skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2021/22.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Beth Lawton yn gadeirydd y pwyllgor hwn am 2021/22.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2021/22.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Cai Larsen yn Is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2021/22.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Cai Larsen yn is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2021/22.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Rheinallt Puw a Dewi Roberts.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 327 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 15 Ebrill, 2021 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 15 Ebrill, 2021 fel rhai cywir.

 

7.

ADDYSG A'R GYMRAEG: GWELEDIGAETH NEWYDD AR GYFER CYFUNDREFN ADDYSG DROCHI TUAG AT 2032 A THU HWNT pdf eicon PDF 430 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a gofyn i’r Adran a’r Aelod Cabinet Addysg gymryd sylw o sylwadau’r pwyllgor, a bod y pwyllgor craffu yn derbyn adroddiad pellach ar hyn pan fydd mwy o fanylder ar gael.

 

Cofnod:

Croesawyd yr Aelod Cabinet Addysg, ynghyd â swyddogion yr Adran Addysg i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd - adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn gwahodd y craffwyr i gyflwyno sylwadau ar y weledigaeth arfaethedig ar gyfer cyfundrefn addysg drochi tuag at 2032 a thu hwnt.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun, gan nodi mai bwriad y weledigaeth newydd oedd adeiladu ar y gwaith da a gyflawnwyd gan y canolfannau iaith dros y degawdau diwethaf, cydnabod gwaith caled y staff, a chyfoesi a moderneiddio’r ddarpariaeth.

 

Nododd y Pennaeth Addysg:-

 

·         Y credai fod hon yn weledigaeth gyffrous, oedd yn gosod seiliau i wasanaeth sydd wedi’i glodfori i fod yn gwneud rhagor o waith da, gan gyfoesi’r gwasanaeth i fod yn rhan o gyfundrefn yr unfed ganrif ar hugain ar gyfer ysgolion.

·         Bod yr Adran a staff y canolfannau iaith yn awyddus i beidio colli gafael ar y gwersi a ddysgwyd yn sgil ail-bwrpasu’r gwasanaeth a chyrraedd mwy o blant mewn ffordd wahanol yn ystod cyfnod y pandemig, ac y dymunid adeiladu ymhellach ar y cryfderau a’r dulliau gweithredu hynny.

·         Bod yr aelodau eisoes wedi derbyn copi o lythyr Estyn at y Prif Weithredwr oedd yn amlygu gwaith yr Awdurdod yn cefnogi ysgolion a phlant yn ystod cyfnod y pandemig, ac yn rhoi canmoliaeth arbennig i waith y canolfannau iaith wrth iddynt fynd ati i ail-bwrpasu’r gwasanaeth.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chyflwyno sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

·         Rhoddwyd cydnabyddiaeth i lwyddiant y canolfannau iaith dros y blynyddoedd i sicrhau bod dysgwyr yn caffael y Gymraeg.

·         Cytunwyd gyda’r bwriad i gryfhau’r atebolrwydd fel rhan o’r weledigaeth newydd.

·         Cefnogwyd y bwriad i arfogi gweithlu’r ysgolion i gefnogi’r dysgwyr i wneud cynnydd pellach i feithrin hyder a chaffael y Gymraeg.

·         Cefnogwyd y bwriad i sefydlu darpariaeth addysg drochi ym Mangor.

·         Gofynnwyd i’r Adran Addysg gyflwyno rhagor o fanylder am y gyfundrefn addysg drochi pan fydd ar gael.

·         Cafwyd amrywiaeth barn ar ffynhonnell gyllido’r gyfundrefn addysg drochi, gyda rhai aelodau yn gefnogol i’r bwriad y byddai ysgolion yn cyfrannu gan gynyddu atebolrwydd a chydberchnogaeth o’r gyfundrefn rhwng yr Adran Addysg a’r ysgolion, ond mynegwyd hefyd ddymuniad i’r Cyngor yn gorfforaethol fod yn ariannu’r bwlch cyllidol yn sgil y ffaith fod y Gymraeg yn un o brif flaenoriaethau’r Cyngor.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         O safbwynt mewnbwn a chyfraniad yr ysgolion i’r weledigaeth a’r gwasanaeth ar ei newydd wedd, y bwriedid ymgysylltu’n anffurfiol â phenaethiaid yr ysgolion ar y weledigaeth newydd.  Hefyd, petai’r gyfundrefn newydd yn dod i rym, roedd yn debygol y byddai bwrdd rheoli yn cael ei sefydlu ar gyfer y gyfundrefn newydd, fyddai’n cynnwys cynrychiolaeth o blith y gyfundrefn ysgolion.  Golygai hynny y gallai’r ysgolion gyfrannu a chyd-berchnogi a siapio’r ddarpariaeth, er mwyn sicrhau bod y gyfundrefn yn ymateb i anghenion yr ysgolion, ac yn cyfoesi ar yr un pryd â datblygiadau addysgol sy’n digwydd ar lawr dosbarth.

