skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Aled Evans ac Elfed P.Roberts a Ruth Roe (Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr Meirionnydd).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Cai Larsen fuddiant yn eitem 5 ar y rhaglen – Datblygu Fframwaith Adfywio ar gyfer Gwynedd, oherwydd ei fod yn Gadeirydd Bwrdd Cwmni Dre, sef cwmni hyd braich a sefydlwyd gan Gyngor Tref Caernarfon, ac sydd wedi delio gyda rhai o swyddogion Cyngor Gwynedd yng nghyd-destun y Fframwaith Adfywio.  Roedd o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu, a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 270 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr, 2021 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr, 2021 fel rhai cywir.

 

5.

DATBLYGU FFRAMWAITH ADFYWIO AR GYFER GWYNEDD pdf eicon PDF 744 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod, gyda chais am weld y cynlluniau gweithredu yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

 

Cofnod:

Croesawyd yr Aelod Cabinet a swyddogion yr Adran Economi a Chymuned i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned yn gwahodd y pwyllgor i graffu cyfeiriad y Fframwaith arfaethedig, a’r camau sydd wedi’u gwneud yn ystod Cyfnod 1 (Gosod y Sylfeini).  Rhannwyd cyflwyniad ar sgrin hefyd i amlinellu prif agweddau’r adroddiad.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Diolchwyd i’r Gwasanaeth am eu holl waith, a nodwyd y cafwyd cychwyn cadarn a chalonogol iawn i’r broses. 

·         Cefnogwyd cyfeiriad y gwaith a nodwyd bod y Gwasanaeth wedi adnabod nad yw pob ardal yr un fath, a bod angen cynlluniau gwahanol sydd wedi’u teilwrio i anghenion gwahanol yr ardaloedd hynny, a’u bod hefyd yn gweld y Cyngor yn bartner gyda’r cymunedau lleol.

·         Croesawyd y ffaith bod y Gwasanaeth yn gweld y broses fel un â pharhad iddi, yn hytrach nag un digwyddiad.

·         Nodwyd bod y datganiadau ardal yn glir, yn gryno ac yn addysgiadol, ac er yr amheuid dilysrwydd rhai ffigurau, roeddent yn fan cychwyn deialog pellach.

·         Bod rhaid sicrhau deialog gyson ac effeithiol rhwng y Cyngor a chymunedau a mentrau cydweithredol gyda’r nod o adfywio’r bröydd.

·         Bod peth pryder bod hwn eto’n un o’r adroddiadau hynny sydd ar y gweill am gyfnod, ac yn hel llwch wedyn.

·         Y croesaid y ffaith bod yna 48 o randdeiliaid yn Llŷn, ond awgrymwyd y dylai’r Badau Achub gael eu cynnwys hefyd, gan eu bod yn weithgar iawn a chanddynt gyfraniad a llais ynglŷn ag adfywio bro.

·         Nad oedd cyfeiriad yn yr adroddiad at ysgolion cynradd / uwchradd, a gwrando ar lais yr ifanc.

·         Nad oedd cyfeiriad at gyflogwyr mawr yn ardal Porthmadog / Penrhyndeudraeth, megis Portmeirion a Rheilffordd Ffestiniog, na chyfeiriad chwaith at Safle Treftadaeth y Byd Llechi Cymru, fydd hefyd yn gweithio i adfywio ein hardaloedd.

·         Bod y cynghorau cymuned a thref yn allweddol i’r drafodaeth, a bod angen i’r Cyngor hwn gydweithio â hwy a pheidio meddwl ei fod yn uwch na hwy, a’u bod hefyd yn medru codi arian i wario yn eu cymunedau eu hunain.

·         Bod y defnydd o’r matrics RACI i’w groesawu, gan ei fod yn fodd o hwyluso ymgynghoriad lle mae yna lawer o randdeiliaid, drwy adnabod y rhanddeiliaid allweddol ar gyfer pobl agwedd.

·         Mai un o fanteision y Fframwaith oedd bod modd i’r cymunedau gyfeirio at y dystiolaeth i’w cynorthwyo i ddenu nawdd a grant.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         Fel rhan o’r trefniadau ar gyfer y gwaith ymgysylltu, byddai fersiynau papur o’r holl ddeunydd ar gael mewn gwahanol swyddfeydd.  Roedd y gwasanaeth yn awyddus hefyd i weld cyswllt gyda’r llyfrgelloedd o ran darpariaeth a chefnogi petai aelodau o’r cyhoedd yn awyddus i gyfrannu at y gwaith, ond yn ansicr o’r trefniadau ar y platfform digidol.  Byddai angen casglu data hefyd o ran manylion yr unigolion a’r grwpiau sy’n cyflwyno sylwadau er mwyn gwneud asesiad effaith cydraddoldeb ar y gwaith.

