Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Ffion Elain Evans  E-bost: ffionelainevans@gwynedd.llyw.cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau o absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Dr Lowri Brown (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy), Claire Homard (Cyngor Sir y Fflint) a Geraint Davies (Cyngor Sir Ddinbych).

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 115 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod diwethaf y pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar y 12fed o Orffennaf, fel rhai cywir.

Cofnod:

Cadarnhawyd fod cofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar y 12fed o Orffennaf 2023, yn gywir

5.

ARCHWILIO CYMRU - CYNLLUN ARCHWILIO 2023 GwE pdf eicon PDF 742 KB

I gyflwyno adroddiad Archwilio Cymru. 

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo Cynllun Archwilio 2023.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi na fyddai’r Cynllun Archwilio yn cael ei gyflwyno i’r un cyfarfod â’r cyfrifon fel arfer ond oherwydd i gyfarfod diwethaf Cydbwyllgor GwE gael ei ohirio, fe’i gyflwynir yn y cyfarfod yma. Eglurwyd bod y cynllun yn edrych ychydig yn wahanol i’r rhai y mae Archwilio Cymru wedi’u paratoi yn y gorffennol a bod hyn o ganlyniad i newidiadau yn y safonau archwilio rhyngwladol. Atgoffwyd y Cyd-bwyllgor nad yw’r un archwiliad yn gallu rhoi sicrwydd cyflawn bod y cyfrifon wedi’u datgan yn gywir a bod yr archwilwyr yn gweithio i lefel faterol.

 

Nodwyd bod y newidiadau yn y safonau archwilio rhyngwladol yn golygu bod archwilwyr yn gorfod gwneud llawer mwy o waith ar y risgiau rŵan a thynnwyd sylw at y risgiau sydd wedi’u trafod yn yr adroddiad. Eglurwyd bod risg o wrthwneud gan y rheolwyr yn bresennol ym mhob corff ac felly’n bresennol ym mhob cynllun archwilio yng Nghymru ac nad oedd gan yr archwilwyr unrhyw reswm i gredu bod rheolwyr yn gwneud hyn yng nghyfrifon GwE. Nodwyd bod yr ail risg yn gyffredinol ei natur hefyd ac felly wedi ei gynnwys yn y mwyafrif o gynlluniau archwilio. Yn ogystal, esboniwyd bod y drydedd risg wedi’i chynnwys oherwydd addasiadau a wnaed i gyfrifon 22/23 yng nghyd-destun triniaeth arian grant.

 

Tynnwyd sylw at y ffi a godwyd am y gwaith gan nodi ei fod oddeutu 15% yn uwch na’r ffi llynedd a bod hynny oherwydd chwyddiant a newidiadau yn y trefniadau archwilio.

 

Holodd aelod am sefyllfa’r gronfa bensiwn ac a fyddai GwE mewn sefyllfa i dynnu arian allan o’r gronfa. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod y gronfa yn endid ar wahân i unrhyw un o’r awdurdodau a’r Cyd-bwyllgor a’i bod yn cael ei hail-brisio bob 3 mlynedd. Eglurwyd bod yr ailbrisiad diweddaraf wedi digwydd yn Ebrill 2023 ac oherwydd bod lefel ariannu Cronfa Bensiwn Gwynedd yn iach bu i gyfraniadau pob un o’r cyflogwyr yn y gronfa ostwng yn gyffredinol. Cadarnhawyd nad yw tynnu arian yn ôl yn rhan o bolisi Cronfa Bensiwn Gwynedd a’r hyn sy’n cael ei wneud yn lle yw gostwng y cyfraniadau.

 

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a chymeradwyo Cynllun Archwilio 2023.

 

6.

