skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Anest Gray Frazer (Eglwys yng Nghymru), Dilwyn Elis Hughes (UCAC) a Dylan Huw Jones (NASUWT).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 420 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Hydref, 2020 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Hydref, 2020 fel rhai cywir.

 

5.

TWF ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 701 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y pwyllgor craffu o’r farn bod y Cynllun Busnes; Cytundeb Llywodraethu 2; y model ariannu a’r trefniadau gweithredu yn glir a chadarn fel sail i gyflawni amcanion y Cytundeb Twf er budd busnesau a thrigolion Gwynedd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad Arweinydd y Cyngor / Cadeirydd y Bwrdd Uchelgais yn nodi y paratowyd pecyn o’r dogfennau oedd eu hangen ar gyfer cyrraedd Cytundeb Terfynol ar Gynllun Twf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.  Nodwyd y bwriedid cyflwyno adroddiad i’r Cabinet ar 24 Tachwedd, 2020, ac yn ddibynnol ar benderfyniad y Cabinet, byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 3 Rhagfyr, 2020, yn argymell bod y Cyngor:-

 

·                Yn cymeradwyo'r Cynllun Busnes Cyffredinol fel y ddogfen sy'n nodi'r trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru fel sail ar gyfer ymrwymo i'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.

·                Yn cymeradwyo ymrwymo i Gytundeb Llywodraethu 2 ac yn benodol yn mabwysiadu'r trefniadau ar gyfer Craffu “Cytundeb Llywodraethu 2: Atodiad 3” ohono fel sail ar gyfer cwblhau'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru. 

·                Awdurdodi'r Corff Atebol, Cyngor Gwynedd, i lofnodi'r llythyr Cynnig Cyllid Grant ar ran y Partneriaid.

·                Argymell cymeradwyo'r dull a ddefnyddir i gyfrifo cost benthyca mewn egwyddor sydd ei angen i hwyluso'r llif arian negyddol ar gyfer y Cynllun Twf, a'r cyfraniadau partner blynyddol cyfatebol sydd eu hangen i gwrdd â'r gost hon fel sydd wedi'i nodi yn GA2 (ac ym mharagraffau 5.5 - 5.7 o’r adroddiad).

·                Bod yr Arweinydd, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr, y Swyddog Monitro a'r Swyddog Adran 151, yn derbyn awdurdod dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i'r dogfennau gyda'r Partneriaid fel sydd angen i gwblhau'r cytundeb.

 

Cyn argymell i’r Cyngor wneud y penderfyniadau hyn, roedd yn ofynnol i’r pwyllgor craffu ystyried os oedd y Cynllun Busnes, Cytundeb Llywodraethu 2, y model ariannu a’r trefniadau gweithredu yn glir a chadarn fel sail i gyflawni amcanion y Cytundeb Twf er budd busnesau a thrigolion Gwynedd.

 

Croesawodd y Cadeirydd yr Arweinydd, yn rhinwedd ei swyddogaeth fel Cadeirydd y Bwrdd Uchelgais, y Cyfarwyddwr Portffolio a’r swyddogion eraill i’r cyfarfod, gan bwysleisio bod yr adroddiad yn benllanw gwaith nifer o flynyddoedd o ddatblygu’r cynllun. 

 

Yna gwahoddwyd Cadeirydd y Bwrdd Uchelgais i osod y cyd-destun a rhoi diweddariad bras o’r sefyllfa.  Gofynnwyd iddo hefyd wneud sylw ynglŷn â Wylfa B a Brexit yn ystod ei gyflwyniad.

 

Yn ystod ei gyflwyniad, nododd Cadeirydd y Bwrdd Uchelgais:-

 

·         Y daeth y gwaith i benllanw gyda chwblhau’r holl waith manwl a dyrys o roi’r pecyn at ei gilydd, yn y ffurf oedd yn ofynnol ar gyfer ei gyflwyno i’r ddwy Lywodraeth, a’i gyflwyno a’i fabwysiadu gan y Bwrdd ar 23 Hydref, 2020.

·         Bod hyn yn ganlyniad gwaith sylweddol gan y Swyddfa Portffolio, a sefydlwyd ddechrau’r flwyddyn dan arweiniad y Cyfarwyddwr Portffolio, ac oedd yn cynnwys tîm o swyddogion hynod o alluog a brwdfrydig, oedd yn gosod sylfaen gadarn iawn i faterion datblygu’r economi yn y Gogledd.

·         Bod y tîm yn cydweithio’n agos gyda thîm swyddogion datblygu’r economi Llywodraeth Cymru, a chredid bod eraill yn edrych arnom yn y Gogledd fel esiampl o ymarfer da.

·         Fel swyddogion statudol yr awdurdod lletya, y bu’r Pennaeth Cyllid  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.