skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithriol

Cyswllt: Einir Rh Davies  01286 679868

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau o absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Graham Boase (Cyngor Sir Ddinbych) a Karen Evans (Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Wrecsam).

 

Croesawyd y Cynghorydd Mared Eastwood i’w chyfarfod cyntaf o Gydbwyllgor GwE.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 264 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 15 Chwefror, 2023 fel rhai cywir.

Cofnod:

Cadarnhawyd fod y cofnod a gyflwynwyd o’r cyfarfod ar y 15fed o Chwefror, 2023 yn gywir.

 

5.

CYFRIFON GwE 2022-2023 - ALLDRO REFENIW pdf eicon PDF 407 KB

I ddiweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar adolygiad ariannol terfynol cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2022/23.  Mae yr adroddiad hefyd yn canolbwyntio ar yr amrywiadau ariannol sylweddol, gydag Atodiad 1 yn cynnwys y wybodaeth ariannol gyflawn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn y diweddariad ar adolygiad ariannol terfynol cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2022/23, gan nodi yr amrywiadau ariannol sylweddol.

 

Cofnod:

 Cyflwynwyd yr Adroddiad gan Bennaeth Adran Cyllid, ble nododd nad Cyfrifon Terfynol yw y rhain ond darlun mwy eglur o hanes ariannol GwE.  Nododd bod gofyn i’r Cydbwyllgor wneud tri phenderfyniad :

Nodi a derbyn Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw Cydbwyllgor GwE am 2022/23.

Cymeradwyo trosglwyddiad ariannol o gronfa wrth gefn GwE i ariannu gorwariant o £138,871 yn 2022/23, ar ôl ystyried y prif wahaniaethau rhwng y gyllideb a’r gwir wariant.

Cymeradwyo sefyllfa ariannol derfynol 2022/23 fydd yn sail i’r datganiadau ariannol statudol GwE am y flwyddyn sydd i’w cynhyrchu, eu hardystio a’u cyhoeddi gan Adran Gyllid yr awdurdod lletya cyn y dyddiad statudol o 31 Mai.

 

Cyfeiriwyd at yr adroddiad oedd yn manylu yr amrywiadau ariannol, gan nodi bod GwE mewn sefyllfa o orwariant o dan rhai penawdau, tanwariant o dan eraill gyda rhai penawdau yn eithaf agos i’w lle.

 

Nodwyd bod tanwariant bychan o ran costau gweithwyr.  Ar y llaw arall, roedd gorwariant dan y pennawd Eiddo, a hynny yn bennaf oherwydd bod llai o incwm wedi ei dderbyn o ddefnydd adeiladau na’r hyn oedd yn y gyllideb, gan nad oedd rhentu adeiladu wedi ail-gychwyn i’r graddau disgwyledig.  Nodwyd bod cludiant hefyd mewn sefyllfa o danwariant.  Roedd gorwariant ar rhai prosiectau penodol, ond mewn gwirionedd roedd hyn yn deillio o ddefnyddio balansau oedd wedi cronni.

 

Holodd, nododd a chwestiynodd y Cydbwyllgor fel a ganlyn :

 

 Cadarnhawyd bod grantiau wedi eu rhannu gydag ysgolion ac o hynny y bydd canlyniadau yn cael eu cyflawni.

 

 

Cadarnhawyd bod arian dysgu proffesiynol yn fwriadol wedi ei roi yn ôl i’r ysgolion oherwydd oblygiadau y cwricwlwm newydd, gan gadarnhau bod yr arian yn rhoi sail gychwynnol i ysgolion.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn y diweddariad ar adolygiad ariannol terfynol cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2022/23, gan nodi yr amrywiadau ariannol sylweddol.

 

6.

CYNLLUN ARIANNOL TYMOR CANOLIG pdf eicon PDF 259 KB

gyflwyno'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) diwygiedig i'r Cyd-Bwyllgor ei  gymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) diwygiedig.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr Adroddiad Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) gan Bennaeth yr  Adran Cyllid, gyda chais i’r Cydbwyllgor ei gymeradwyo. Nodwyd bwriad y Cynllun i  geisio edrych ymlaen mewn cyfnod ansefydlog, gan amlinellu y materion ariannol fydd yn wynebu GwE dros y tair blynedd nesaf. 

 

Mae Tabl 4.11 yn nodi Effeithiau Cronnol ac yn gosod y senario.  Fel y gwelir, yn ystod 23/24 adnabyddir y senario orau, gydag arbed ariannol o £102,000.  Atgoffwyd y Cydbwyllgor nad yw Cytundeb Soulbury yn wybodus ar hyn o bryd, ac efallai y bydd angen ôl-ddyddio’r cynnydd cyflog hyd at Medi 2022.

