skip to main content

Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod yma

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Stephen Churchman yn gadeirydd i’r cyfarfod.

 

2.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Robin Williams (Cynrychiolydd Cyngor Ynys Môn), H Eifion Jones (Aelod Bwrdd Pensiwn), Sioned Parry (Aelod Bwrdd Pensiwn), Wendy Jones (Cymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy),  Karen Nelson (Grŵp Llandrillo Menai), Rebecca (Menter Mon) Jo Cavill (Gyrfa Cymru), Geraint Owen (Cyngor Gwynedd), Alwen Williams (Bwrdd Uchelgais Economaidd), Gwyn Jones (Ysgol Eirias), Sue Hill (ABM Catering), Dave O’Neill (Cymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy), Nia Murray (Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri), Carys Edwards Ynys Mon), Amanda Davies (Byw’n Iach), Sion Wyn Hughes (Cyngor Tref Caernarfon), Caren Byron (Gyrfa Cymru), Rachel Lees (Cyngor Tref Conwy) a Rick Mills (Cyhoedd)

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol

 

4.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2021/22 pdf eicon PDF 3 MB

I dderbyn adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd 2021/22

Cofnod:

Croesawyd pawb i gyfarfod blynyddol y Gronfa Bensiwn.

 

Cyflwyniad Cyfarwyddwr y Gronfa

 

Adroddwyd bod gwerth y Gronfa Bensiwn wedi cynyddu o £2,528 miliwn i £2,776 miliwn a ystyriwyd yn gynnydd sylweddol o £248 miliwn yn ystod 2021/22. Ategwyd, er cyfnod yr ansicrwydd a oedd yn y marchnadoedd byd-eang yn nechrau 2020, cafwyd cyfnod hir o adferiad, ac er yn perfformio tu ôl i’r meincnod, cafwyd perfformiad cryf o 10.0% gan y Gronfa, sydd bellach yn y chwartel uchaf o’r cronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol CPLlL (cyf ystadegau swyddogol PIRC am 2021/22).

a)         Gweinyddiaeth Pensiynau:

Yn ystod 2021/22 adroddwyd bod defnydd y system ‘Fy Mhensiwn Ar-leinyn cynyddu yn flynyddol, gyda dros 16,000 wedi cofrestru hyd yma ac oddeutu 500 o aelodau yn defnyddio’r safle pob mis. Anogwyd cyflogwyr i hyrwyddo’r safle yn y gweithle i sicrhau bod staff yn cymryd mantais o’r gwasanaethau a gynigir. Nodwyd bod cwmni meddalwedd yn y broses o greu fersiwn newydd o’r system hunan wasanaeth a bod bwriad o  lansio’r system yn ystod Gwanwyn 2023 ynghyd ag ymgyrch i gynyddu aelodaeth y Gronfa. Eglurwyd bod yr Uned Weinyddu hefyd yn y broses o uwch-lwytho slipiau pensiwn y pensiynwyr i’r safle fydd yn galluogi’r pensiynwyr i weld eu slipiau pensiwn pob mis

Adroddwyd ar ddefnydd system i-Connect sydd yn diweddaru data tâl a chyfraniadau ar y system yn fisol. Ategwyd bod i-Connect yn darparu buddion sylweddol i aelodau CPLlL drwy gyflwyno data clir, cywir ac amserol a bod 100% o gofnodion aelodau yn cael eu diweddaru trwy’r system bellach. Diolchwyd i’r holl gyflogwyr am ddefnyddio’r system.

 

Tynnwyd sylw at Arolwg Boddhad Aelodau sydd yn cael ei anfon at aelodau’r Gronfa ar ddiwedd pob proses, e.e. ymddeoliadau a thalu ad-daliadau, i’r aelodau roi eu barn ar ansawdd y gwasanaeth a dderbyniwyd ac am y gwasanaeth a ddarperir gan staff yr adran.

Adroddwyd bod dros 96% o aelodau unai yn cytuno’n gryf neu’n cytuno bod ansawdd y gwasanaeth o safon uchel, a bod 98.12% o’r defnyddwyr yn cytuno’n gryf neu’n cytuno bod ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan y staff o safon uchel. Er mwyn cyflawni’r sgoriau uchel hyn, nodwyd bod cydweithrediad y cyflogwyr yn hanfodol, a diolchwyd i’r cyflogwyr am eu parodrwydd i ddarparu’r wybodaeth yn brydlon.

 

b)  Perfformiad Buddsoddi

Bod Gwerth Marchnad y Gronfa yn £1.9 Biliwn yn 2020  (ar ôl cwymp Covid Mawrth 2020). Erbyn diwedd Mawrth 2021, roedd Gwerth Marchnad y Gronfa yn £2.5 Biliwn  (gyda’r farchnad stoc wedi atgyfodi i’w lefel cyn Covid erbyn diwedd Mai 2021). £2.775 Biliwn ar 31 Mawrth 2022)  ond £2.628 Biliwn ar 30 Medi 2022 wedi 6 mis caled i’r farchnad stoc gyda’r dirwasgiad byd-eang

Wrth amlygu perfformiad y Gronfa yn erbyn y meincnod, nodwyd er bod methiant i guro’r meincnod yn siom, roedd hyn o ganlyniad i gael portffolio byd-eang gyda dibyniaeth mewn marchnadoedd datblygol (oedd yn cynnwys Rwsia a China), ac hefyd o’r penderfyniad i fuddsoddi mewn prosiectau sydd yn parchu’r amgylchedd yn hytrach na dal stociau ynni  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.