Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Einir Rh Davies  01286 679868

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau o absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Nicola Stubbins (Cyngor Sir Ddinbych), Geraint Davies (Cyngor Sir Ddinbych), Dr Lowri Brown (Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy), Dewi A Morgan (Cyngor Gwynedd) a Graham Boase (Cyngor Sir Ddinbych).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 311 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 24 Mai, 2023 fel rhai cywir.

Cofnod:

Cadarnhawyd fod y cofnod a gyflwynwyd o’r cyfarfod ar y 24ain Mai, yn gywir a rhoddwyd diweddariad ar y canlynol o’r cofnod :

 

Eitem 10 - Adolygu’r Trefniadau Gweithredu a’r Strwythur Staffio Presennol - cadarnhawyd bod cyfarfod wedi cymryd lle a bod disgwyl cyhoeddiad yn y diwrnodau nesaf, fydd hefyd yn adlewyrchu anghenion cenedlaethol.

 

 

Eitem 12 - Diwrnod Dathlu y Daith Ddiwygio - 22/06/2023 - llongyfarchwyd pawb oedd wedi ymwneud â’r diwrnod am y llwyddiant ysgubol a nodwyd bod adborth da iawn wedi ei dderbyn.

 

 

5.

DATGANIAD O'R CYFRIFON, YN AMODOL AR ARCHWILIAD, AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2023 pdf eicon PDF 316 KB

gyflwyno'r Datganiad o’r Cyfrifon, yn amodol ar archwiliad, am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023 i'r Cyd-Bwyllgor ei  gymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo’r Datganiad o’r Cyfrifon, yn amodol ar archwiliad, am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023 

Cofnod:

Cyflwynwyd y Datganiad o’r Cyfrifon gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol, a gadarnhaodd bod Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 yn golygu fod rhaid i bob cyd-bwyllgor baratoi cyfrifon blynyddol a gan fod GwE gyda throsiant o dros £2.5 miliwn, ei bod yn ofynnol felly bod cyfrifon llawn yn cael eu paratoi yn hytrach na dychweliad blynyddol sydd yn cael eu paratoi ar gyfer Cyd-bwyllgorau llai o faint, sydd llawer symlach.

 

Cadarnhawyd bod y cyfrifon wedi eu cwblhau a’u rhyddhau ers diwedd Mehefin i’w harchwilio gan Archwilio Cymru.

 

Fel sgil effaith i’r argyfwng Covid, gwelwyd estyniad yn yr amserlen statudol ar gyfer archwilio’r cyfrifon, gyda dyddiad cwblhau’r archwiliad ddiwedd Tachwedd eleni. O ganlyniad, bydd fersiwn yn dilyn archwiliad yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod mis Rhagfyr.

 

Yn y cyfarfod 24 Mai, adroddwyd ar sefyllfa ariannol diwedd flwyddyn ar gyfer 2022/23, oedd ar ffurf alldro syml. Adroddwyd bod gorwariant o £139k yn deillio yn bennaf o wariant bwriadol ar flaenoriaethu cynlluniau angenrheidiol yn ystod y flwyddyn er mwyn rhoi cefnogaeth i ysgolion, ond ei fod yn cael ei gyllido o gronfa wrth gefn. Ond, mae’r Datganiad o’r Cyfrifon ar ffurf safonol ar gyfer pwrpas allanol a llywodraethu.

 

Nodwyd ei bod yn ddogfen faith, ond yn dilyn ffurf safonol CIPFA o ran y prif ddatganiadau a nodwyd y canlynol :

 

Mae’r Adroddiad Naratif yn rhoi gwybodaeth am y cyfrifon ac am weledigaeth blaenoriaethau GwE, y strategaeth ariannol, perfformiad ariannol ac yn manylu ar y prif faterion. Mae Tabl 2 yn priodi sefyllfa sydd wedi ei adrodd yn yr alldro diwedd y flwyddyn i sefyllfa Datganiad Incwm a Gwariant sydd yn y Cyfrifon.

