skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rebeca Jones  01286 679890

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Nicola Roberts, Cyng. Berwyn Parry Jones, Cyng. John Arwel Roberts , Cyng. Owain Williams (methu cysylltu efo’r cyfarfod oherwydd problemau technegol) a Rebeca Jones (Rheolwr Polisi Cynllunio (GPCC))

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

 

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 117 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 8fed Hydref 2021 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 8 Hydref 2021 fel rhai cywir.

5.

ADRODDIAD ADOLYGU CYNLLUN DATBLYGU LLEOL AR Y CYD pdf eicon PDF 107 KB

I ystyried a chymeradwyo'r Adroddiad Adolygu drafft am gyfnod o ymgynghoriad cyhoeddus o 6 wythnos

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Cymeradwyo'r Adroddiad Adolygu drafft am gyfnod o ymgynghoriad cyhoeddus o 6 wythnos
  • Dirprwyo’r hawliau i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran Amgylchedd, wneud unrhyw newidiadau ansylweddol a allai fod yn angenrheidiol cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus

 

Cofnod:

Rhoddwyd cyflwyniad gan Heledd Jones yn amlinellu pwrpas a’r gwaith yn gysylltiedig â pharatoi Adroddiad Adolygu. Nodwyd mai pwrpas yr Adroddiad Adolygu yw edrych ar yr holl dystiolaeth sydd yn berthnasol i’r CDLl ar y Cyd a dod i gasgliad ynglŷn â’r math o adolygiad bydd yn cael ei ddilyn.

 

Nodwyd hefyd nad diben yr Adroddiad Adolygu yw manylu ar unrhyw newidiadau bydd yn cael eu gwneud i’r Cynllun. Tynnwyd sylw y Panel at y ffaith fod yr Adroddiad Adolygu yn cynnwys y canlynol:-

• Pa wybodaeth sy'n cael ei hystyried i lywio adolygiad o'r Cynllun a pham.

• Sut mae'r canfyddiadau’n effeithio ar weledigaeth, nodau ac amcanion y cynllun, gan gynnwys rhoi'r strategaeth ar waith.

• Adolygiad o bob maes pwnc yn y cynllun gan nodi'n glir beth sydd angen ei newid a pha rannau o'r sail dystiolaeth y mae angen eu diweddaru i gefnogi'r newidiadau.

• Goblygiadau i’r rhannau o’r Cynllun na fwriedir ei ddiwygio o ran cydlyniad ac effeithlonrwydd y Cynllun yn ei gyfanrwydd.

• Ailystyried yr Arfarniad o Gynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Arfarniad Rheoliadau Cynefinoedd.

• Archwilio ac esbonio'r cyfleoedd i baratoi CDLl ar y Cyd gyda ACLlau cyfagos a chynyddu gweithio traws-ffiniol.

• Casgliadau clir ynghylch pam mae angen dilyn y drefn adolygu lawn (sydd gyfystyr a pharatoi Cynllun newydd), neu'r weithdrefn adolygu ffurf fer (sydd gyfystyr ag addasu rhannau o’r Cynllun cyfredol).

 

Yn ogystal fe amlygwyd fod newidiadau wedi cael ei gynnwys i’r Adroddiad yn dilyn adborth gan Tîm Arweinyddiaeth Ynys Môn. Rhain oedd cynnwys cyfeiriad tuag at Cynllun Adfywio Gogledd Ynys Môn, rhan ychwanegol ar gyfer Bioamrywiaeth, man newid i’r rhan Brexit a’r rhan sydd yn cyfeirio tuag at Wylfa Newydd. Cadarnhawyd fod yr Adroddiad Adolygu yn dod i gasgliad ynglŷn â’r angen i gynnal Adolygiad Llawn o’r Cynllun. Ymhellach fe amlygwyd yr amserlen a’r drefn adrodd yn gysylltiedig â derbyn cymeradwyaeth o’r Adroddiad Adolygu.

 

Materion a Godwyd

· Nodwyd y pwysigrwydd o godi ymwybyddiaeth y cyhoedd i’r cyfnod ymgynghoriad er mwyn cael gyn gymaint a phosib i roi mewnbwn ar y materion pwysig mae’r ardal yn ei wynebu e.e. llety gwyliau. Gofynnwyd os bydd datganiad i’r wasg yn cael ei baratoi? · Os yw’r Cynghorau yn gwneud penderfyniad gofynnwyd faint o ddylanwad mae Llywodraeth Cymru yn ei gael arno ni?

· Yn sgil y pwysau i ymgymryd a’r Adolygiad ar frys, mynegwyd pryder yn y llithriad o fis yn yr amserlen. Nodwyd fod yr Adroddiad Adolygu fod i gael ei gyflwyno i’r Llywodraeth erbyn diwedd Tud. 5 3 Ionawr 2022, fodd bynnag y bydd hi’n fis Mawrth ar y Cynghorau mewn sefyllfa i allu wneud hynny. Beth yw’r rheswm am yr oedi yma ac a fydd yr oedi yma yn effeithio ar yr amserlen gyfan?

 

Ymateb

· Fe nodwyd fod aelod o’r wasg yn y cyfarfod ac felly yn debygol o adrodd yn ôl fod cyfnod o ymgynghori ar yr Adroddiad Adolygu am gymryd lle. Bydd y GPCC yn ymgysylltu a’r holl Gynghorwyr, Cynghorau Cymuned, Rhanddeiliaid Allweddol ynghyd a’r holl fudiadau/ unigolion sydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.