Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Virtual Meeting - Zoom

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679256

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau o absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Dr Lowri Brown (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy), Geraint Davies (Cyngor Sir Ddinbych), Karen Evans (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) ac Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 323 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 05.10.2022 fel rhai cywir.

Cofnod:

Cadarnhawyd fod y cofnod a gyflwynwyd o’r cyfarfod ar y 5ed o Hydref, 2022 yn gywir.

 

5.

CYMERADWYO ADRODDIAD YR ARCHWILIWR ANNIBYNNOL AR GYFRIFON GwE pdf eicon PDF 329 KB

Cyflwyno –

·       Datganiad o’r Cyfrifon ôl-Archwiliad;

·       Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru;

·       Llythyr Cynrychiolaeth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo yr  adroddiad ar ran Archwiliwr Cyffredinol Cymru, cymeradwyo cyfrifon 2021/22, ac awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi’r llythyr cynrychiolaeth ar ran y Cydbwyllgor.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Cyllid a gadarnhaodd fod Aelodau y Cydbwyllgor eisoes wedi derbyn y wybodaeth (13 Gorffennaf) yn ei ffurf drafft, ond bod Swyddog o Archwilio Cymru wedi eu cymeradwyo erbyn hyn.  Cyfeiriodd at dri chywiriad a wnaed i’r cyfrifon yn ystod yr archwiliad ac sydd wedi eu hamlygu yn  Atodiad 3 fel a ganlyn :

 

Diweddaru nifer staff mewn rhai bandiau cyflog

Symiau arian grantiau - ym mha linellau maent yn ymddangos o fewn y cyfrifon (gweler yr eglurhad)

Cwpwl o wallau teipio, sydd wedi eu cywiro erbyn hyn.

Ehangodd Swyddog Archwilio Cymru ar yr uchod, gan gadarnhau bod yr adroddiad yn dangos darlun clir a theg, gan dynnu sylw at faterion :

 

Tudalen 4 – 441

Gweithio yn annibynnol

Llofnodion electroneg

 

Cadarnhaodd nad oeddynt yn faterion arwyddocaol, ac nad oes unrhyw gamddatganiadau.

 

Diolchwyd am yr adroddiadau manwl ac am y cydweithio. 

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a chymeradwyo yr adroddiad ar ran Archwiliwr Cyffredinol Cymru, cymeradwyo cyfrifon 2021/22, ac awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi’r llythyr cynrychiolaeth ar ran y Cyd-Bwyllgor.

 

6.

CYLLIDEB GwE 2022-2023 - ADOLYGIAD CHWARTER 2 pdf eicon PDF 407 KB

Diweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar yr adolygiad ariannol diweddaraf o gyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr Adolygiad Chwarterol oedd yn rhagweld tanwariant erbyn diwedd 2022/23 fel a ganlyn :

 

Gweithwyr - Chwarter 2: tanwariant (£46,552) o ran costau staffio o’i gymharu â : thanwariant (£84,046)  oedd yn cael ei ragweld ddiwedd Chwarter 1

Adeilad: Chwarter 2: gorwariant £25,367 o ran diffyg incwm, ond disgwylir i'r ffrwd incwm yma wella.  Rhagwelwyd gorwariant o £25,367 ar ddiwedd Chwarter 1

Cludiant: Chwarter 2: tanwariant (£59,759), hyn o ganlyniad i lai o deithio a ffyrdd newydd o weithio.  Diwedd Chwarter 1 rhagwelwyd tanwariant o (£46,771)

 

Nodwyd bod cronfa tanwariant o £91,900 net.

 

Adroddodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE bod Chwarter 2 wastad yn anodd ac mai yn Chwarter 3 (Medi i Ragfyr) oedd y prif weithgareddau ac y byddai yn disgwyl gweld newid.

 

Cwestiynwyd, gan nad yw reserfau yn cael eu caniatáu, tybed a oes isafswm trothwy reserfau?  Cadarnhawyd nad oes cyfyngiad ar sut i ddefnyddio y gronfa tanwariant, megis ar gyfer pontio neu brynu amser.  Nodwyd er nad oes ffigwr penodol, ond tybir o leiaf £100,000.

 

Atgoffodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, cyn y cyfnod clo, fod y gyllideb wrthgefn wedi bod yn llai na £200,000.  Nodwyd y bydd yn rhaid disgwyl am Setliad Rhagfyr a gweld y goblygiadau wrth fynd ymlaen.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at faterion swyddi gwag a recriwtio gan holi a oes sialensiau o ran y sefyllfa secondiadau, a chadarnhawyd ei bod wedi bod yn sialens yn yr uwchradd ers rhai blynyddoedd ond ei bod yn bryder yn y cynradd erbyn hyn hefyd.

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo a derbyn yr adroddiad ar Gyllideb GwE 2022-2023 – Adolygiad Chwarter 2

 

7.

