skip to main content

Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am cyfarfod yma yn unig

 

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Stephen Churchman yn gadeirydd am y cyfarfod.

 

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd am y cyfarfod yma yn unig

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD  ethol  y Cynghorydd John Brynmor Hughes  yn is-gadeirydd am y cyfarfod.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Y Cynghorydd Seimon Glyn (Cyngor Gwynedd), Cynghorydd John P Roberts (Cyngor Gwynedd), Arnold Milburn (Cyngor Tref Llangefni), Mandy Evans (Cyngor Tref Abergele), Nia Jones (Cwmni Fran Wen) a  Medrwn Môn

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2016-2017 pdf eicon PDF 1 MB

I dderbyn Adroddiad Blynyddol y Gronfa Bensiwn 2016-2017

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Adroddiad Blynyddol y Cynllun Pensiwn am 2016/17.

Rhoddwyd sylw penodol i brif faterion yr adroddiad:

 

Perfformiad Buddsoddi

 

Adroddwyd cynnydd o £339m yng ngwerth asedau’r Gronfa o £1,525m (31/03/2016) i £1,864m (31/03/2017). Nodwyd bod y twf sylweddol yma o 22% yn adlewyrchu perfformiad cyffredinol gwych y farchnad stoc eleni a bod rheolwyr buddsoddi'r Gronfa wedi cyrraedd y lefel meincnod yn 2016/17. Cyfeiriwyd yn yr adroddiad at y datganiad o gyfrifon (sydd yn amodol ar gael eu harchwilio gan gwmni Deloittes). Cyfeiriwyd hefyd at y datganiadau asedau net oedd yn parhau’n galonogol, wrth ystyried bod hyn wedi ei adeiladu ar sefyllfa ariannu cymharol ffafriol y Gronfa yn ystod Prisiad 2016. Tynnwyd sylw at y buddsoddiadau gan amlygu perfformiad arbennig buddsoddiadau tramor a pherfformiad rhagorol gan Insight (rheolwr buddsoddi).

 

Adroddodd Adran Actiwari’r Llywodraeth yn ddiweddar i Fwrdd Cenedlaethol Cronfa Pensiwn Llywodraeth Lleol CPLlL (yr “SAB”) ar lefel ariannu pob cronfa ar 31/03/2016. I ganfod cymhariaeth, defnyddiwyd rhagdybiaethau safonol ‘tebyg-wrth-debyg’ (yn hytrach na rhagdybiaethau strategol cyhoeddus y cronfeydd ei hunain). Adroddwyd, rhwng Prisiadau 2013 a 2016, bu i lefel ariannu safonol Cronfa Gwynedd gynyddu 7%, o 102% yn 2013 i 109% yn 2016. Roedd hyn yn rhoi Gwynedd yn y degfed uchaf o’r 89 cronfa CPLlL yn Lloegr a Chymru, a’r uchaf yng Nghymru ar 31/03/2016.

 

Tra defnyddiwyd rhagdybiaethau’r Gronfa ei hun ar gyfer cynlluniau ariannu ac ar gyfer penderfyniadau buddsoddi strategol, nodwyd bod y cymariaethau hyn yn cadarnhau cadernid  strategaeth ariannu Cronfa Gwynedd, gyda thwf sylweddol mewn asedau buddsoddi yn 2016/17 yn adeiladu ar hyn.

 

Partneriaeth Pensiynau Cymru

 

Adroddodd y Cadeirydd bod cynnydd sylweddol wedi ei wneud dros y flwyddyn  i ddatblygu Partneriaeth Pensiynau Cymru i reoli asedau buddsoddi'r wyth Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yng Nghymru ar sail gydweithredol. Roedd y Bartneriaeth bellach mewn sefyllfa i sefydlu Cerbyd Buddsoddi Cyfunol erbyn 1 Ebrill 2018. Pwysleisiwyd na fyddai'r Bartneriaeth yn golygu cyfuno’r wyth gronfa; byddai pob cronfa yn cadw ei hunaniaeth unigryw gyda’r awdurdodau gweinyddol yn parhau yn gyfrifol am gydymffurfio a rheoliadau cynllun CPLlL a’r ddeddfwriaeth pensiwn o safbwynt eu haelodaeth.  Bydd cyfrifon blynyddol a phrisiadau actiwaraidd teirblynyddol yn parhau i gael eu paratoi ar gyfer pob cronfa bensiwn unigol a bydd pob cronfa yn penderfynu ar eu strategaeth ariannu eu hunain

 

Ategwyd, bod yr wyth Cyngor wedi cymeradwyo cytundeb rhyng-awdurdod (Gwanwyn 2017)  gyda’r Bartneriaeth Pensiynau Cymru bellach wedi sefydlu Cydbwyllgor Llywodraethu, sydd yn cynnwys aelodau etholedig o bob awdurdod gweinyddol, sydd yn cael ei gefnogi gan Weithgor Swyddogion. Nodwyd mai'r Cynghorydd Stephen Churchman oedd Cadeirydd y Cydbwyllgor am eleni. Amlygwyd bod yr wyth gronfa bensiwn yng Nghymru wedi dechrau ar y broses Caffael Ewropeaidd ar gyfer Gweithredwr ar gyfer y Cerbyd Buddsoddiadau Cyfunol. Bydd yr ymatebion i’r Gwahoddiad i Dendro gan y Gweithredwyr yn cael eu hasesu a’u sgorio yn Awst/Medi 2017 gyda’r bwriad i’r Cydbwyllgor argymell apwyntio’r cynigydd gorau o ran cyrraedd gofynion y fanyleb. 

 

 

Bwrdd Pensiwn

 

Cyfeiriwyd at adroddiad blynyddol Bwrdd Pensiwn y Gronfa oedd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad. Nodwyd bod y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.