CYFRIFON TERFYNOL Y CYD-BWYLLGOR AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2023 AC ARCHWILIAD PERTHNASOL pdf eicon PDF 165 KB

Cyflwyno –

·       Datganiad o’r Cyfrifon ôl-Archwiliad;

·       Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru;

·       Llythyr Cynrychiolaeth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r adroddiad ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, cymeradwyo cyfrifon 2022/23 ac awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi’r llythyr cynrychiolaeth ar ran y Cyd-Bwyllgor.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod Archwilio Cymru yn bwriadu cyhoeddi adroddiad barn di-amod ar y cyfrifon eleni. Yn dilyn hynny, mae angen i GwE baratoi llythyr ymateb yn seiliedig ar yr hyn sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad. Byddai rhaid i Gadeirydd y Cyd-Bwyllgor a’r Swyddog Cyllid arwyddo’r llythyr cynrychiolaeth a’i gyflwyno i’r archwilwyr.

 

Tynnwyd sylw at un cywiriad sydd wedi’i nodi yn adroddiad yr archwilwyr. Eglurwyd bod sefyllfa anarferol a digynsail wedi codi pan gyflwynwyd y cyfrifon drafft yn ôl ym mis Gorffennaf. Nodwyd bod y sefyllfa yn un dechnegol a digynsail ac nad oedd arweiniad clir am sut i ddelio gyda sefyllfa o’r fath. Yn sgil hyn, bu i’r swyddogion cyllid gysylltu gydag Archwilio Cymru am arweiniad ond cymerodd hi gryn dipyn o amser i’r archwilwyr weld beth oedd y driniaeth gywir. Eglurwyd felly bod y newid yn deillio o’r cyfarwyddyd gwahanol a gafwyd yn ddiweddarach am sut i ddelio gyda’r sefyllfa a bod y mater wedi ei ddatrys bellach.

 

Cyfeiriwyd at baragraff chwech yr adroddiad sy’n nodi bod gwaith heb ei gwblhau.  Cadarnhawyd bod y gwaith wedi’i gwblhau erbyn hyn ac nad oedd mater arall wedi codi. Esboniwyd bod y ffaith nad oedd unrhyw faterion eraill wedi codi yn adlewyrchiad da iawn o’r trefniadau sydd mewn lle i baratoi’r cyfrifon.

 

Diolchwyd i’r tîm yn Archwilio Cymru ac i’r tîm yn Adran Cyllid Cyngor Gwynedd am eu gwaith caled a’u cydweithrediad. Ategwyd bod y cyfrifon yn rhywbeth i ymfalchïo ynddynt a’u bod yn rhoi sicrwydd i’r aelodau bod y blaenoriaethau yn y lle cywir a bod yr arian yn cael ei ddefnyddio yn briodol.

 

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r adroddiad ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, cymeradwyo cyfrifon 2022/23 ac awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi’r llythyr cynrychiolaeth ar ran y Cydbwyllgor.

 

7.

CYLLIDEB GwE 2023/2024 - ADOLYGIAD HYD AT DDIWEDD MEDI 2023 pdf eicon PDF 179 KB

Diweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar yr adolygiad ariannol diweddaraf o gyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2023/24.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad.

b)    Ffurfio Grŵp Tasg a Gorffen i edrych ar yr opsiynau cyllidol ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan egluro ei fod yn nodi’r rhagolygon ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol a’u bod yn rhagweld gorwariant net o £36,614 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol 2023/24. Nodwyd mai’r prif bennawd sy’n gorwario yw gweithwyr a bod strwythur staffio presennol y gwasanaeth dan adolygiad ar hyn o bryd. Eglurwyd bod swyddi gwag o fewn y gwasanaeth ar hyn o bryd a bod hynny’n mynd ychydig o’r ffordd i leihau’r gwariant ond y byddai’n debygol i’r arbedion orfod dod o’r strwythur staffio.

 

Tynnwyd sylw at y tanwariant sy’n erbyn y gyllideb cludiant a nodwyd mai dyma’r flwyddyn ariannol llawn gyntaf ble mae lefelau teithio staff yn debycach i lefelau cyn y pandemig. Amlygwyd y byddai’n fuddiol ystyried a yw’r ffordd newydd o weithio yn arwain at leihau costau teithio yn y tymor hir ac y byddai’n fater i’w adolygu yn y dyfodol.