·         O safbwynt addysg gydol oes, a’r cyfleoedd allai godi o ran cynnig gwasanaethau i’r gymuned, bod bwriad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

GRANTIAU COVID I FYD ADDYSG I GYNORTHWYO DISGYBLION pdf eicon PDF 601 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a godwyd, gan hefyd obeithio cael diweddariad ar hyn ymhellach ymlaen yn y flwyddyn.

 

Cofnod:

Croesawyd swyddogion yr Adran Addysg a GwE i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwydadroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn manylu ar y Grant Rhaglen Dysgu Carlam a dderbyniwyd gan ysgolion i gynorthwyo disgyblion yn sgil Covid.

 

Manylodd yr Uwch Reolwr Ysgolion ar gefndir ac amodau’r grant, gan nodi bod cyfanswm yr arian a neilltuwyd i ysgolion Gwynedd tua £2,220,440. 

 

Cyfeiriodd Arweinydd CraiddCynradd, GwE at y Dangosfwrdd Cynllunio Grantiau Rhanbarthol a luniwyd gan GwE er mwyn cefnogi ysgolion i gynllunio’n effeithiol ar gyfer gwario’r grantiau, gan hefyd roi trosolwg o’r cynlluniau ysgolion cynradd.  Yna rhoddodd Arweinydd CraiddUwchradd, GwE drosolwg o’r cynlluniau ysgolion uwchradd.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chyflwyno sylwadau.

 

Awgrymwyd, unwaith y bydd yr ysgolion wedi cael cyfle i ddefnyddio’r grant yn llawn, y byddai’n fuddiol derbyn crynodeb o farn penaethiaid, athrawon a disgyblion sydd wedi elwa o’r gefnogaeth ychwanegol, fel bod modd mesur effaith y grant.  Awgrymwyd hefyd y byddai’n fuddiol cael crynodeb o’r arferion da a danlinellwyd gan Arweinyddion CraiddGwE.

 

Mewn ymateb, eglurwyd bod disgwyl i’r penaethiaid gyflwyno gwybodaeth i’r Adran Addysg a GwE yn nhymor yr hydref am effaith y grantiau, a gellid dod â hynny gerbron y craffwyr ar yr adeg hynny.  Nodwyd hefyd bod Llywodraeth Cymru yn awyddus i gael enghreifftiau o’r arferion da y cyfeiriwyd atynt fel bod modd eu rhannu’n genedlaethol.

 

I gloi, pwysleisiodd yr Aelod Cabinet Addysg bwysigrwydd sicrhau cysondeb o ran y ddarpariaeth ar draws y sir.  Mynegodd ei werthfawrogiad o’r gwaith a gyflawnwyd, ond cytunodd nad oedd GwE na’r Adran mewn sefyllfa i roi diweddariad llawn ar hyn o bryd.  Nododd ymhellach ei fod yn ymwybodol o’r gweithgareddau sydd wedi mynd ymlaen, a bod rhannu arferion da yn elfen bwysig iawn o hyn.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a godwyd, gan hefyd obeithio cael diweddariad ar hyn ymhellach ymlaen yn y flwyddyn.

 

9.

RHAGLEN WAITH DDRAFFT CRAFFU 2021/22 pdf eicon PDF 306 KB

Cyflwyno rhaglen waith ddrafft craffu 2021/22 i’w mabwysiadu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu rhaglen waith craffu 2021/22.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd rhaglen waith ddrafft craffu 2021/22 i’w mabwysiadu.

 

Nodwyd bod un eitem wedi llithro o’r cyfarfod hwn.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu rhaglen waith craffu 2021/22.