skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rebeca Jones  01286 679890

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

·         Cyng. Anne Lloyd Jones - Personol ac yn rhagfarnu - Y drafodaeth yn ymwneud a’r Canllaw Cynllunio Atodol Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid. Unigolyn hefo diddordeb personol yn y maes hwn

.

·         Cyng Richard Dew - Personol ac yn rhagfarnu - Y drafodaeth yn ymwneud a’r Canllaw Cynllunio Atodol Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid. Unigolyn hefo diddordeb personol yn y maes hwn.

3.

MATERION BRYS

 

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 275 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 29 Ionawr 2021 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2021 fel rhai cywir.

5.

CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL (CCA) I'W MABWYSIADU: CYFLEUSTERAU A LLETY I DWRISTIAID pdf eicon PDF 276 KB

I ystyried a chymeradwyo’r ymatebion arfaethedig i sylwadau am y Canllawiau Cynllunio Atodol Cyfleusterau a llety i dwristiaid a mabwysiadu’r Canllaw.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a mabwysiadu’r Canllaw.

 

Cofnod:

Cafwyd cyflwyniad gan Heledd Jones oedd yn gosod allan y camau hyd yma yn ymwneud a datblygu’r CCA, yn cynnwys yr ymgynghoriadau blaenorol. Nodwyd fod y Gwasanaeth wedi derbyn 15 sylw dilys mewn perthynas â’r CCA. Esboniwyd mai dim ond rhannau penodol o’r CCA oedd yn destun ymgynghoriad yn ystod y cyfnod yma a derbyniwyd 8 sylw na ystyriwyd yn ddilys gan eu bod yn ymwneud a rhannau o’r CCA oedd ddim yn destun yr ymgynghoriad cyhoeddus. Esboniwyd y sylwadau oedd wedi ei dderbyn ag ymateb y Gwasanaeth i’r sylwadau yn cynnwys, ble yn briodol newidiadau oedd y Gwasanaeth yn cynnig ei wneud i’r CCA mewn ymateb i rai o’r sylwadau.

 

Materion a Godwyd

 

Dim materion yn codi

 

Penderfyniad

 

Cymeradwyo’r ymateb arfaethedig i’r sylwadau am y Canllaw Cynllunio Atodol a mabwysiadu’r Canllaw Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid