skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Swyddfeydd y Cyngor, Cyngor Mon, Llangefni LL77 7TW. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bob Thomas / Heledd Jones  01286 685000 / 679883 E-bost: polisicynllunio@gwynedd.llyw.cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Y Cynghorwyr John Brynmor Hughes (CG), Gareth Roberts (CG), Bryan Owen (CSYM) a Richard Dew (CSYM).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 149 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 22 Mawrth 2019 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion Pwyllgor a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2019 fel y rhai cywir. Eglurodd Bob Thomas efallai na fydd Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd ar y 23ain Mai 2019 yn debygol o gael ei gynnal, ac efallai bydd eitemau’r cyfarfod hwn yn cael eu trosglwyddo i’r Pwyllgor Cynllunio ar y Cyd olynol ar 14eg Mehefin 2019.

5.

CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL I'W MABWYSIADU: TAI FFORDDIADWY pdf eicon PDF 79 KB

Cyflwyno adroddiad gan Arweinydd Tîm, Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwyniad gan Bob Thomas yn egluro’r newidiadau i’r canllaw ers iddo gael ei gyflwyno i’r Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar y 22 Mawrth 2019 ac yn gofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo’r ymateb arfaethedig i’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus ynglŷn â’r Canllaw Cynllunio Atodol a mabwysiadu’r Canllaw.

 

Materion a godwyd:

 

·         Codwyd cwestiwn gan y Cyng. Owain Williams ynglŷn â pherthnasedd yr Asesiad Cynaliadwyedd a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ac ail gyflwyno eryr i’r ardal.

·         Cytunodd Cyng. Kenneth Hughes fod ystyr y term “lleolyn y Canllaw yn addas a byddai’n hwyluso pobl lleol i gael tai fforddiadwy.

 

Ymateb:

 

·         Esboniwyd mai barn sgrinio am Arfarniad Cynaliadwyedd ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd o’r Canllaw oedd yr asesiadau â ymgymerwyd yn unol â’r Rheoliadau perthnasol ac nad oedd y sylw’n berthnasol i’r CCA. Fodd bynnag cytunwyd fod y neges yn un pwysig a byddai’n fater i’w godi gyda’r adrannau perthnasol o fewn y Cynghorau unigol yn hytrach nac yn y cyfarfod hwn.

 

PenderfyniadDerbyn yr argymhelliad i gymeradwyo’r ymateb i’r sylwadau a dderbyniwyd am y Canllaw Cynllunio Atodol a mabwysiadu’r Canllaw hwn.

 

I gloi’r cyfarfod fe wnaeth y Prif Swyddog Cynllunio nodi fod Rebeca Jones wedi ei hapwyntio fel rheolwr newydd yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd ac fe fydd yn cychwyn yn y swydd diwedd mis Mai 2019.