CYNLLUN BUSNES RHANBARTHOL 2022-2023 GwE - ADRODDIAD MONITRO CHWARTER 2 pdf eicon PDF 268 KB

Cyflwyno Adroddiad monitro chwarter 2 – Cynllun Busnes Rhanbarthol 2022-2023 GwE i’r Cyd-Bwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE, oedd yn rhoi darlun o weithgarwch Gorffennaf  i Fedi.  Cadarnhawyd fod trafodaethau wedi cymryd lle ar y cwricwlwm, bod y gwaith cefnogi yn parhau a bod parodrwydd gan yr ysgolion i rannu lle maent wedi ei gyrraedd.

 

O ran Arweinyddiaeth, nodwyd y cynifer sydd yn mynychu’r cyrsiau gyda nifer ohonynt o bosib yn ddarpar arweinwyr ar gyfer y dyfodol.

 

Nodwyd ei bod yn braf gweld prosiect Llais Ni yn dwyn ffrwyth.

 

Holiwyd am y ffigyrau hyfforddi a chefnogi clystyrau o amgylch y trawsnewid.  Nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE eu bod ar bwynt o newid.  Mae diffyg sylweddol o ran athrawon llanw, ac er ei bod yn dda cael y cyfarfodydd wyneb yn wyneb, mae cyflwyniadau yn cael eu recordio erbyn hyn oherwydd y pwysau ar ysgolion bychain.  Mae gwahanol ysgolion ar lefelau gwahanol o aeddfedrwydd.

 

Cyfeiriwyd at dracio cynnydd ac asesu disgyblion, yn benodol o ran 360, a sut mae hynny yn cyd-fynd â’r fframwaith newydd.  Cadarnhaodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE bod gwaith allweddol wedi ei wneud o ran sgiliau disgyblion a bod y gwaith tracio yn parhau.

 

Cyfeiriwyd at y Gweithdai Arfarnu a Dal Effaith, a nodwyd yr angen i dynnu papur at ei gilydd, gan weithio gydag ysgolion ar ffurf yr adroddiad, gyda yr un egwyddorion yn rhedeg trwyddynt.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai yn dda cael mewnbwn.  Cadarnhawyd y byddai Rheolwr Gyfarwyddwr GwE yn dod â phapur gerbron pan fydd mwy o wybodaeth ar gael. 

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a chymeradwyo yr Adroddiad Monitro Chwarter 2 - Cynllun Busnes Rhanbarthol 2022-2023 GwE.

 

8.

BWRIAD I ADOLYGU TREFNIADAU GWEITHREDOL A'R STRWYTHUR STAFFIO PRESENNOL pdf eicon PDF 348 KB

Hysbysu’r Cyd-bwyllgor am y bwriad i adolygu’r trefniadau gweithredu a’r strwythur staffio presennol.

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE gyda chais am ganiatâd i wneud y darn hwn o waith gyda chefnogaeth y Cyd-Bwyllgor.  Nododd y bydd y pwyslais ar gryfhau y cydweithio agos sydd eisoes rhwng GwE a’r Awdurdodau Lleol. 

 

Nododd y Cadeirydd bod hwn yn amserol iawn ac y byddai y Cyd-Bwyllgor yn falch o gael y cyfle i roi sylwadau maes o law.  Cadarnhaodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE y bydd y Cyd-Bwyllgor yn cael bwydo i’r papur a’i drafod ymhellach.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a chymeradwyo y bwriad i adolygu trefniadau gweithredol a’r strwythur staffio presennol.

 

9.

LLYTHYR Y CYDBWYLLGOR I'R GWEINIDOG Y GYMRAEG AC ADDYSG pdf eicon PDF 261 KB

Darparu cofnod ffurfiol i’r Cyd-Bwyllgor, yn dilyn trafodaethau a phenderfyniad yn y cyfarfod blaenorol ar 05/10/2022, yng nghyswllt y llythyr a anfonwyd at y Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ar 11/10/2022.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi cynnwys Llythyr y Cydbwyllgor i’r Gweinidor y Gymraeg ac Addysg

Cofnod:

Yn dilyn y cyfarfod diwethaf a’r pwysau o ran atebolrwydd, cadarnhawyd bod llythyr wedi ei ddanfon at y Gweinidog, â chopi wedi ei anfon i ysgolion y rhanbarth er gwybodaeth.  Nodwyd bod y llythyr wedi cael sylw yn y Fforwm Prif Athrawon a bod y gefnogaeth gan y Cyd-Bwyllgor wedi ei werthfawrogi.  Cadarnhawyd y byddai yn cael ei roi yn ôl ar yr agenda ar gyfer cyfarfod arall yn y dyfodol, gan fod ymateb hwyr wedi dod o swyddfa’r Gweinidog.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi cynnwys Llythyr y Cydbwyllgor i’r Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 10.30 a daeth i ben am 11.20 y.b.

 

 

 

 

_________________________________

 

CADEIRYDD