Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679256

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau o absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint).

 

Cydymdeimlwyd â theulu’r diweddar Jonathan Morgan, Pennaeth ysgol Y Gogarth, Llandudno ac aelod gweithgar o Gyd-bwyllgor GwE, yn dilyn ei farwolaeth ddiweddar. Diolchwyd iddo am flynyddoedd o ymroddiad drwy gydol ei yrfa fel athro ac fel aelod o’r Cyd-bwyllgor hwn.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 208 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2022 fel rhai cywir.

Cofnod:

Cadarnhawyd fod y cofnod a gyflwynwyd o’r cyfarfod ar y 23ain o Dachwedd, 2022 yn gywir.

 

5.

CYLLIDEB 2022-2023: MONITRO CHWARTER 3 pdf eicon PDF 419 KB

Diweddaru aelodau’r Cyd-bwyllgor ar yr adolygiad ariannol diweddaraf o gyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad ar gyfer y Trydydd Chwarter o gyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2022/23.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr Adroddiad gan Bennaeth Adran Cyllid. Tynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol:

-      Rhagwelwyd bydd sefyllfa lled-niwtral i gyllideb GwE ar ddiwedd y flwyddyn ariannol bresennol.

-      Cadarnhawyd bod tanwariant o £27,400.00 o’r gyllideb lawn o £17,993,147.00 a bod GwE yn gwario yn unol â’r gyllideb.

-      Nodwyd bod hyn yn sylweddol llai nag adolygiad Chwarter 2 ble roedd tanwariant o tua £90,000.00. Mae GwE wedi llwyddo i ostwng lefelau tanwariant drwy recriwtio staff i swyddi gwag.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad ar gyfer y Trydydd Chwarter o gyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2022/23.

 

6.

CYLLIDEB GwE 2023-2024 (CYLLIDEB SYLFAENOL) pdf eicon PDF 414 KB

Cyflwyno i’r Cyd-bwyllgor:

·       Cyllideb Sylfaenol GwE 2023/24 (Atodiad 1)

·       Cyfraniadau Ariannol yr Awdurdodau (Atodiad 2)

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu’r gyllideb sylfaenol ar gyfer y flwyddyn gyllidebol 2023/24 fel y’i chyflwynir yn Atodiad 1 o’r adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr Adroddiad gan Bennaeth Adran Cyllid. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

-      Nodwyd bod y gyllideb hon yn weithredol o 1af Ebrill 2023 hyd nes 31 Mawrth 2024.

-      Awgrymwyd sefydlu cyllideb sylfaenol o’r un ffigwr a’r gyllideb eleni. Mae hyn yn gyfanswm o £17,993,147.00.

-      Cadarnhawyd bod y gyllideb hon yn adlewyrchu penderfyniad y Cynghorau i beidio ychwanegu chwyddiant yn llawn. Golyga hyn bod toriad o 5.25% i’r gyllideb o’i gymharu â 2022/23 yn dilyn cynnydd mewn costau. Manylwyd bod hyn yn gyfwerth â £206,000.00.

-      Eglurwyd bod y Gronfa Bensiwn yn cael ei hadolygu bob tair blynedd a bod yr adolygiad diweddaraf wedi cymryd lle ym mis Rhagfyr 2022. Oherwydd bod y gronfa mewn sefyllfa iach ar hyn o bryd, bydd gostyngiad o £103,964.00 yng nghyfraniad y cyflogwr. Cadarnhawyd bod hyn yn hanner y bwlch a grëwyd gan chwyddiant, gan leihau’r toriad a wynebir i 2.60%. Bydd angen sicrhau bod arbedion yn cael eu gwneud er mwyn cyfarch y bwlch o £102,112.00 sy’n weddill yn y gyllideb.

-      Cyfeiriwyd at y cyfraniadau gan y Cynghorau ar gyfer cyllideb GwE. Datganwyd bod y cyfanswm a ddarparwyd yn £3,924,269.00 rhwng y chwe Cyngor. Cadarnhawyd bod hwn yr un ffigwr a’r flwyddyn ariannol bresennol. Er hyn, mae dyraniad cyfraniad unigol y gwahanol gynghorau wedi diwygio i gyd fynd â newidiadau mewn lefelau poblogaeth.

 

PENDERFYNWYD

 

Mabwysiadu’r gyllideb sylfaenol ar gyfer y flwyddyn gyllidebol 2023/24 fel y’i cyflwynir yn Atodiad 1 o’r adroddiad.