 

Eglurwyd bod gan GwE gronfa tanwariant yn sgil tanwariant mewn blynyddoedd blaenorol ac mai’r argymhelliad fyddai defnyddio’r gronfa hon er mwyn ariannu’r gorwariant ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, cynigodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE y dylid ffurfio Grŵp Tasg a Gorffen er mwyn ystyried gwahanol opsiynau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Awgrymodd y byddai’r grŵp yn gallu adrodd yn ôl i’r Cydbwyllgor ar y gwahanol opsiynau gan roi cyfle i’r Cydbwyllgor drafod pa opsiwn fyddai orau wrth symud ymlaen.

 

 

PENDERFYNWYD

 

a)     Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad.

b)     Ffurfio Grŵp Tasg a Gorffen i edrych ar yr opsiynau cyllidol ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25.

 

8.

CYNLLUN BUSNES GwE 2023/2024 - ADRODDIAD MONITRO CHWARTER 1 & 2 pdf eicon PDF 170 KB

Cyflwyno Adroddiad Monitro Chwarter 1 a 2 Cynllun Busnes Rhanbarthol 2023/24 GwE i’r cydbwyllgor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE yr adroddiad gan nodi ei fod yn addas bod y cynllun busnes yn dilyn yr adroddiadau ar y gyllideb oherwydd bod y cynllunio gofalus sy’n digwydd wrth lunio’r cynllun busnes yn priodi gyda’r gofynion cyllidebol. Canolbwyntiwyd ar ‘Amcan 1 – Gwella Ysgolion’ yn y cyfarfod hwn ac eglurodd bod newid diwylliant wedi bod yn GwE dros y 5/6 mlynedd ddiwethaf. Nododd bod hyn yn dwyn ffrwyth bellach a bod ganddynt berthynas agos gyda staff yn yr ysgolion er mwyn gallu adnabod blaenoriaethau.

 

Aethpwyd ymlaen i nodi fod cylch arolygu’r chwe awdurdod wedi dod i ben a bod yr adran ar wella ysgolion wedi dod allan yn gryf. Eglurwyd nad oedd argymhelliad am sut y gellid gwella’r gwasanaeth gwella ysgolion. Yn sgil hyn, nodwyd bod angen parhau gyda’r natur gadarnhaol ac y byddai’n rhaid bwydo’r wybodaeth sy’n deillio o ganfyddiadau’r Grŵp Tasg a Gorffen i’r cam nesaf.

 

Rhoddwyd cydnabyddiaeth i’r ffaith bod y cyfnod diweddar wedi bod yn drwm o ran rheoleiddio ond bod yr adroddiadau yn gyson gadarnhaol. Golyga hyn bod sicrwydd allanol bod GwE yn mynd i’r cyfeiriad cywir a bod y cydweithio yn ddilyffethair. Pwysleisiwyd bod hyn yn allweddol i lwyddiant y gwasanaeth.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, cyflwynodd yr aelodau y sylwadau canlynol:

 

-        Diolchwyd am yr adroddiad a chanmolwyd y gefnogaeth a’r holl waith sy’n cael ei wneud gan y gwasanaeth.

-        Gofynnwyd am allu rhannu’r adborth sy’n cael ei dderbyn ar draws y rhanbarth gyda’r Cydbwyllgor gan ei bod hi’n bwysig gweld sut mae ysgolion yn teimlo ar draws y rhanbarth fel y gellid cymharu gydag ysgolion o fewn yr awdurdodau unigol.