 

Ar y pegwn arall, nodwyd ei bod yn anodd iawn edrych ar 24/25 heb wybod beth sydd gan y dyfodol i gynnig ac mae y senario gorau ar gyfer 24/25 fyddai dim rhagor o doriadau. 

 

O ran gwerth am arian, arfarnu a dal effaith, cadarnhawyd ei bod yn ofynnol i osod cyllideb gytbwys, gan edrych am werth am arian a pharatoi ymlaen llaw,  a theimlwyd bod y papur yn cydnabod y sefyllfa ac yn cynnig datrysiad.

 

Holodd, nododd a chwestiynodd y Cydbwyllgor fel a  ganlyn :

 

Nodwyd ei bod yn ddogfen ddefnyddiol iawn ac y byddai yn ddefnyddiol edrych ar y toriadau hanesyddol mae GwE wedi ymgymryd  (a grybwyllir yn Her Ariannol yr adroddiad).  Un sialens yw ystyried beth yw senario ystyrlon tra yn ceisio gwerth am arian ac effaith, ac mae gwaith yn parhau ar hyn.  Teimlwyd bod gan GwE y cryfder  o weithio mewn partneriaeth, ac nad oeddynt eisiau eu cyfyngu i doriadau yn unig.  Yr allwedd yw gweledigaeth glir ac arweinyddiaeth glir a chroesawyd y cyd-ddatrysiad.

 

Nodwyd y pryder bod y ddogfen yn son am sialensiau o ddifrif.  Teimlwyd bod y ffigyrau yn siarad trostynt eu hunain, gyda chyllidebau wedi eu casglu a chwestiynwyd onid oes angen i’r Cydbwyllgor siarad gyda y Llywodraeth?  Yn sgil hyn, cyfeiriodd un Aelod at yr ad-daliad cyfraniad pensiwn oedd Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Wrecsam wedi ei dderbyn fel credyd un-tro a chwestiynwyd pryd fydd y gronfa bensiwn yn cael ei hail-brisio?

 

Cadarnhaodd Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletyol bod gwahaniaeth rhwng Cynllun Pensiwn Gwynedd a Chynllun Pensiwn Clwyd.  Cadarnhawyd mai lleihau y cyfraniad, yn hytrach na rhoi ad-daliad, sydd wedi digwydd yn achos GwE.

 

Diolchwyd am yr adroddiad a nododd un Aelod bod y sefyllfa yn peri pryder, yn enwedig yn sgil bod y maes wedi bod drwy ’Lymder Un’ eisoes.  Atgyfnerthodd y sylw bod yn rhaid pwyso ar y Llywodraeth ar bob cyfle posib, neu ni fydd modd symud ymlaen heb fuddsoddiad.  Cadarnhawyd bod y maes addysg angen mwy o gyllid, a nodwyd er y byddai yn fuddiol gosod achos i’r Llywodraeth, bod Llywodraeth Cymru yn ddibynnol ar Lywodraeth y DU, gan mai penderfynu ar ddefnydd yr arian mae Llywodraeth Cymru.  Nodwyd yr angen i drafod rhai syniadau yn aeddfed, a herio gwariant Llywodraeth Cymru felly.

 

Cyfeiriwyd at gyfarfod diweddar gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â phwysau cyllidebol ar Awdurdodau Lleol, ac o hynny pwysau ar yr ysgolion.  Adroddwyd bod Aelodau yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2022-23 GwE pdf eicon PDF 283 KB

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol GwE 2022-2023 i'r Cyd-Bwyllgor. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn Adroddiad Blynyddol GwE 2022-2023 gan ystyried cynnal gweithdy i drafod materion penodol mewn mwy o fanylder.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr Adroddiad Blynyddol ar berfformiad y gwasanaeth o safbwynt cyflawni swyddogaethau a nodau allweddol y Gwasanaeth gan  y Cyfarwyddwr Cynorthwyol.     Diolchwyd i Reolwr Rheoli Perfformiad GwE am y gwaith o gyd-gordio y wybodaeth..  Yn gryno, adroddwyd bod nifer o bethau cyffroes ar y gweill a bod cynnydd wedi ei wneud yn erbyn y pump maes - Gwella Arweinyddiaeth, Gwella'r Dysgu a'r Addysgu, Cwricwlwm a Darpariaeth, Cynnydd a Safonau Dysgwyr  a Chymorth a Her i Ysgolion sy'n Destun Pryder.

