Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod yma

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Peredur Jenkins yn gadeirydd am y cyfarfod.

 

2.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Simon Glyn

 

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol

 

4.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD pdf eicon PDF 2 MB

I dderbyn adroddiad blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd 2020/21

Cofnod:

Croesawyd pawb i gyfarfod blynyddol y Gronfa Bensiwn.

 

a)    Cyflwyniad y Pennaeth Cyllid

 

Mynegodd bod 2020/21 wedi bod yn flwyddyn heriol gyda’r Gronfa wedi llwyddo i gyflawni dychweliadau cadarnhaol. Adroddwyd mai gwerth y Gronfa ar 31/03/2021 oedd £2,515.2 miliwn o gymharu â gwerth 31/03/2020 o £1,938.3 miliwn, gyda’r gwerthoedd wedi bownsio nôl a’r gronfa yn perfformio’n uwch na’r meincnod dros y cyfnod. Ategwyd bod perfformiad cryf y marchnadoedd ecwiti yn 2020/21 yn galonogol iawn, ac yn argoeli yn dda ar gyfer y prisiad nesaf.

Amlygwyd, allan o 100 o gronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol y Deyrnas Unedig, bod perfformiad 2020/21 Cronfa Bensiwn Gwynedd yn 16eg, gyd chynnydd mewn gwerth yr asedau o 29.3% yn sylweddol uwch na’r cyfartaledd o 22.7%. Nodwyd hefyd, wrth edrych dros y tymor hir, bod perfformiad cymharol y Gronfa wedi gwella yn gyson, wrth symud o’r 46ain safle dros yr 20 mlynedd ers 2001, i fod yn 20fed dros y 3 blynedd diwethaf.

Wrth drafod Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC), adroddwyd bod y cydweithio yn mynd o nerth i nerth ers ei sefydlu yn 2017.  Ers y cyfnod clo, amlygwyd bod holl ddigwyddiadau’r bartneriaeth wedi bod yn rhithiol, gyda gwaith yn parhau, cronfeydd newydd wedi’u lansio, a nifer o ddigwyddiadau wedi cymryd lle.  Adroddwyd y bod gan Cronfa Bensiwn Gwynedd fuddsoddiadau mewn pump o is-gronfeydd PPC erbyn diwedd Tachwedd 2021, gyda buddsoddiadau mewn ecwiti byd-eang, incwm sefydlog a marchnadoedd datblygol.

Atgoffwyd pawb o’r buddion sydd wedi eu hennill o fod wedi ymuno a PPC, sydd yn cynnwys ehangu cyfleodd buddsoddi drwy ddefnyddio amryw o reolwyr buddsoddi portffolio, a lleihad mewn ffioedd.  Ym mis Chwefror 2019, sefydlwyd dwy is gronfa (Global Growth a Global Opportunities) gyda buddsoddiad cychwynnol o £303m ymhob cronfa. Erbyn hyn, gyda’r buddsoddiadau wedi bod yn y cronfeydd ers dros ddwy flynedd a hanner, gellid dechrau mesur perfformiad yn ystyrlon.  Mynegwyd bod y cronfeydd wedi perfformio yn eithriadol, gyda Global Growth wedi dychwelyd 3.4%, a Global Opportunities 2.0% yn uwch na’r meincnod ers y cychwyn.

Trosglwyddwyd elfen o fandad ecwiti Fidelity (£166m) i is-gronfa Multi Asset Credit PPC yng Ngorffennaf 2020, a £291m o fandad Insight i is-gronfa Absolute Return Bond PPC yn Hydref 2020.  Er yn gynnar i asesu perfformiad y cronfeydd hyn, nodwyd bod eu perfformiad wedi bod yn uwch na’r meincnod ers eu sefydlu. Ym mis Hydref 2021, trosglwyddwyd y buddsoddiad marchnadoedd datblygol i gronfa newydd PPC gyda 6 rheolwr, yn cynnwys Bin Yuan sy’n arbenigo yn Tsiena.  Erbyn Tachwedd 2021, mae 83% o asedau Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi’u pwlio gyda PPC.

Wrth drafod buddsoddi cyfrifol, sy’n faes blaenoriaeth gan y Pwyllgor a’r Bwrdd Pensiynau, nodwyd bod y Cyngor wedi rhyddhau datganiad yn Chwefror 2021 gyda diweddariad yng Ngorffennaf 2021.  Cyfeiriwyd at Gynhadledd COP26 a gynhaliwyd yn ddiweddar, lle cafwyd trafodaethau rhwng gwledydd y byd am sut i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Cyfeiriwyd hefyd at Wythnos Hinsawdd Cymru ar 22-26 Tachwedd.  Er mai siomedig oedd diweddglo’r gynhadledd COP26, amlygwyd bod Cronfa Gwynedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.