Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol Cadeirydd
ar gyfer 2019/20. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Etholwyd y Cynghorydd Paul Rowlinson yn
gadeirydd y pwyllgor hwn ar gyfer 2019/20. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol
Is-gadeirydd ar gyfer 2019/20. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Etholwyd y Cynghorydd Elwyn Jones yn
Is-gadeirydd y pwyllgor hwn ar gyfer 2019/20. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr:- Huw Wyn Jones, Mair Rowlands,
Gareth Williams; David Healey (ATL); Y Cynghorydd Cemlyn Rees Williams (Aelod
Cabinet Addysg). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn
bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 21 Mawrth, 2019 fel rhai cywir
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 21 Mawrth, 2019 fel rhai cywir, yn
amodol ar ychwanegu cyfeiriad at edrych ar y posibilrwydd o gydweithio gyda
siroedd y Gorllewin dan eitem 8 - Cais Cynllun Twf ar gyfer Gogledd Cymru. |
|
STRATEGAETH IAITH UWCHRADD PDF 116 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams Ystyried
adroddiad ar yr uchod (ynghlwm). *10.30yb – 11.30yb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg yn manylu ar weithrediad ac effaith y Strategaeth Iaith Uwchradd. Ymhelaethodd y Pennaeth Addysg a’r
swyddogion ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau
gan yr aelodau. Oherwydd y cyd-blethu amlwg rhwng y
Strategaeth Iaith Uwchradd a Siarter Iaith Gymraeg Ysgolion Cynradd Gwynedd,
craffwyd y Siarter Iaith Cynradd hefyd cyn crynhoi’r prif gasgliadau’r
trafodaethau ar y ddwy eitem ar y diwedd. |
|
SIARTER IAITH GYMRAEG YSGOLION CYNRADD GWYNEDD PDF 66 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams Ystyried
adroddiad ar yr uchod (ynghlwm). *11.30yb – 12.30yp *amcangyfrif o’r amseroedd Cynhelir sesiwn anffurfiol ar gyfer yr aelodau ar derfyn y
cyfarfod. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg yn manylu ar weithrediad Siarter Iaith Gymraeg Ysgolion Cynradd Gwynedd. Ymhelaethodd y Pennaeth Addysg a’r
swyddogion ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau
gan yr aelodau. Crynhowyd
y prif gasgliadau a’r argymhellion yn codi o’r drafodaeth ar y Strategaeth
Iaith Uwchradd a’r Strategaeth Iaith Cynradd fel a ganlyn:- ·
Bod neges glir gan yr aelodau i fod yn cadw troed ar y
sbardun a pharhau gyda’r bwrlwm, ayb, gan ddarparu cefnogaeth i sicrhau bod
hynny’n digwydd. Mae hynny’n benodol er
mwyn sicrhau rhoi statws i’r Siarter Iaith, fel rhan o’r cwricwlwm newydd (er
bod peth pryder ei fod yn rhedeg ochr yn ochr, yn hytrach nag yn rhan greiddiol
ohono), a hefyd er mwyn sicrhau bod statws i'r Siarter Iaith fel rhan o
gynlluniau pob un ysgol. ·
Bod neges hefyd ynglŷn â rhannu arferion da, gan
sicrhau bod hynny’n digwydd yn y cynradd a’r uwchradd yn gyffredinol, a hefyd
bod angen adnabod ymarferion da mewn meysydd diddordeb newydd, lle rydym
efallai angen canolbwyntio mwy ar yr ochr gwefannau cymdeithasol, y we,
rhaglenni teledu ayb. ·
Bod
neges hefyd ynglŷn â’r gwaith sy’n ddibynnol ar yr holl staff o fewn ein
hysgolion ac anogaeth gref i geisio lledaenu’r neges y tu hwnt i ffiniau’r
ysgol, gyda rhieni a’r gymdeithas yn fwy cyffredinol. ·
O
ran y data, bod gwell dealltwriaeth ymysg yr aelodau o’r data a gyflwynwyd i’r
cyfarfod hwn, ond efallai bod lle i ystyried ail ymweld â’r gwaelodlin
gwreiddiol a diweddaru aelodau’r pwyllgor maes o law pan fydd astudiaeth y
Llywodraeth i’r maes yn aeddfed. ·
Yn
benodol o ran y Strategaeth Iaith Uwchradd, bod lle i ystyried ymestyn yr
holiadur ar gyfer pobl ifanc hŷn (y grŵp oedran 16-18) er mwyn gweld
oes yna wersi i’w dysgu, ac o ddysgu’r gwersi, addasu’r cymorth a’r gefnogaeth
a’r ymyrraeth sy’n cael eu cynnig. ·
Bod
lle hefyd i fod yn gwthio’r gweithio gyda’r disgyblion i annog mwy o
ddwyieithrwydd a bod hynny’n digwydd yn barhaus o fewn ein hysgolion gan annog
disgyblion i ddilyn cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg yn benodol. Hefyd, dylid sicrhau cefnogaeth i’r athrawon,
i’r gweithwyr ieuenctid ac i bawb sydd ynghlwm â hyrwyddo’r Strategaeth Iaith i
fod yn cynorthwyo gyda’r Strategaeth yn yr uwchradd a’r Siarter iaith cynradd. ·
Bydd
angen edrych y tu allan i’r pwyllgor ar sut y gall yr aelodau gael blas o’r
hyfforddiant seicoleg iaith. ·
Bydd angen rhoi sylw yng nghyfarfod anffurfiol y
pwyllgor i ambell fater arall a gododd yn ystod y drafodaeth, ond nad oedd yn
uniongyrchol gysylltiedig â’r ddau faes dan sylw, sef yr angen i gadw golwg ar
yr hyn sy’n digwydd o ran datblygiadau penodiadau categorïau iaith ysgolion,
diffyg gwerslyfrau / deunyddiau Cymraeg i ddisgyblion ysgol a phrinder myfyrwyr
yn arwain at ddiswyddiadau yn Ysgol Addysg Prifysgol Bangor. |