 

 Cytunwyd ei bod yn ddogfen gynhwysfawr iawn.  Cwestiynwyd y Cynllun Cefnogaeth o ran sut y  byddai yn gweithio yn GwE a gofynnwyd tybed fyddai modd iddo fod yn eitem agenda i’r dyfodol?  Cadarnhawyd y byddai modd unai ei drafod  mewn cyfarfod o’r Cydbwyllgor i'r dyfodol neu opsiwn arall fyddai cynnal gweithdy i edrych ar nifer o faterion gan gynnwys materion trawsnewid, deall rolau, gwaith partneriaeth, gwell defnydd o amser ac ati.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn Adroddiad Blynyddol GwE 2022-2023 gan ystyried cynnal gweithdy i'r dyfodol i drafod materion penodol mewn mwy o fanylder.

 

8.

CYMERADWYO CYNLLUN BUSNES GwE 2023-2026 pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno Cynllun Busnes Rhanbarthol 2023-2026 i aelodau'r Cyd-bwyllgor.

Penderfyniad:

Cymeradwyo y Cynllun Busnes Rhanbarthol 2023-2026

 

Cofnod:

Cyflwynwyd  Cynllun Busnes GwE 2023-2026 gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE a Chyfarwyddwr Arweiniol GwE / Cadeirydd y Bwrdd Rheoli.  Nodwyd bod y Cynllun yn cyfarch blaenoriaethau ac anghenion ysgolion, ,  cyfeiriad a blaenoriaethau  chwe Awdurdod y gogledd,  a chyfeiriad a blaenoriaethau dogfennau cenedlaethol Llywodraeth Cymru gan gynnwys wyth ffactor cyfrannol gwireddu'r cwricwlwm yn llwyddiannus a'r chwe amcan a amlinellir yn Cenhadaeth ein Cenedl: safonau a dyheadau uchel i bawb.

 

Cyfeiriwyd at y saith amcan strategol sydd yn y Cynllun:Gwella Ysgolion, Cwricwlwm ac Asesu, Datblygu dysgu ac addysgu o safon uchel, Arweinyddiaeth, Profiad addysg gadarnhaol i bawb, Mae Cymraeg yn perthyn i bawb a Busnes, gan gadarnhau bod ieithwedd yr amcanion yn agos at ieithwedd y Llywodraeth a blaenoriaethau lleol a rhanbarthol  Yn ogystal, cadarnhawyd fod pob Awdurdod Lleol gyda Chynllun Busnes unigol sydd yn cynnwys materion penodol i’w Awdurdod penodol. 

 

Holodd, nododd a chwestiynwyd y Cydbwyllgor fel a ganlyn :

 

Nodwyd ei bod yn gynllun gwybodus iawn, yn ddogfen ar gyfer symud ymlaen, sydd wedi ei gosod yn glir, gan ddefnyddio ieithwedd Llywodraeth Gymru, gyda phroses adolygu gan gymheiriaid  yn rhedeg drwyddo draw. 

 

Cyfeiriwyd yn benodol at Amcan 5 - Profiad addysg gadarnhaol i bawb -  gan nodi ei fod yn un positif iawn a nodwyd balchder yn hynny.   Cadarnhawyd bod cynlluniau busnes manwl yn cyd-fynd â’r amcanion i gyd, ac y bydd  adroddiad cynnydd ar y rhain yn cael ei gyflwyno i'r Cydbwyllgor yn chwarterol.   Nodwyd y byddai modd cynnwys unrhyw faterion y dymuna’r Aelodau eu trafod ymhellach yn y gweithdy yn ogystal.

 

 

Diolchwyd i’r Rheolwr Rheoli Perfformiad am eglurer yr adroddiad. 

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo y Cynllun Busnes Rhanbarthol 2023-2026

 

9.

ADOLYGU'R GOFRESTR RISG pdf eicon PDF 312 KB

Cyflwyno Cofrestr Risg ddiweddaraf GwE i'r Cyd-Bwyllgor.

Penderfyniad:

Derbyn yr addasiadau diweddaraf i’r Gofrestr Risg.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr Adroddiad gan Reolwr Cyfarwyddwr GwE.  Atgoffwyd y Cydbwyllgor mai pwrpas y gofrestr risg yw ffurfioli’r broses o adnabod risgiau a chymryd camau gweithredu dilynol i’w lliniaru, a’i bod yn ddogfen fyw sydd yn cael ei diweddaru yn amserol.  Cadarnhawyd bod yr holl risgiau wedi eu hadolygu a’u diweddaru a’r  diwygiadauwedi eu nodi mewn coch  sef trefniadau gweithredu a strwythur staffio GwE, recriwtio a chynllunio olyniaeth, gwella ysgolion a hinsawdd undebol.  Cadarnhawyd nad oes risg wedi ei ddileu.

