skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rebeca Jones  01286 679890

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Cynghorydd Owain Williams

Dewi F Jones (Prif Swyddog Cynllunio (CSYM))

Gareth Jones (Pennaeth Cynorthwyol (CG))

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 120 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 28ain Mai 2021 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 28 Mai 2021 fel rhai cywir

5.

ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL CYNLLUN DATBLYGU LLEOL AR Y CYD EBRILL 2019 - MAWRTH 2020 pdf eicon PDF 77 KB

I ystyried a derbyn yr Adroddiad Monitro Blynyddol (Atodiad 1) a chytuno i’w gyflwyno i’r Llywodraeth cyn diwedd Hydref 2021

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr Adroddiad Monitro Blynyddol 2 (AMB2) a chytuno ei gyflwyno i

Llywodraeth Cymru erbyn diwedd Hydref 2021.

 

Cofnod:

Rhoddwyd cyflwyniad gan Rebeca Jones. Amlygwyd fod y cyfarfod o’r Panel a gynhaliwyd ym Medi 2019 wedi cael cyfle i roi sylwadau a’r AMB 2 ac mai bwriad yr adroddiad ger eu bron oedd cymeradwyo’r hawl i’r Awdurdodau gael gyflwyno AMB2 yn ffurfiol i’r Llywodraeth cyn diwedd Hydref. Nodwyd fod cyfyngiadau panedmig Covid wedi golygu nad oedd anghenraid i Awdurdodau fod yn cyflwyno ei Adroddiadau Monitro Blynyddol yn ffurfiol i’r Llywodraeth llynedd (2020), fodd bynnag y byddai rhaid ei gyflwyno cyn diwedd Hydref eleni (2021). Serch y ffaith nad oedd disgwyl i’r Awdurdod gyflwyno’r AMB yn ffurfiol i’r Llywodraeth, mae’r ddogfen wedi cael ei osod ar ffurf drafft ar wefan yr Awdurdodau. Amlinellwyd beth yw pwrpas yr Adroddiad Monitro Blynyddol gan amlygu’r prif newidiadau cyd[1]destunol/materion arwyddocaol sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod cyfnod AMB2. Rhoddwyd trosolwg o gasgliadau allweddol yr AMB gan nodi nad oedd yna unrhyw bryder mewn perthynas â pherfformiad y Cynllun a’i weithrediad yn dilyn o gasgliadau AMB2.

 

Materion a Godwyd

 

Dim i’w nodi

 

Ymateb

 

Dim i’w nodi

 

Penderfyniad

 

Penderfynwyd y Pwyllgor dderbyn yr Adroddiad Monitro Blynyddol 2 (AMB2) a chytuno ei gyflwyno i Llywodraeth Cymru erbyn diwedd Hydref 2021.

6.

ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL CYNLLUN DATBLYGU LLEOL AR Y CYD EBRILL 2020 - MAWRTH 2021 pdf eicon PDF 93 KB

I ystyried a derbyn yr Adroddiad Monitro Blynyddol (Atodiad 1) a chytuno i’w gyflwyno i’r Llywodraeth cyn diwedd Hydref 2021

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd y Pwyllgor dderbyn yr Adroddiad Monitro Blynyddol 3 (AMB3) a chytuno ei gyflwyno i Llywodraeth Cymru erbyn diwedd Hydref 2021.

 

Cofnod:

Rhoddwyd cyflwyniad gan Rebeca Jones yn rhoi cefndir i bwrpas yr Adroddiad Monitro Blynyddol gan amlygu’r prif newidiadau cyd-destunol/materion arwyddocaol sydd yn codi ac angen ei hystyried. Roedd y rhain yn cynnwys cyhoeddi Cymru’r Dyfodol: y Cynllun Cenedlaethol, cyhoeddi Argraffiad 11 o Bolisi Cynllunio Cymru, tynnu Cais Gorchymyn Caniatâd Datblygu Wylfa Newydd yn nôl, cynnydd yn y galw am lety gwyliau yn ardal y Cynllun ac effeithiau Brexit a pandemig Covid. Mewn perthynas â’r dangosyddion sydd wedi ei gynnwys yn y fframwaith fonitro, nodwyd fod 32 ohonynt yn perfformio unol neu’n well na’r disgwyl, 23 wedi methu a chyrraedd y targed sydd wedi ei osod o fewn y dangosydd a bod 5 dangosydd ble nad yw’r canlyniad disgwyliedig wedi ei gyflawni. Nodwyd fodd bynnag fod y dangosyddion sydd yn achosi pryder yn ymwneud a materion sydd allan o reolaeth y Cynllun (e.e. materion yn gysylltiedig â Wylfa Newydd). Cyflwynwyd trosolwg cryno o gasgliadau allweddol yr AMB. Amlinellwyd fod y Cynllun yn parhau i fod yn fframwaith polisi cynllunio sydd yn galluogi gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio sydd yn cwrdd ag anghenion yr ardal. Ymhellach, yn dilyn cyfarfod y Panel, nodwyd fod y weithred ar gyfer y dangosyddion wedi cael ei ddiwygio er cyfeirio at yr angen i ystyried y dangosydd dan sylw fel rhan o’r ddarpar adolygiad o’r Cynllun.

 

Materion a Godwyd

Dim i’w nodi

 

Ymateb

Dim i’w nodi

 

Penderfyniad

 

Penderfynwyd y Pwyllgor dderbyn yr Adroddiad Monitro Blynyddol 3 (AMB3) a chytuno ei gyflwyno i Llywodraeth Cymru erbyn diwedd Hydref 2021.