Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Selwyn Griffiths a Dewi Owen. Dylan Davies (Cynrychiolydd Rhieni /
Llywodraethwyr Meirionnydd), Anest Gray Frazer (yr Eglwys yng Nghymru) a David
Healey (ATL) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol
gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 24 Ionawr, 2019 fel rhai cywir (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 24 Ionawr, 2019 fel rhai cywir. |
|
YMGYNGHORIAD AR Y COD DRAFFT ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A'R RHEOLIADAU ARFAETHEDIG PDF 90 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas Ystyried
adroddiad ar yr uchod (ynghlwm). *10.30yb
– 11.15yb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg yn crynhoi prif egwyddorion y Cod Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol, y
gwaith cynllunio ar gyfer y newidiadau a’r risgiau i’r awdurdod. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion
ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr
aelodau. Crynhowyd
prif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:- ·
Bod
y pwyllgor yn gwerthfawrogi’r adroddiad cynhwysfawr a baratowyd gan yr Uwch
Reolwr ADY a Chynhwysiad mewn ymateb i’r ymgynghoriad. ·
Er
gwaethaf honiad y Llywodraeth y byddai’r newidiadau’n gost-niwtral, bod y
pwyllgor yn llwyr dderbyn yr eglurhad a roddwyd gan yr Uwch Reolwr ADY a
Chynhwysiad, ac a ategwyd gan y Pennaeth Addysg, nad yw’n gost-niwtral, yn
enwedig o ystyried bod yr oedran yn cael ei ymestyn o 0-25, ac yn cynnwys plant
cyn ysgol a phobl ifanc sydd wedi gadael yr ysgol. ·
Bod
yna bryder ynglŷn â chapasiti, nid yn unig yn nhermau’r costau ychwanegol,
ond hefyd o safbwynt nifer y staff â’r arbenigedd ac adnoddau digonol, ac ati. ·
Bod pryder hefyd wedi’i fynegi, yn enwedig o ochr yr
undebau, ond gan yr Adran hefyd, ynglŷn â’r pwysau gwaith ar gydlynwyr, o
ystyried mai’r pennaeth yw’r cydlynydd sy’n gwneud y gwaith ychwanegol mewn
nifer o ysgolion bychain. ·
Bod
yr aelodau’n cyd-weld â’r cyfeiriad o safbwynt ymyrraeth gynnar gan fod hynny’n
gwella’r sefyllfa i’r plentyn ac yn sicrhau ymdrin â phroblemau’n gynnar. ·
Bod pryder wedi’i fynegi ynglŷn â’r
Tribiwnlysoedd Addysg a rhaid sicrhau a pharhau i adolygu’r gefnogaeth i’r
cydlynwyr, ac roedd hwyluso materion yn electroneg am fod o gymorth yn hyn o
beth. ·
Bod rhaid sicrhau bod cydweithio’n digwydd, yn enwedig
gyda’r Bwrdd Iechyd, gan sicrhau eglurder ynglŷn â rolau a
chyfrifoldebau. Mynegwyd pryder nad oedd
swyddog arweiniol clinigol addysg dynodedig wedi ei benodi eto gan fod hon yn
swydd strategol ac allweddol. ·
Bod
angen cyfarch y diffyg seicolegwyr addysg sy’n gallu gwneud y gwaith trwy
gyfrwng y Gymraeg. Mynegwyd pryder nad
oedd digon ohonynt yn cael eu hyfforddi ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd ac
awgrymwyd y dylid cysylltu â Phrifysgol Bangor i geisio annog myfyrwyr Seicoleg
Cymraeg i ystyried gyrfa fel seicolegwyr addysg. ·
Nodwyd
y gofynion ychwanegol ar yr awdurdod o safbwynt plant mewn ysgolion annibynnol,
ac yn enwedig plant sy’n derbyn addysg gartref, gan ei bod yn anodd eu
cyrraedd. ·
Bod
yr aelodau’n rhannu pryderon y Gwasanaeth ynglŷn â’r newidiadau
arfaethedig ac yn cefnogi’r swyddogion yn eu hymdrech i gyflwyno safbwynt y
pwyllgor i’r Cynulliad. ·
Bod
yna bryderon y byddai’r newidiadau, o bosib’, yn mynd yn groes i’r hyn oedd yn
cael ei wneud yng Ngwynedd, a mawr hyderid bod modd dod o hyd i ryw lwybr yn y
canol sy’n dderbyniol gan bawb. |
|
SWYDDFEYDD ADDYSG ARDAL - PROSIECTAU LLEIHAU BAICH PDF 112 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas Ystyried adroddiad ar yr
uchod (ynghlwm). *11.15yb
– 12.00yp Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg yn gwahodd sylwadau’r pwyllgor ar:- ·
Gyfeiriad
y Swyddfeydd Addysg Ardal o 2019/19 ymlaen; ·
Y
diffiniad o bwrpas addysg yng nghyd-destun Ffordd Gwynedd; ·
Y
prosiectau lleihau baich gwaith penaethiaid. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion
ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr
aelodau. Crynhowyd
prif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:- ·
Croesawyd
bod cefnogaeth yn parhau i adnabod ffyrdd o leihau’r baich ar y penaethiaid, a
