skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Nia Haf Davies  01286 679890

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

 

 

Cllr. John Brynmor Hughes (GC)

Cllr. Dafydd Meurig (GC)

Cllr. Kenneth P Hughes (IACC)

Cllr. Nicola Roberts (IACC)

Cllr. Robin Williams (IACC)

Cllr. Bryan Owen (IACC)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

 

 Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

 

 Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys

4.

COFNODION pdf eicon PDF 134 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 22.06.2018 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

 

 Derbyniwyd cofnodion Pwyllgor a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2018 fel y rhai cywir.

5.

ARDOLL SEILWAITH CYMUNEDOL pdf eicon PDF 504 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio (Polisi)

Cofnod:

Cafwyd cyflwyniad gan Nia Haf Davies a oedd yn rhoddi diweddariad o ran yr Ardoll Isadeiledd Cymunedol (CIL) gan gynnwys felly diweddariad o’r sefyllfa yng Nghymru o dan y drefn ddatganoledig a'i ddyfodol yn y cyd-destun cenedlaethol.

Eglurwyd fod yr Ardoll yn dâl cynllunio a gyflwynwyd gan Ddeddf Cynllunio 2008 fel arf ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr i helpu i gyflawni seilwaith i gefnogi datblygu eu hardal. Mae bellach wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru.

Gofynwyd am yr hawl i ohirio proses o baratoi CIL hyd nes ceir arweiniad clir ynglyn â dyfodol CIL yng Nghymru. Gellir adrodd yn ôl i’r Pwyllgor hwn unwaith y ceir yr arweiniad hwn.

Mater a godwyd:

 Pryd fydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar y mater hwn?

 

Ymateb:

 Nid yw’r Llywodraeth wedi rhoi amserlen i gwblhau’r gwaith. Bydd hyn yn waith manwl ac yn golygu newid mewn deddfwriaeth.

 

Penderfyniad – Derbyn yr argymhelliad i ohirio’r broses o baratoi CIL hyd nes ceir arweiniad clir ynglyn â dyfodol CIL yng Nghymru.

6.

CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL DRAFFT YMGYNGHOROL pdf eicon PDF 371 KB

Cyflwyno adroddiad gan Uwch Swyddogion Polisi Cynllunio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

ATODIAD 1 - CCA LLECYNNAU AGORED MEWN DATBLYGIAD PRESWYL NEWYDD

 

Cafwyd cyflwyniad gan Linda Lee yn rhoddi diweddariad o’r Canllaw hwn ers iddo gael ei gyflwyno i’r Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar y 17 Gorffennaf 2018.

Materion a godwyd:

·         A ddylai llefydd chwarae plant gwrdd â safon penodol bod yn rhan or canllaw?

·         Hoff o’r gofyniad ym mharagraff 2.2.5 sydd yn nodi y bydd y Cyngor yn gofyn am gyfiawnhad gan yr ymgeisydd ar gyfer cynigion sydd â dwysedd is, er mwyn sicrhau nad yw ceisiadau yn ceisio osgoi’r lefel trothwy o 10 neu ragor o anheddau ar gyfer darparu llecynnau agored, mewn achosion lle bo angen am ddarpariaeth o'r fath yn yr ardal.

Ymateb:

·         Rhaid i phob llecyn chwarae gwrdd â safonau cenedlaethol felly nid oes angen cynnwys y mater yn y CCA.

·         Nodi’r sylw

 

Penderfyniad:

Cymeradwyo cyhoeddi’r Canllaw ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus

 

ATODIAD 2 - CCA TAI MARCHNAD LLEOL

Cafwyd cyflwyniad gan Rhodri Owen yn rhoddi diweddariad o’r Canllaw hwn ers iddo gael ei gyflwyno i’r Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar y 17 Gorffennaf 2018.

Nodwyd mai un newid i’r Canllaw gwreiddiol, yn dilyn trafodaethau hefo adrannau Cyfreithiol y ddau Gyngor, ydy ymestyn y cyfnod marchnata’r eiddo i 12 wythnos yng nghamau 1 a 2.

 

Materion a godwyd:

·         A ellir cynyddu maint ôl troed tai marchnad lleol os fydd pobl angen swyddfa adref?

·         A fydd uchafswm ar bris adeiladu neu gwerthu’r tŷ?

·         Faint o dystiolaeth sydd rhaid i ymgeiswyr gyflwyno ac faint o fanylder bydd y Cynghorau yn mynd iddo i asesu’r tystiolaeth? Beth fu’n digwydd os ar ôl i’r tŷ cael ei adeiladu bod y tystiolaeth yn anghywir?

·         A fydd gan ddatblygwyr hawl i godi tai a’u gwerthu ymlaen i bobl gymwys?

 

Ymateb:

·         Swyddfa adref yn ran o ôl troed y tŷ a dim yn ofod ychwanegol. Dyma ydi’r drefn waeth pa fa fath o dy ydi o, gan gynnwys tai fforddiadwy. Gellir defnyddio unrhyw ystafell neu ran o ystafell fel swyddfa..

·         Ni fydd uchafswm ar bris adeiladu neu werthu’r tai marchnad lleol. Fel rhai tai fforddiadwy neu amaethyddol byddant yn ‘fforddiadwy’ i’r sawl sydd a chysylltiad lleol drwy eu dyluniad.

·         Nid yw’r Gwasanaeth Cynllunio eisiau gwneud y broses o gyflwyno ceisiadau yn fwy cymhleth ond mae rhaid sicrhau fod ymgeisydd yn gymwys i fyw mewn tŷ marchnad lleol. Felly mae’n bwysig cael tystiolaeth cadarn. O ran pobl yn cyflwyno tystiolaeth

gwallus yn fwriadol adeg cyflwyno cais cynllunio, bydd modd cymryd camau

gorfodaeth yn eu herbyn a allai olygu mynd a phobl i llys oherwydd bod nhw wedi

twyllo’r system gynllunio.

·         Bydd adeiladwyr yn gallu adeiladu’r tai marchnad lleol ond, fel tai fforddiadwy, bydd

rhaid i’r tai gael eu meddiannu gan bobl sy’n cwrdd â’r gofynion perthnasol. Bydd y

caniatâd cynllunio a fydd yn destun amod neu gytundeb 106 yn sicrhau hynny.

Penderfyniad:

·         Cymeradwyo cyhoeddi’r Canllaw ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus