skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rebeca Jones  01286 679890

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Berwyn Parry Jones, Cyng. Gareth A Roberts, Cyng. Robin Williams, Cyng. John Pughe Roberts a’r Cyng. Richard Owain Jones

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Mynegwyd cydymdeimlad y Pwyllgor tuag at gyn Cynghorydd Cyngor Sir Ynys Môn, Gareth Winston Roberts. Nodwyd y byddai yno air o gydymdeimlad yn cael ei anfon ato ar ran y Pwyllgor

4.

COFNODION pdf eicon PDF 152 KB

Fe fydd y Cadeirydd yn cynnig fod y cofnodion o’r pwyllgor gynhaliwyd ar yr 22 Hydref, 2021 fel rhai cywir.

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2021 fel rhai cywir.

 

5.

ADRODDIAD ADOLYGU CYNLLUN DATBLYGU LLEOL AR Y CYD – YMATEB I’R CYFNOD YMGYNGHORI CYHOEDDUS pdf eicon PDF 42 KB

I drafod sylwadau derbyniwyd ynghyd a ymateb swyddogion y Gwasanaeth i’r ymgynghoriad cyhoeddus ynghyd a Adroddiad Adolygu wedi ei ddiweddaru.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

i)               Derbyn y newidiadau arfaethedig i’r Adroddiad Adolygu sydd wedi ei gynnig yn Atodiad 2.

ii)              Cymeradwyo yr Adroddiad Adolygu fel yr adroddiad terfynol a fydd yn cael ei gyhoeddi a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Cyngor Llawn Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn.

Cofnod:

Rhoddwyd cyflwyniad gan Rebeca Jones yn amlinellu'r cyfnod ymgynghori cyhoeddus sydd wedi mynd rhagddi yn gysylltiedig â’r Adroddiad Adolygu ac ymateb y swyddogion i’r sylwadau a dderbyniwyd. 

 

Amlygwyd fod posib archwilio’r holl sylwadau a’r ymatebion iddynt yn atodiad 1 o’r papurau.

 

Nodwyd fod yr Adroddiad Adolygu wedi bod yn destun cyfnod ymgynghori cyhoeddus a derbyniwyd 329 o sylwadau gan 48 unigolyn.

 

Nodwyd fod nifer o’r sylwadau a dderbyniwyd yn amherthnasol i’r Adroddiad Adolygu, ond fod yna faterion sydd angen bod yn ystyriol ohonynt wrth baratoi’r Cynllun Diwygiedig wedi cael ei amlygu.

 

Yn dilyn derbyn ac ystyried yr holl sylwadau a dderbyniwyd nodwyd yr angen i gynnal diwygiadau perthnasol i’r Cynllun. Tynnwyd sylw'r Panel at yr angen i gynnal y diwygiadau canlynol i’r Adroddiad Adolygu: -

         Cynnwys cyfeiriad yn rhan 2 o’r ddogfen i:

a. Canllawiau Ddeddf Teithio Llesol (Gorffennaf 2021) (cyhoeddiad Llywodraeth Cymru) b. Croeso i Gymru: Blaenoriaethau i’r Economi Ymwelwyr 2020-2025 (cyhoeddiad Llywodraeth Cymru)

c. Datganiad Ardal Forol (cyhoeddiad Cyfoeth Naturiol Cymru)

ch. Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru

         Cynnwys testun sydd yn rhoi diweddariad ynghylch a’r oedi yn cyhoeddi Nodyn Cyngor Technegol 15 diwygiedig yn Rhan 2

         Cynnwys cyfeiriad tuag at waith ymchwil yn gysylltiedig â ail gartrefi sydd wedi ei gynnal a'r peilot a fwriedir ar gyfer ardal Dwyfor.

         Man newidiadau i’r testun er mwyn cywirdeb.

 

Amlinellwyd yr holl newidiadau sydd wedi ei wneud i’r Adroddiad Adolygu yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus fel  nodwyd yn Atodiad 1.

 

Cadarnhawyd fod yr Adroddiad Adolygu yn dod i gasgliad ynglŷn â’r angen i gynnal Adolygiad Llawn o’r Cynllun a bod y sylwadau a dderbyniwyd yn cytuno efo hyn. Ymhellach fe amlygwyd yr amserlen a’r drefn adrodd yn gysylltiedig â derbyn cymeradwyaeth o’r Adroddiad Adolygu.

 

Amlinellwyd y broses o adrodd ar yr Adroddiad Adolygu i gyfarfodydd o Gyngor Llawn Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd ac yna ei gyhoeddi a’i gyflwyno i’r Llywodraeth.

Materion a Godwyd

·           Nodwyd fod angen bod yn barod am y drafodaeth ynglŷn â’r Adroddiad Adolygu yn y Cyngor Llawn ac ymateb Swyddogion i’r sylwadau sydd wedi ei derbyn yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus.

·         Holwyd ynglŷn â Chynllun Peilot Dwyfor a phryd fydd yna fwy o fanylion yn cael ei gyhoeddi. Mae’r mater ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn fater eithriadol o bwysig i Wynedd a Môn. Mae’n ymddangos fod yna dipyn o drafod o amgylch y pwnc ond ddim yn cael ei weithredu arno.

·         Mynegwyd pryder ynglŷn â’r bygythiad o ffermydd lleol yn cael ei brynu gan gwmnïau mawr er  mwyn plannu coed mewn ymgais i wrthbwyso eu hoel troed carbon. Er cydnabyddir fod newid hinsawdd yn fygythiad aruthrol mae ceisio gwyrdroi cyfraniad allyriadau carbon cwmnïau mawr drwy brynu ffermydd bychan yn fygythiad i gymunedau gwledig Cymreig.  

 

Ymateb

·           Nodi’r sylw

·           Nodwyd mai cynllun y Llywodraeth yw’r Cynllun Peilot a bod unrhyw fanylion ynglŷn beth a sut fwriedir ei weithredu yn brin. Fodd bynnag, nodwyd fod y Llywodraeth wedi datgan eu bwriad i gynorthwyo hefo chael tai  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.