heriwyd oes yna lefydd eraill lle gellir gwella neu leihau’r baich ymhellach. ·
Bod her ariannol i sicrhau bod trefniadau’r swyddfeydd
ardal yn hunangynhaliol, ond roedd yr Adran yn ffyddiog y gellid sicrhau hynny. ·
Ei
bod yn ymddangos bod ychydig o aneglurder ynghylch rôl y Byrddau Craffu Addysg
ardal ar hyn o bryd, a bod lle i wella ar hynny a gwella dealltwriaeth yr
aelodau o hynny. ·
Bod
angen adroddiad cyfansawdd ar y prif negeseuon, ymatebion yr Awdurdod a pha
wahaniaeth roedd y Byrddau Craffu Addysg Ardal yn wneud. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL ADDYSG 2017-18 PDF 184 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas Ystyried adroddiad ar yr
uchod (ynghlwm). *12.00yp
– 12.30yp TORIAD I GINIO – 12.30yp – 1.30yp Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd - adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg yn amgáu Adroddiad Blynyddol Addysg 2017/18. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion
ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr
aelodau. Crynhowyd
prif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:- ·
Bod yr Adroddiad Blynyddol yn galluogi i’r aelodau
gael diweddariad ar nifer o eitemau a chael craffu beth sy’n digwydd ym meysydd
ADY, TRAC ac iaith, a safonau i raddau, a mynegwyd gobaith y byddai mwy o
wybodaeth ar gael ar hynny'r flwyddyn nesaf. ·
Bod
craffu cyrhaeddiad yn eithriadol anodd ar hyn o bryd a holwyd oedd lle i
alluogi aelodau’r pwyllgor craffu i gael mwy o wybodaeth er mwyn gallu craffu a
chraffu fod ymyrraeth briodol yn cael ei roi gan yr Awdurdod trwy GwE? |
|
CAIS CYNLLUN TWF AR GYFER GOGLEDD CYMRU - DIWEDDARIAD CYNNYDD PDF 76 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn Ystyried adroddiad ar yr
uchod (ynghlwm). *1.30yp –
2.30yp Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd - adroddiad yr Arweinydd yn rhoi
diweddariad ar y Cynllun Twf i Ogledd Cymru ac yn cyflwyno’r Cynllun Gweithredu
Drafft. Ymhelaethodd yr Arweinydd a’r Cyfarwyddwr
Corfforaethol ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau
gan yr aelodau. Crynhowyd
prif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:- ·
Gwerthfawrogwyd
bod y gwaith yn symud yn ei flaen a chroesawyd y cyfle i herio o safbwynt yr
Awdurdod i sicrhau atebolrwydd i Wynedd. ·
Cafwyd
dealltwriaeth o’r sefyllfa gyfredol o ran y corff atebol, a bod y rôl hon gan
Wynedd ar hyn o bryd. Gan hynny, roedd
modd sicrhau bod egwyddorion Gwynedd e.e. trefniadau caffael a chadw’r budd yn
lleol yn derbyn sylw. ·
Y
gwelwyd bod y rhaglen yn uchelgeisiol.
Awgrymwyd efallai bod lle i ymgysylltu’n well gyda phrosiectau sydd wedi
methu yn ddiweddar a bod lle hefyd i geisio denu arian y tu hwnt i’r Cynllun
TWF, e.e. prosiect morlyn ar draws arfordir y Gogledd. ·
Bod angen cysylltu Rhwydwaith Seren gyda’r math o
gynlluniau a'r math o ofynion / sgiliau sy’n dod o’r cynlluniau yma er mwyn dod
â’r byd busnes a’r byd addysg yn agosach at ei gilydd. ·
Bod
angen eglurder ynghylch sut i sicrhau arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin a
chronfeydd eraill ar gyfer prosiectau llai / eraill i’r dyfodol. ·
Bod
rhaid ymateb i Brexit, waeth beth fydd yn digwydd maes o law. ·
Y
mawr obeithid y byddai modd bwrw ymlaen â’r Cynllun Twf yn fuan, heb unrhyw
oedi pellach, oherwydd y rhagwelid bod yna gyfleoedd cyffrous yn mynd i godi. |
|
EFFAITH DIGWYDDIADAU YNG NGWYNEDD PDF 84 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Ioan Thomas Ystyried adroddiad ar yr
uchod (ynghlwm). *2.30yp
– 3.00yp *amcangyfrif o’r amseroedd Cynhelir sesiwn anffurfiol ar gyfer yr
aelodau ar derfyn y cyfarfod. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd - adroddiad yr Aelod Cabinet
Datblygu’r Economi yn dangos effaith y digwyddiadau a gefnogir gan y Cyngor ar
Wynedd. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion
ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr
aelodau. Crynhowyd
prif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:- ·
Bod yr adroddiad yn hynod ddiddorol ac yn dangos bod y £50,000 o
adnoddau a ddyrannwyd i gefnogi digwyddiadau yn ystod 2019 yn mynd yn bell
iawn. ·
Ei bod yn galonogol iawn gweld bod digwyddiadau’n cael eu cynnal
ledled y sir. |