 

7.

CYNLLUN BUSNES 2022-2023: MONITRO CHWARTER 3 pdf eicon PDF 268 KB

Cyflwyno Adroddiad monitro chwarter 3 – Cynllun Busnes Rhanbarthol 2022-2023 GwE i’r Cyd-Bwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

·       Cymeradwyo a derbyn yr adroddiad monitro ar gyfer chwarter 3.

·        Trafodaeth bellach ar 'Strategaeth i gefnogi ymwneud rhieni a’r gymuned’  o fewn Amcan 4 y cynllun: ‘Ysgolion Cryf a Chynhwysol’, mewn cyfarfod o’r Cyd-Bwyllgor yn y dyfodol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr Adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

-      Eglurwyd bod y cyfnod perthnasol hwn (Medi – Rhagfyr 2022) wedi bod yn gyfnod prysur iawn gyda llawer o ysgolion yn gweld ychydig o normalrwydd yn dychwelyd yn dilyn cyfnod Cofid-19.

-      Nodwyd bod gweithdrefnau newydd wedi cael eu rhoi mewn grym i sicrhau bod ysgolion yn adolygu perfformiad ac yn hunanasesu atebolrwydd.

-      Cyfeiriwyd at gynhadledd bwysig a gynhaliwyd ar draws y rhanbarth a oedd yn ffocysu ar ail-gyflwyno systemau i bontio’r addysg gynradd ac uwchradd.

-      Cadarnhawyd mai un o brif risgiau yn ddiweddar yw diffyg arweinyddiaeth yn y gyfundrefn. Mae penaethiaid wedi bod yn brysur iawn yn blaenoriaethu diogelwch staff a disgyblion ers rhai blynyddoedd. Nodwyd bod chwarter penaethiaid ysgolion uwchradd Gogledd Cymru wedi ymddeol o fewn y flwyddyn ddiwethaf, gan greu problemau olynol. Nodwyd hefyd bod athrawon llanw yn brin ar hyn o bryd ac mae ysgolion yn cael trafferth rhyddhau athrawon i fynychu hyfforddiant allweddol.

-      Pwysleisiwyd bod perthynas GwE gydag ysgolion yn dda iawn er y problemau staffio hyn.

 

Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Cyd-bwyllgor i rannu sylwadau a holi cwestiynau:

-      Manylwyd ar ‘Strategaeth i gefnogi ymwneud rhieni a’r gymuned’ o fewn Amcan 4 y cynllun: Ysgolion Cryf a Chynhwysolgan ofyn pa waith sy’n cael ei wneud i sicrhau bod datblygiadau o fewn y strategaeth.

o   Mewn ymateb i’r ymholiad cadarnhaodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE bod cydweithio agos yn digwydd rhwng GwE, rhieni a dysgwyr er mwyn sicrhau bod deunyddiau ar gael iddynt. Ymhelaethwyd bod gwaith yn cael ei wneud gyda Llywodraeth Cymru er mwyn ceisio gweld sut byddai’r cydweithio hyn yn digwydd yn gymdeithasol gan nad yw hynny’n glir ar hyn o bryd. Pwysleisir bod gwaith da yn cael ei wneud o fewn ysgolion ar lefel unigol i ddatblygu’r strategaeth hwn, ond bod angen cynllun clir ar gyfer y dyfodol ar sut mae ei weithredu ar lefel cymunedol a rhanbarthol.

-      Cynigwyd bod trafodaeth bellach yn cael ei gynnal ar y strategaeth hon rhwng yr Awdurdodau Lleol er mwyn rhannu arferion da a syniadau. Byddai hyn yn sicrhau bod y cynllun a’r strategaeth yn gryf ac effeithiol iawn.

o   Mewn ymateb i’r cynnig hwn, cadarnhaodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE y byddai modd trafod y mater hwn ymhellach erbyn cyfnod yr haf gan y bydd polisïau cliriach i’w gael i’w hystyried bryd hynny.

-      Cytunwyd bod anghydraddoldeb a phresenoldeb yn faterion allweddol yn dilyn cyfnod Cofid. Credir mai’r rhieni sydd angen mwy o gyswllt gyda’r ysgolion ydi’r rhai ble mae presenoldeb eu plant yn isel, ac yn ffactor mawr gyda diogelwch plant.