 

Mae Datganiad Symudiad mewn reserfau yn crynhoi sefyllfa ariannol GwE, ac mae y datganiad yma yn priodi sefyllfa incwm a gwariant efo sefyllfa’r fantolen, gan gynnwys gwybodaeth am y reserfau defnyddiadwy a reserfau na ellir eu defnyddio. Cadarnhawyd bod symudiad sylweddol wedi bod yn y reserfau na ellir eu defnyddio yn ystod y flwyddyn. Manylwyd bod reserfau defnyddiadwy, sef cronfeydd wrth gefn GwE wedi lleihau o £2k erbyn diwedd Mawrth 2023 i £1.154 miliwn.

 

Mae Nodyn 10 yn rhoi dadansoddiad o gronfeydd cyffredinol GwE a’r Gronfa Athrawon sydd newydd gymhwyso. Mae £139k wedi ei ddefnyddio i gyllido gorwariant y flwyddyn tra bod £137k wedi ei roi i mewn yn y gronfa Athrawon newydd gymhwyso yn ystod y flwyddyn.

 

Dengys Nodyn 15 - Reserfau na Ellir eu Defnyddio bod £9 miliwn o symudiad oherwydd sefyllfa pensiynau.  Cadarnhawyd bod pensiynau wedi symud o fod yn ymrwymiadau i fod yn asedau, a bod hyn yn ddarlun cyffredinol sydd wedi ei weld, oherwydd amodau’r farchnad yn gyffredinol. Canlyniad hyn yw bod symudiadau sylweddol yn sefyllfa mantolen Cyd-bwyllgorau ac Awdurdodau Lleol.

 

O ran Taliadau i Swyddogion, cadarnhawyd bod y sefyllfa chwyddiant yn golygu fod yna fwy yn y bandiau cyflog yn 2022/23 i gymharu gyda 2021/22.

 

Cyfeiriwyd at y lleihad o £2.8 miliwn sydd wedi ei dderbyn yn yr Incwm Grant rhwng y ddwy flynedd. Nodwyd bod nifer o grantiau un-tro yn sgil effaith covid  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

DATGANIAD LLYWODRAETHU pdf eicon PDF 251 KB

gyflwyno'r Datganiad Llywodraethu i'r Cyd-Bwyllgor ei  gymeradwyo.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo y Datganiad Llywodraethu 

Cofnod:

Cyflwynwyd y Datganiad Llywodraethu gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE.  Cadarnhaodd, wrth gyflwyno, ei fod yn ymwybodol bod rhai aelodau o’r Cyd-bwyllgor eisoes yn gyfarwydd â statws y cyfarfod a’r angen am ddatganiad llywodraethu.  Cyfeiriodd at y saith egwyddor sydd yn cael eu mesur, a’r drefn o gyhoeddi Cynllun Busnes ar ddechrau y flwyddyn gan adrodd ar gynnydd yn ystod y flwyddyn:

 

A     Ymddwyn ag integriti, gan ddangos ymrwymiad cryf i werthoedd moesol, a pharchu rheol gyfreithiol

B                      Sicrhau natur agored ac ymgysylltiad llawn rhanddeiliaid

C     Diffinio deilliannau o ran manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sydd yn gynaliadwy

D     Penderfynu ar yr ymyraethau sydd yn angenrheidiol i optimeiddio cyflawniad y deiliannau penodol

E                      Datblygu capasiti yr endid, gan gynnwys gallu ei arweinwyr a'i unigolion

F     Rheoli risgiau a pherfformiad drwy fesurau rheoli mewnol cadarn a rheolaeth ariannol gyhoeddus gref.