 

Roedd y Cydbwyllgor yn fodlon gyda y pedwar ychwanegiad, oedd yn addas iawn yn yr hinsawdd bresennol, ac yn fodlon i’r gweddill aros.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr addasiadau diweddaraf i’r Gofrestr Risg.

 

10.

ADOLYGU'R TREFNIADAU GWEITHREDU A'R STRWYTHUR STAFFIO PRESENNOL pdf eicon PDF 140 KB

I gyflwyno cylch gorchwyl drafft i aelodau’r Cyd-bwyllgor mewn perthynas â Adolygu trefniadau gweithredu GwE a'r strwythur staffio presennol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gohirio yr Eitem a thrafod cyn gynted â phosib ar ôl Mehefin 7fed, 2023

 

Cofnod:

Nodwyd bod penderfyniad wedi ei wneud i ohirio trafodaeth ar yr eitem yma gan y bydd yn cael ei ystyried mewn cyfarfod o Brif Weithredwr y Gogledd ar y 7 Mehefin. 

 

PENDERFYNWYD

 

Gohirio yr eitem.

 

11.

YMGYNGHORIADAU pdf eicon PDF 171 KB

I rannu gwybodaeth ag aelodau'r Cyd-bwyllgor ynghylch ymgynghoriadau perthnasol dros ben sydd ar y gweill

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn y wybodaeth sydd wedi ei rannu ag aelodau'r Cyd-bwyllgor ynghylch ymgynghoriadau perthnasol dros ben sydd ar y gweill.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr Adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE, er gwybodaeth, yn nodi’r ymgynghoriadau perthnasol sydd ar y gweill, sef ‘Llywodraeth Cymru - Adolygu rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg yng Nghymru a chyflawni trefniadau i wella ysgolion’, ‘Estyn - Arolygiadau gwasanaethau addysg llywodraeth leol 2024’ a ‘Llywodraeth Cymru - Bil Addysg y Gymraeg: papur gwyn’.  Gofynnwyd i’r Cydbwyllgor nodi yr uchod a chadarnhawyd y byddai swyddogion GwE yn paratoi ymatebion.

 

Nododd y Cydbwyllgor bod Ymgynghoriad Estyn - Arolygiadau gwasanaethau addysg llywodraeth leol 2024 yn newid mawr a’i bod yn bwysig iawn bod yn rhan o’r ymgynghoriad hwn. 

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn y wybodaeth sydd wedi ei rannu ag aelodau'r Cydbwyllgor ynghylch ymgynghoriadau perthnasol dros ben sydd ar y gweill.

Swyddogion GwE a’r Awdurdodau lleol i baratoi ymateb i'r ymgynghoriadau.

 

12.

DIWRNOD DATHLU Y DAITH DDIWYGIO - 22/06/2023 pdf eicon PDF 278 KB

Cyflwyno gwybodaeth i aelodau'r Cyd-bwyllgor am y bwriad i gynnal ‘Marchnad Cwricwlwm i Gymru’ i arweinwyr ysgolion y rhanbarth ar 22 Mehefin 2023 yn Venue Cymru, Llandudno er mwyn dathlu y daith ddiwygio hyd yma.

 

Penderfyniad:

Croesawu y bwriad i gynnal ‘Marchnad Cwricwlwm i Gymru’ i arweinwyr ysgolion y rhanbarth ar 22 Mehefin 2023 yn Venue Cymru, Llandudno er mwyn dathlu y daith ddiwygio hyd yma

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr Adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE am y bwriad i gynnal ‘Marchnad Cwricwlwm i Gymru’ i arweinwyr ysgolion y rhanbarth ar 22 Mehefin 2023 yn Venue Cymru, Llandudno er mwyn dathlu y daith ddiwygio hyd yma.  Cyfeiriwyd at y bwriad i drefnu gweithdai, stondinau a chyfle i ddewis pynciau o ddiddordeb, megis asesu, meysydd dysgu a phrofiad, pontio a thrawsnewid.  Cadarnhawyd bod gwahoddiad i bob un oedd yn yr ystafell.

 

PENDERFYNWYD

 

Croesawu y bwriad i gynnal ‘Marchnad Cwricwlwm i Gymru’ i arweinwyr ysgolion y rhanbarth ar 22 Mehefin 2023 yn Venue Cymru, Llandudno er mwyn dathlu y daith ddiwygio hyd yma.

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 10.35 y.b a daeth i ben am 12.05 y.p.

 

 

 

_________________________________

 

CADEIRYDD