-      Ymhelaethwyd mai un ffactor pam bod diffygion cynllunio wedi bod ar y strategaeth hon yw bod cyllideb yn dod gan Lywodraeth Cymru am gyfnodau penodol. Credir bod hyn yn achosi trafferthion recriwtio oherwydd nad oes modd cynllunio yn hirdymor  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

DATGANIAD YSGRIFENEDIG: GWELLA YSGOLION A'R DIRWEDD O RAN GWYBODAETH - GWEINIDOG Y GYMRAEG AC ADDYSG pdf eicon PDF 268 KB

Cyflwyno gwybodaeth i aelodau’r Cyd-bwyllgor ar gynnwys Datganiad Ysgrifenedig Y Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.

Penderfyniad:

Cyflwynwyd yr eitem yma er gwybodaeth ar gyfer yr aelodau. Penderfynwyd gwahodd Gweinidog Y Gymraeg ac Addysg i gyfarfod arbennig o’r Cyd-bwyllgor i gael trafodaeth am addysg ar draws rhanbarth y gogledd. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr Adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

-      Cadarnhawyd y cyhoeddodd Y Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ddatganiad ysgrifenedig:   ‘Gwella ysgolion a’r dirwedd o ran gwybodaeth’ ar 19 Ionawr 2023 a oedd yn amlinellu’r camau nesaf o ran datblygu ecosystem / tirwedd data a gwybodaeth newydd. Cyflwynwyd y diweddariad hwn er gwybodaeth i’r Aelodau.

-      Eglurwyd bod y datganiad ysgrifenedig yn manylu ar system wybodaeth newydd ar gyfer ysgolion ac yn rhannu argymhellion ar lefelau atebolrwydd ysgolion.

-      Atgoffwyd yr aelodau o’r cyhoeddiad annisgwyl y bydd system ‘Capio 9’ yn dychwelyd fel mesurydd atebolrwydd o haf 2023 ymlaen. Bydd y mesurydd hwn yn creu sgôr yn seiliedig ar ganlyniadau 9 cymhwyster TGAU neu gymhwyster cyfatebol. Gobeithir cael arweiniad ar y bwriad a cheisiwr wrth ail-gyflwyno’r trefniant yma pan mae’r datganiad hefyd yn gobeithio ail edrych a dileu systemau atebolrwydd presennol.

-      Ymhelaethwyd bod y Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bydd dau weithgor yn cael eu sefydlu, gydag ymarferwyr mewn ysgolion ac awdurdodau lleol i gydweithio ar weledigaeth o sut ddylai atebolrwydd ysgolion edrych yn y dyfodol.

-      Cyfeiriwyd bod system ‘samplo’ hefyd yn cael ei weithredu. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio er mwyn i ysgolion a swyddogion rannu syniadau a chyfrannu i wella’r system drwy enghreifftiau o arfer dda.

-      Nodwyd bod rhaid gweithredu’n ofalus wrth i fesurau atebolrwydd gael eu cyflwyno gan fod posibilrwydd bod ysgolion yn mynd i gystadleuaeth gyda’i gilydd yn hytrach na chydweithio, rhannu syniadau a gweithredu ar arferion da.

-      Pwysleisiwyd bod datganiad wedi cael ei ryddhau gan Brif Arolygydd ESTYN, yn cadarnhau bydd arolygiadau yn gweithredu yn yr un modd a’r prosesau presennol ar hyn o bryd.

 

Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Cydbwyllgor i rannu sylwadau a holi cwestiynau:

 

Mynegwyd siomiant a rhwystredigaeth nad y Llywodraeth wedi ymgynghori ag awdurdodau lleol nag ysgolion ar y diweddariadau yma. Nid oedd modd gwneud gwaith i baratoi ar gyfer y newidiadau hyn oherwydd nid oedd neb yn ymwybodol o’r datblygiadau. Nodwyd bod amseriad y cyhoeddiad yn peri gofid gan ei fod wedi cael ei gyflwyno yng nghanol blwyddyn academaidd a hynny yn fuan ar ôl canlyniadau arholiadau cynnar.

 

Pwysleisiwyd bod penaethiaid ac athrawon yn teimlo pwysau yn ddiweddar oherwydd materion ymddygiad a phresenoldeb. Tybir bod ail gyflwyno’r trefniant ‘Capio 9’ yn mynd i ychwanegu at hyn.