G     Gweithredu arferion da o ran tryloywder, adrodd ac archwilio er mwyn rhoi atebolrwydd effeithiol

 

O ran mesur D, cadarnhawyd y gobaith o adrodd ar arolygiadau diweddar yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor.  Nodwyd ei bod yn braf iawn gallu adrodd bod enghreifftiau o waith y Gwasanaeth yn cael eu hystyried yn rhai sydd yn cefnogi yr ysgolion a bod dymuniad cryf i barhau i gydweithio.

 

Ategwyd y sylw am y cydweithio, gan nodi bod parhau gydag undod llais y Gogledd yn hynod bwysig wrth fynd ymlaen, a bod gweithio ar draws y rhanbarth, gyda undod cryf y llais hwnnw wedi golygu bod llawer wedi ei gyflawni. 

 

Diolchwyd i’r holl staff am eu gwaith a diolchwyd am dryloywder didwylledd y Datganiad.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a chymeradwyo y Datganiad Llywodraethu.

 

7.

STRATEGAETH ARFARNU AC EFFAITH pdf eicon PDF 270 KB

gyflwyno'r Strategaeth Arfarnu ac Effaith i'r Cyd-Bwyllgor ei  gymeradwyo.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo a derbyn y Strategaeth Arfarnu ac Effaith

Cofnod:

Cyflwynwyd yr Adroddiad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE gyda chais i Aelodau'r Cyd-bwyllgor gymeradwyo y 'Strategaeth arfarnu ac effaith'. 

 

Nodwyd bod angen cwestiynu beth sydd yn gweithio a beth sydd ddim yn gweithio a tynnwyd sylw’r Cyd-bwyllgor i’r elfen monitro.  Nodwyd bod modd dal effaith materion tymor byr drwy ffurf holiaduron neu ffurflen werthuso, ond gyda rhaglenni dwys, mae angen edrych ar ymddygiad ymarferwyr a’r effaith ar y dysgwyr.  Mae’n anodd iawn gwybod beth yw union effaith yr hyfforddiant, er bod cydweithio agos gydag ysgolion, a nodwyd y perygl o geisio dal effaith pob dim.  Cadarnhawyd mai blas yn unig sydd yn y dogfennau a bod gwaith trafod ar y gweill gydag Awdurdodau.

 

Agorwyd y llawr i gwestiynau / sylwadau: 

 

Nodwyd bod y strategaeth yn glir, ac mae’r egwyddorion yn rhai y gellir cyfrannu atynt.  Teimlwyd bod y dull/modd arfarnu yn gadarn a nodwyd parodrwydd i gefnogi’r strategaeth a’r cydweithio.

 

Gofynnwyd sut gellir rhoi sicrwydd i Aelodau Etholedig bod eu hysgolion yn gwneud cynnydd?  Cadarnhawyd bod y gwaith yn cymryd lle ar lefel ysgol ac ar lefel Awdurdodau Lleol yn ogystal. 

 

Nodwyd ei bod yn un o’r dogfennau holl bwysig yn yr agweddau ehangach, sydd yn ymwneud â thrafodaethau lefel uchel.  Mae’r egwyddorion yn greiddiol ac mae angen bod yn dryloyw.  Mae’r egwyddorion yn gosod y darlun ac yn amlinellu’r gwaith cydweithio.

 

Gan ei bod yn raglen ar gyfer y 3 neu 4 blynedd nesaf, cwestiynwyd a ddylai llesiant a gwydnwch staff, (sydd wedi ei nodi ar gyfer tymor y gwanwyn) fod yn fwy o flaenoriaeth?  Cadarnhawyd bo modd symud yr amserlen o gwmpas, ond er mwyn dangos gwir effaith/effaith hir dymor, bod angen rhoi amser i'w arfarnu. 

 

Cadarnhawyd bod llawer yn mynd ymlaen.  Adroddwyd bod angen ystyried sut gellir lleihau y pwysau gwaith ar athrawon, er eu bod wedi ymrwymo i’r gwaith. 

 

Diolchwyd am y drafodaeth, oedd wedi ei werthfawrogi.

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo a derbyn y Strategaeth Arfarnu ac Effaith