-        Mynegwyd pryder am adolygu’r graddau cyflogau er nad oedd sylw i hyn yn yr adroddiad nac yn y Cynllun Busnes. Mewn ymateb, eglurwyd bod GwE fel gwasanaeth yn edrych am gysondeb a thegwch a'i bod hi’n debygol y byddai’n rhaid ail-strwythuro er mwyn sicrhau bod y strwythur priodol yn ei lle er mwyn symud ymlaen. Nodwyd bod hyn yn drafodaeth i godi gyda’r Grŵp Tasg a Gorffen a fyddai’n yn edrych ar y sefyllfa gyllidol yn ei chyfanrwydd.

 

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad.

 

9.

ADOLYGU'R GOFRESTR RISG pdf eicon PDF 189 KB

Cyflwyno Cofrestr Risg ddiweddaraf GwE i'r Cyd-Bwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr addasiadau diweddaraf i’r Gofrestr Risg.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd y gofrestr risg gan egluro ei bod yn ddogfen fyw sy’n cael ei hadolygu’n gyson a’i bod yn cael ei chyflwyno i’r Cyd-bwyllgor yn flynyddol a hefyd pan fydd risgiau newydd yn cael eu hadnabod a bod angen i’r Cyd-bwyllgor fod yn ymwybodol ohonynt. Eglurwyd bod lefel y risg wedi cael ei uchafu gyda rhai risgiau. Nodwyd mai un risgiau i’r aelodau’n unigol ac i’r Cyd-bwyllgor yn ei gyfanrwydd yw sut mae sicrhau’r gefnogaeth briodol lefel ysgol gyda chyllideb fydd yn lleihau, a chyda llai o bobl i wneud y gwaith hynny. Nodwyd bod angen ystyried sut mae cael y model yn gywir a sicrhau cydbwysedd o ran beth mae’r gyllideb yn gallu gwneud. Ategwyd bod y risgiau unigol yn gallu arwain at risg gyfansawdd i enw da’r cynghorau unigol, y Cyd-bwyllgor ac ysgolion.

 

Ategwyd bod y ddogfen hon yn ddogfen fyw ac y byddai’n rhaid dod yn ôl ati, yn enwedig yng nghyd-destun y Grŵp Tasg a Gorffen gan y byddai’n rhaid ystyried effeithiau unrhyw benderfyniad ar y darlun mawr.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, cyflwynodd yr aelodau y sylwadau canlynol:

 

-        Nodwyd y bydd cynnydd mewn arolygiadau Estyn y flwyddyn nesaf a mynegwyd pryder am yr holl amser sy’n cael ei ddefnyddio i fwydo gwahanol arolygwyr. Mynegwyd bod angen calendr arolygu fwy cytbwys er mwyn osgoi dyblygu a bod angen canolbwyntio ar wella’r gwasanaethau yn hytrach na bwydo arolygwyr.

-        Eglurodd Cadeirydd y Cydbwyllgor ei bod wedi gofyn i Weinidog Addysg Cymru gynnal cyfarfod gyda holl Aelodau Cabinet Addysg awdurdodau lleol Cymru er mwyn trafod y gyllideb. Awgrymodd y gallai’r aelodau holi am y cynnydd mewn arolygiadau Estyn yn y cyfarfod hwnnw.

-        Tynnwyd sylw at y ffaith bod tudalen goll yn y fersiwn Saesneg o’r adroddiad a gwnaethpwyd gais am gopi o’r dudalen honno.

 

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr addasiadau diweddaraf i’r Gofrestr Risg.

10.

CEFNOGAETH DYSGU PROFFESIYNOL GwE pdf eicon PDF 473 KB

I rannu gwybodaeth ar y Cynnig Dysgu Proffesiynol.

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad a’r cynlluniau i ddatblygu ac esblygu’r Cynnig Dysgu Proffesiynol i’r dyfodol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan egluro fod y Cynnig Dysgu Proffesiynol yn cael ei ddarparu ar dair haen:

 

1.     Y cynnig generig o raglenni dysgu proffesiynol neu’r hyfforddiant sydd ar gael i bawb ar draws y rhanbarth.

2.     Y gefnogaeth dysgu broffesiynol sy’n hyrwyddo cydweithio mewn clystyrau cynradd ac yn y cynghreiriau uwchradd yn ogystal â’r rhwydweithiau dysgu proffesiynol sy’n cefnogi yn yr uwchradd, yn yr ysgolion arbennig ac yn y cynradd.