 

Cadarnhawyd bod rhai o aelodau’r Cyd-bwyllgor yn cyfarfod â’r Gweinidog ym mis Mawrth a bydd pryderon am y sefyllfa yn cael eu rhannu bryd hynny. Cynigwyd cynnal cyfarfod ychwanegol o’r Cyd-bwyllgor yn dilyn y cyfarfod yma er mwyn cael trafodaeth bellach am addysg yng Ngogledd Cymru gan sicrhau ystyriaethau i wella’r system a deall mesuriadau atebolrwydd, gan wahodd y Gweinidog i’r cyfarfod am sylwadau. Yn dilyn y cyfarfod hwnnw bydd y Cyd-bwyllgor yn gallu rhannu datganiad ar ran ysgolion y rhanbarth os byddai’r aelodau yn credu i hynny fod yn briodol.

 

PENDERFYNWYD

 

Cyflwynwyd yr eitem yma er gwybodaeth ar gyfer yr aelodau. Penderfynwyd gwahodd Gweinidog Y Gymraeg ac Addysg i gyfarfod arbennig o’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

PROSIECT EIN LLAIS NI pdf eicon PDF 322 KB

Rhannu Gwybodaeth gydag aelodau’r Cyd-bwyllgor am lwyddiant prosiect Ein Llais Ni a’r cynlluniau ar gyfer ehangu’r gwaith ymhellach.

Penderfyniad:

Cymeradwyo cynnwys yr adroddiad a’r cynlluniau i ddatblygu’r prosiect yn unol â’r targedau a osodwyd gan Llywodraeth Cymru.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr Adroddiad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

-      Cadarnhawyd mai bwriad y prosiect yw rhoi cymorth i ddisgyblion i ddatblygu sgiliau llafaredd yn y Gymraeg drwy gynnig syniadau a strategaethau i feithrin sgiliau siarad a darllen.

-      Datganwyd bod nifer o ysgolion wedi datgan yr angen i ddatblygu sgiliau llafaredd Cymraeg eu disgyblion. Mae hyn yn enwedig yn wir yn dilyn cyfnod Cofid ac yn benodol mewn teuluoedd di-gymraeg gan nad oedd disgyblion wedi cael cyfle i ymarfer eu sgiliau.

-      Atgoffwyd bod gwaith cychwynnol y prosiect wedi cael ei wneud mewn ymgynghoriaeth ac ysgolion Cymraeg a dwyieithog a gyda’r Athro Enlli Thomas sy’n arbenigydd rhyngwladol ar addysg ddwyieithog.

-      Manylwyd bod y prosiect wedi cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy grant ym mis Hydref 2021. Nodwyd hefyd bod bwrdd llywio wedi cael ei sefydlu ar gyfer y prosiect. Mae penaethiaid ysgolion, cynrychiolwyr y Cyfarwyddwr Addysg, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, Cynghorydd Ian Roberts ar ran Cyd-bwyllgor GwE a’r Athro Enlli Thomas yn rhan o’r bwrdd llywio hwnnw.

-      Rhannwyd balchder bod ysgolion wedi rhannu llwyddiannau’r prosiect mewn gweithdai'r tymor diwethaf. Roedd hyn yn dangos bod y strategaethau a gyflwynwyd fel rhan o’r prosiect yn llwyddiannus i ddatblygu sgiliau’r plant.

-      Nodwyd yn dilyn llwyddiannau’r prosiect, mae cais wedi cael ei wneud i ymestyn y prosiect i fwy o ysgolion Cymraeg a dwyieithog yn ogystal ag ysgolion cyfrwng Saesneg yn unig. Bu i’r cais ei dderbyn ac mae grant o £272,000.00 wedi cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo cynnwys yr adroddiad a’r cynlluniau i ddatblygu’r prosiect yn unol â’r targedau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

10.

CALENDR CYFARFODYDD 2023-2024 pdf eicon PDF 266 KB

Gwneud cais i’r Cyd’bwyllgor gytuno ar galendr cyfarfodydd am y flwyddyn i ddod.

Penderfyniad:

Cytunwyd ar galendr cyfarfodydd y Cyd-Bwyllgor am y flwyddyn 2023-24.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr Adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE fel eitem er gwybodaeth yn unig. Gwahoddwyd yr aelodau i fynychu swyddfeydd GwE ym Mae Colwyn er mwyn cael cyfarfodydd aml-leoliad yn y flwyddyn nesaf pe baent yn credu y byddai’n fuddiol i’r trafodaethau.

 

Ystyriwyd cynnal y cyfarfod nesaf o’r Cyd-bwyllgor yn aml-leoliad ar Fai 24ain 2023.

 

PENDERFYNWYD

 

Cytunwyd ar galendr cyfarfodydd y Cydbwyllgor am y flwyddyn 2023-24.