skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Llangefni. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Nia Haf Davies  01286 679890

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. John Brynmor Hughes (CG), Cyng. Richard Owen Jones (CSYM) a’r Cyng. Dafydd Meurig (CG)

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

 

 

 Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad buddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

 

 Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 275 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 17.11.2017 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

 

 Derbyniwyd cofnodion Pwyllgor a gynhaliwyd ar 1af Chwefror 2018 fel y rhai cywir.

5.

CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL pdf eicon PDF 265 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio (Polisi)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cafwyd cyflwyniad gan Nia Haf Davies yn cynnwys:

 

 Pwrpas Canllawiau Cynllunio Atodol

 Y broses hyd yma

 Camau nesaf ac amserlen

 

ATODIAD 1 - CYNNAL A CHREU CYMUNEDAU NODEDIG A CHYNALIADWY

 

Nodwyd bod y broses o baratoi’r Canllaw yma o bersbectif Cyngor Gwynedd yn destun Ymchwiliad Craffu sy’n cael ei arwain gan Weithgor Craffu. Cyflwynodd y Gweithgor Craffu ei argymhellion i Bwyllgor Craffu Cymunedau. ‘Roedd ei adroddiad yn cynnwys yr argymhellion, ymateb Panel Cynllun Datblygu Lleol (cyfarfod 26 Mawrth 2018), ei ymateb i sylwadau’r Panel, a chwestiynau a sylwadau pellach – gweler tabl 3 yn Atodiad 4 i’r adroddiad i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd. Nodwyd bod Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi cymeradwyo argymhellion y Gweithgor. Gwahoddwyd Cadeirydd Pwyllgor Craffu Cymunedau i gyflwyno’r argymhellion hynny a’r rhesymau amdanynt i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd.

 

Materion a godwyd:

 

Nodwyd byddai derbyn argymhellion 1 ac 1A yn creu polisi newydd ac na fyddai’r drefn yn cyd-fynd â rheoliadau sy’n gosod trothwyon statudol ar gyfer ymgynghori cyhoeddus cyn cyflwyno cais cynllunio. Eglurwyd byddai diwygio’r Canllaw yn unol ag argymhellion 1 a 1A yn golygu risg sylweddol byddai gweithredu yn unol â’r Canllaw yn destun her mewn llys, a risg na fyddai Polisi PS 1 yn derbyn pwysau priodol mewn achos apêl yn erbyn penderfyniad i wrthod cais cynllunio yn seiliedig arno a’r Canllaw. Pe fyddai defnydd o’r Canllaw yn destun her mewn llys byddai’r Cynghorau yn colli’r hawl i’w ddefnyddio, gyda risg sylweddol o gael penderfyniad i ddiddymu’r Canllaw oherwydd ei fod yn mynd tu hwnt i’w gylch gwaith.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â diwygio Polisi PS 1, eglurwyd bod Rheoliadau Cynllun Datblygu Lleol yn eu lle sy’n gosod trefn statudol i wneud hynny. Mae hynny yn golygu dilyn y drefn monitro flynyddol, gwerthuso’r dystiolaeth ddaw o’r gwaith monitro, wedyn penderfynu os oes sail i ddechrau’r broses diwygio’r strategaeth a/ neu bolisïau yn y Cynllun. Pan benderfynir bod sail i wneud diwygiadau, byddai angen mynd trwy drefn statudol - creu fersiwn drafft, ymgynghoriad cyhoeddus, archwiliad cyhoeddus ac yna mabwysiadu’r cynllun diwygiedig.

 

Cynigwyd bod llythyr yn cael ei yrru i Lywodraeth Cymru i holi ynglŷn â’r drefn diwygio polisïau mewn cynllun a’r gallu neu beidio i newid y trothwy ar gyfer gofyn am ymgynghoriad cyhoeddus statudol cyn cyflwyno cais cynllunio.

 

Nodwyd yr angen i sicrhau bod cynnwys y Canllaw ddigon cadarn i’w gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Awgrymwyd gallai’r Pwyllgor ddirprwyo’r hawl i swyddogion gomisiynu gwerthusiad beirniadol o’r Canllaw gan ymgynghorydd cymwys amlddisgyblaeth. Awgrymwyd sgôp i’r gwaith, sef:

 

 Crynhoi a gwerthuso’r cyngor a’r arweiniad a roddir yn Adran 2 ynglŷn â chymhwyso Polisi PS 1 y Cynllun yn ystod y camau cyn ac ar ôl cyflwyno cais cynllunio.

 Dadansoddi’r Canllaw mewn dull cytbwys a nodi ei gryfderau a gwendidau. Nid pwrpas gwerthusiad beirniadol fydd amlygu agweddau negyddol yn unig.

 

 

 Edrych ar y Canllaw a gwerthuso ei lwyddiant, yng ngoleuni ei ddiben.

 Awgrymu mathau o gwestiynau ddylai’r ymgynghorydd ofyn i’w hun wrth ymgymryd â’r gwaith, e.e. beth ydi amcan y Canllaw?  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.