3.     Y cynnig dysgu proffesiynol penodol sydd ar gael i bob ysgol yn unigol trwy eu cynllun cefnogaeth hwy.

 

Amlygwyd bod y gefnogaeth dysgu broffesiynol yn wahanol ac ar wahân i’r gwaith gwella ysgolion. Esboniwyd bod y cynnig dysgu proffesiynol generig yn eang a chynhwysfawr a’i fod yn deillio o’r blaenoriaethau mwyaf cyffredin ymhlith ysgolion y rhanbarth. Awgrymwyd y byddai modd dadlau bod y cynnig yn rhy eang ond amlygwyd bod y gwasanaeth yn gwasanaethu oddeutu 12,000 o staff dysgu a bod ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod rhywbeth sy’n gweddu i bawb.

 

Nodwyd bod angen gwneud yn siŵr fod y neges am hyfforddiant yn glir a bod angen cydweithio a chefnogi athrawon ac ymarferwyr. Yn ei dro, eglurwyd bod angen ymrwymiad gan y staff y byddent yn rhoi’r hyn maen nhw’n dysgu ar waith yn y dosbarth a bod y sesiynau hyfforddiant yn gyfle da i athrawon gydweithio a rhannu arferion da.

 

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, cyflwynodd yr aelodau’r sylwadau canlynol:

 

-        Nododd yr aelodau eu bod yn gyfforddus ac yn fodlon gyda’r ddarpariaeth yn gyffredinol.

-        Mynegwyd pryder am y modd y noda’r adroddiad nad oes goblygiadau ariannol yn deillio o’r cynnig gan ei bod hi’n amhosibl gwneud rhywbeth masnachol heb fuddsoddi arian ac adnoddau dynol.

-        Yn gysylltiedig â hynny, nodwyd ei bod hi’n bwysig edrych y tu allan i’r ysgolion yng nghyd-destun creu incwm gan fod yr ysgolion dan bwysau ariannol enfawr yn barod.

 

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad a’r cynlluniau i ddatblygu ac esblygu’r Cynnig Dysgu Proffesiynol i’r dyfodol.

 

11.

YMGYNGHORIAD ESTYN AR DREFNIADAU AROLYGU AR GYFER GWASANAETHAU ADDYSG LLYWODRAETH LEOL A GWASANAETHAU GWELLA YSGOLION pdf eicon PDF 262 KB

I ddarparu cofnod ffurfiol i’r Cyd-bwyllgor o’r ymateb i Ymgynghoriad Estyn ‘Trefniadau ar gyfer arolygu gwasanaethau addysg llywodraeth leol a gwasanaethau gwella ysgolion yn y dyfodol’.

 

 

Penderfyniad:

Nodi’n ffurfiol gynnwys ymateb y Cydbwyllgor i ymgynghoriad Estyn.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan esbonio bod Estyn yn cyflwyno trefniadau arolygu newydd ar gyfer darparwyr addysg yng Nghymru o fis Medi 2024 ymlaen. Nodwyd bod Estyn wedi cynnal ymgynghoriad er mwyn ceisio barn unigolion a sefydliadau ar sut orau y gall Estyn ddatblygu canllawiau a dulliau arolygu o 2024 ymlaen. Eglurwyd bod ymateb wedi’u lunio ar ran Cydbwyllgor GwE ar y 27ain o Dachwedd a’i fod yn cael ei gyflwyno heddiw er mwyn i’r cynnwys gael ei nodi’n ffurfiol.

 

PENDERFYNWYD

 

Nodi’n ffurfiol gynnwys ymateb y Cydbwyllgor i ymgynghoriad Estyn.