd-bwyllgor, sydd wedi helpu i sicrhau mai asesiadau yr athrawon oedd yn asesu cyflawniad y disgyblion o fewn y cyfnod hwn, gan ei bod wedi gweithredu fel system effeithiol iawn drwy gyfnod ansicr.

 

-      Nodwyd bod Estyn bellach wedi cychwyn ail-ymweld ag ysgolion i gynnal arolygiadau, a nodwyd y prif bwyntiau isod:

 

-      Nad ydi fframweithiau arolygu Estyn wedi cael eu diwygio llawer ers cyn argyfwng Covid-19.

-      Eglurwyd bod ysgolion dal yn ymdopi gyda phroblemau ychwanegol sy’n deillio o’r pandemig megis presenoldeb, lles, trosiant staff a cholled sgiliau sylfaenol.

-      Er mwyn cefnogi ysgolion ar eu taith wella bydd pob ysgol yn derbyn cynllun cymorth unigryw fydd yn amlygu y gefnogaeth fwyaf priodol ar eu cyfer.

 

Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Cydbwyllgor i rannu sylwadau a holi cwestiynau:

 

-      Cytunwyd bod angen cydnabod yr heriau newydd sy’n deillio o’r pandemig. Cydnabuwyd bod angen i arolygiadau edrych  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

CYNHADLEDD RANBARTHOL TYMOR YR HYDREF GwE pdf eicon PDF 175 KB

I Cyflwyno gwybodaeth i aelodau'r Cyd-bwyllgor am gynhadledd ranbarthol GwE.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r adroddiad ar gynhadledd ranbarthol GwE.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad er gwybodaeth i’r Aelodau gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE a nodwyd y prif bwyntiau isod:

-      Cafwyd ymateb rhagorol i’r gynhadledd, gyda thua 500 o bobl yn mynychu dros y  ddau ddiwrnod. Dyma’r gynhadledd gyntaf i GwE ei gynnal yn dilyn y cyfnodau clo.

 

-      Rhoddwyd crynodeb o gynnwys y gynhadledd i gynnwys:

 

-      Sgwrs gan Dafydd Iwan i annog miliwn o siaradwyr Cymraeg.

-      Gweithdai ymarferol.

-      Sesiynau holi ac ateb.

-      Cyflwyniad gan yr Athro Graham Donaldson.

-      Ychwanegwyd bod pwyslais mawr wedi ei roi ar lesiant unigolion, arweinwyr a staff yn ogystal â’r proses addysgu ôl-Covid drwy gydol y gynhadledd.

 

Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Cydbwyllgor i rannu sylwadau a holi cwestiynau:

 

-      Mynegwyd diolchiadau i’r tîm busnes oedd wedi gwneud yr holl drefniadau i gynnal y gynhadledd ac eiliwyd bod yr adborth sy’n cyrraedd yr Aelodau yn gadarnhaol iawn.

 

-      Gofynnwyd os oedd modd rhannu recordiad o araith yr Athro Graham Donaldson i’w rannu gyda’r Aelodau a phobl eraill nad oedd yn gallu bod yn bresennol, oherwydd yr adborth cadarnhaol.

 

Mewn ymateb i’r ymholiad am araith yr Athro Donaldson, nododd Reolwr Gyfarwyddwr GwE y gall GwE gysylltu ag o i weld os yw hyn yn bosib. 

 

 

PENDERFYNWYD

 

-      Derbyn a nodi’r adroddiad ar gynhadledd ranbarthol GwE.