skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Glyder Fawr, Council Offices, Penrallt, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1BN

Cyswllt: Nia Haf Davies  01286 679890

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2018 - 2019

Cofnod:

Cafodd Cyng. Richard Dew ei ethol fel Cadeirydd ar gyfer 2018 - 2019.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2018 - 2019

Cofnod:

Cafodd Cyng. Dafydd Meurig ei ethol fel Is- Gadeirydd ar gyfer 2018 - 2019.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng Dafydd Meurig (CG), Cyng Richard Owen Jones (CSYM) ar Cyng Robin Williams (CSYM)

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad buddiant personol

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 402 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 26.4.2018 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion Pwyllgor a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2018 fel y rhai cywir.     

7.

CYFRIFON TERFYNOL A DATGANIAD LLYWODRAETHU AR GYFER Y PWYLLGOR POLISI CYNLLUNIO AR Y CYD pdf eicon PDF 141 KB

I ystyried adroddiad yr Uwch Reolwr Cyllid (Cyngor Gwynedd)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

            CYFRIFON TERFYNOL A DATGANIAD LLYWODRAETHU AR GYFER Y PWYLLGOR POLISI CYNLLUNIO AR Y CYD

 

Cyflwynwyd adroddiad gan Ffion Madog Evans,  a oedd yn ymateb i ofyniad statudol o dan Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2018 i adrodd yn benodol am gyfrifo ac archwilio cyfrifon Pwyllgorau ar y Cyd.

Eglurwyd fod angen cwblhau ffurflenni swyddogol ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru a byddai’r ffurflenni’n destun archwiliad ar wahân.

Cyflwynwyd copi o’r ffurflenni yn Atodiad A & B. Bydd yr Archwilydd Penodedig, sef Deloitte, yn archwilio’r wybodaeth. Esboniwyd  i’r Pwyllgor bod gwahaniaeth rhwng y gyllideb 2017/ 2018 a’r cyfrifon terfynol 2017/ 2018 yn gysylltiedig â rhai eitemau gwariant, oherwydd, e.e. bod cyfanswm ffi’r Arolygydd i gwblhau’r Archwiliad yn ystod misoedd cyntaf y flwyddyn ariannol yn is na ragwelwyd pan gafodd y proffil gwariant ei baratoi, bod llai o ddogfennau swmpus angen ei cyfieithu o fewn amserlen tyn, ayb.

 

Esboniwyd nad oes angen ail-gyflwyno’r adroddiad i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd ym mis Medi 2018, oni bai bydd angen tynnu sylw’r Pwyllgor at newidiadau argymhellir gan yr Archwilydd Penodedig.

 

 Materion a godwyd:

                      i.        Pam fod cwmni Deloitte wedi cael ei benodi yn hytrach na chwmni lleol?

                     ii.        Beth sydd yn digwydd i’r ‘tanwariant’?

                    iii.        A ddylai’r £280 (Gwerthiannau) yn Atodiad A gael ei gofnodi yn rhes 3 (Cyfanswm derbyniadau arall) yn Atodiad B, er mwyn sicrhau cysondeb rhwng y ddau Atodiad?

Ymateb i’r materion a godwyd:

 

                      i.        Mae’r cwmni’n cael ei benodi gan Swyddfa Archwilio Cymru, ac mae’r cwmni wedi eu hapwyntio yn Archwilwyr i Gyngor Gwynedd a’r cyd- bwyllgorau sy’n bodoli yng Ngwynedd a Môn.

                     ii.        Mae’r arian ar gael i’w fuddsoddi yn yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd a’r gwaith sy’n angenrheidiol yn y flwyddyn ganlynol.

                    iii.        Cytunwyd gyda’r sylw.

 

Penderfyniad:

 

Penderfynwyd i dderbyn a chymeradwyo’r wybodaeth a gyflwynwyd yn Atodiad A ac Atodiad B. Fe gafodd y dogfennau perthnasol eu harwyddo gan y Cadeirydd ar ran Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd