skip to main content

Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod yma

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd John Pughe Roberts yn gadeirydd am y cyfarfod.

 

2.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Ymddiheuriadau - Y Cynghorydd Seimon Glyn (Cyngor Gwynedd), Cynghorydd Peter Read (Cyngor Gwynedd), Cynghorydd Peredur Jenkins (Cyngor Gwynedd), Cynghorydd David Cowans (Cynrychiolydd Cyngor Bwrdeistrefol Conwy), Cynghorydd Aled Evans (Cyngor Gwynedd),Sharon Warnes (Bwrdd Pensiwn), Mandy Evans (Cyngor Tref Abergele), Robert Henderson (Holyhead TC), Wendy Jones (CVSC), Einir Griffiths (Cyngor Gwynedd), Mantell Gwynedd, Gwyn Jones (Ysgol Eirias), Tina Earley (Cyngor Tref Bae Colwyn), Gyrfa Cymru, Jo Cavill (Cymru Gyrfa) a Chyngor Tref Biwmares

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol

 

4.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CRONFA BENSIWN 2018/19 pdf eicon PDF 2 MB

I dderbyn adroddiad blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd 2018/19

Cofnod:

a)    Nodyn gan y Cadeirydd – y Cynghorydd John Pughe Roberts

 

Croesawyd pawb i gyfarfod blynyddol y Gronfa Bensiwn. Mynegodd y Cadeirydd bod 2018/19 wedi bod yn flwyddyn drosiannol gyda 60% o asedau’r gronfa bellach wedi eu trosglwyddo i gronfeydd Partneriaeth Cymru. Nodwyd y cafwyd dychweliadau buddsoddi o 7.6% am y flwyddyn gan asedau’r Gronfa o’i gymharu ar’ gyfartaledd o 6.6% a ddychwelwyd gan gronfeydd CPLlL (a chwartil uchaf o 7.2%). O ganlyniad roedd cyfanswm gwerth y Gronfa yn codi i fwy na 2 biliwn ar 31 Mawrth 2019. Ategwyd bod twf parhaus mewn gwerth asedau yn parhau’n galonogol a’r gronfa mewn sefyllfa gymharol ffafriol gyda’r Actiwari wedi cyhoeddi bod y Gronfa bellach wedi’i ariannu 108% yn y Prisiad ar 31/03/2019. 

 

Eglurwyd, er bod sefyllfa cyflogwyr unigol yn y Gronfa yn wahanol, yn gyffredinol mae cryfder y Gronfa wedi caniatáu cymryd agwedd hyblyg tuag at gyfraddau cyfraniadau cyflogwyr fydd yn effeithiol o Ebrill 2020. Amlygwyd bod y mwyafrif o’r cyflogwyr wedi derbyn hysbysiad o’u lefel cyfraniadau pensiwn diwygiedig, fydd yn eu cynorthwyo gyda’r sefyllfa ariannol yn wyneb y gwasgu parhaus ar wariant cyhoeddus.

 

Diolchwyd i’r holl swyddogion sydd yn gweinyddu’r Gronfa, gyda sylw arbennig i Nicholas Hopkins (Rheolwr yr Uned Weinyddu) a Caroline Roberts (Rheolwr Buddsoddi). Ategwyd bod Nick Hopkins a Caroline Roberts yn ymddeol a dymunwyd ymddeoliad hapus i’r ddau. Cyhoeddwyd bod Meirion Jones wedi ei benodi fel Rheolwr newydd ar gyfer yr Uned Weinyddu a Delyth Jones-Thomas wedi ei phenodi fel Rheolwr Buddsoddi. Llongyfarchwyd y ddau ar eu penodiadau. Diolchwyd i Tony Deakin sydd yn sefyll i lawr fel aelod o’r Bwrdd Pensiwn ers iddo ymddeol am ei gyfraniad i waith y Bwrdd a llongyfarchwyd Osian Richards ar gael ei ethol yn gadeirydd newydd y Bwrdd.

 

b)    Nodyn gan Gadeirydd y Bwrdd Pensiwn (2018/19)  - Mr Tony Deakin

 

Cyfeiriwyd at adroddiad blynyddol Bwrdd Pensiwn y Gronfa oedd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad ynghyd a phrif swyddogaethau’r Bwrdd fel corff sydd yn monitro ac adolygu penderfyniadau’r Pwyllgor Pensiynau a gwaith yr Uned Weinyddu. Mynegodd, o gymharu â chronfeydd eraill, bod y drefn yn llwyddo yng Ngwynedd a bod y Bwrdd wedi cynorthwyo a chyfrannu at lwyddiant y Gronfa. Tynnwyd sylw at y cynllun gwaith a sylw penodol i enghreifftiau o fewnbwn y Bwrdd i fuddsoddi cyfrifol a threfniadau olyniaeth staffio. Nodwyd yr angen i annog cyflogwyr i fabwysiadu meddalwedd technoleg gwybodaeth i-Connect er mwyn sicrhau data glan a chywir i’r dyfodol. Tynnwyd sylw at yr angen a pharodrwydd y Bwrdd i fynychu hyfforddiant er mwyn cadw i fyny gyda gwybodaeth a materion cyfredol. Cymerodd y cyfle i longyfarch Meirion Jones a Delyth Jones-Thomas ar eu penodiadau ac i’w olynydd, Osian Richards, fel Cadeirydd y Bwrdd Pensiwn 2019/20

 

c)    Cyflwyniad y Pennaeth Cyllid Adroddiad Blynyddol y Cynllun Pensiwn am 2018/19

 

Adroddwyd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd mewn sefyllfa gymharol iach gyda gwerth y gronfa wedi cynyddu yn raddol ers 2010, a chynnydd sylweddol o £505m ers y prisiad diwethaf yn 2016.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.