·         Y cytunid bod yr amserlen eithaf heriol a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

AFLONYDDU MEWN YSGOLION

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a chroesawu’r gwaith, gyda chais am ddiweddariad fel mae amser yn mynd heibio.

 

Cofnod:

Croesawyd yr Aelod Cabinet a swyddogion yr Adran Addysg i’r cyfarfod.

 

6a

AFLONYDDU AR BENAETHIAID YSGOLION, ATHRAWON A STAFF YSGOLION TRWY GYFRYNGAU CYMDEITHASOL pdf eicon PDF 304 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn ymateb i gais gan aelodau’r pwyllgor am gyflwyniad ar aflonyddu ar athrawon a staff ysgolion trwy gyfryngau cymdeithasol.  Roedd yr adroddiad hefyd yn rhannu gwybodaeth am yr hyn sydd wedi’i wneud a’i gyflawni gan yr Adran Addysg er mwyn bod o gymorth i ysgolion ddelio â sefyllfaoedd ble mae hynny’n digwydd.

 

Nododd y Pennaeth Addysg, ers paratoi’r adroddiad, bod y Grŵp Strategol Penaethiaid Uwchradd wedi trafod y sefyllfa ymhellach yn eu cyfarfod ar 2 Chwefror, a’i bod yn amlwg bod y sylw a roddwyd i’r mater wedi gweithio, gan fod y sefyllfa wedi tawelu a neb wedi adrodd achos o aflonyddu ers i’r llythyr i rieni / gofalwyr gael ei anfon.  Byddai’r Adran yn parhau i fonitro a chefnogi petai achos yn dod i’w sylw.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Diolchwyd i’r Pennaeth Addysg am y llythyr i’r rhieni / gofalwyr, a nodwyd ei fod yn fyr, yn hollol glir ac yn creu naws briodol.  Croesawyd y cyfeiriad at ‘rai’ disgyblion a ‘rhai’ achosion, a’r anogaeth gref i rieni wirio ffonau symudol eu plant.

·         Nodwyd ei bod yn bechod bod adroddiad o’r fath yn gorfod cael ei baratoi o gwbl, ac awgrymwyd bod y defnydd o ffonau symudol yn gwaethygu problem sy’n bodoli’n barod.

·         Mynegwyd pryder y gallai ysgolion golli staff o ganlyniad i ddigwyddiadau fel hyn, ac er bod yna reolau mewn ysgolion o ran defnyddio ffonau, ayb, roedd yna garfan fechan sy’n gwrando ar ddim, a’u rhieni ddim yn poeni am hynny chwaith.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         Bod gan yr Adran bolisïau o ran y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion, a bod yr ysgolion yn debygol o edrych ar hynny eto yn sgil y digwyddiadau hyn.  Nodwyd bod disgyblion yn ddibynnol iawn ar ffonau symudol y dyddiau hyn, ac yn hytrach na’u gwahardd, anogid defnydd priodol, aeddfed a chyfrifol ohonynt.  Ni ddymunid cosbi pawb oherwydd ymddygiad lleiafrif bychan iawn, ond cadarnhawyd bod yr ysgolion yn atal unrhyw ddefnydd amhriodol o’r ffonau.

·         Ei bod yn gynamserol ar hyn o bryd i wneud sylw ynglŷn ag adroddiad diweddar yn y wasg ynglŷn ag achos o aflonyddu yn un o ysgolion y sir, ac y byddai yna ddiweddariad maes o law yn sgil edrych ar y sefyllfa yn gyffredinol ac adolygu’r trefniadau.

 

6b

AFLONYDDU'N RHYWIOL MEWN YSGOLION pdf eicon PDF 441 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg, ar gais y pwyllgor, yn sgil cyhoeddi adroddiad gan Estyn ym mis Rhagfyr 2021, “Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon”, oedd yn ymateb i wybodaeth a ddaeth i’r amlwg yn 2021 pan welwyd gwybodaeth am aflonyddu rhywiol ar ddisgyblion ar y wefan “Everybody’s Invited.”  Roedd y Pennaeth Addysg wedi gobeithio rhannu cyflwyniad ar sgrin hefyd i amlinellu prif agweddau adroddiad Estyn, ond oherwydd problemau technegol, bu’n rhaid cyflwyno’r wybodaeth ar lafar yn unig, a chytunwyd i anfon y sleidiau at yr aelodau yn dilyn y cyfarfod.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Nodwyd bod adroddiad Estyn yn nodi bod staff ysgolion yn gweithio’n galed i ymateb i’r materion hyn, ond dywed staff hefyd eu bod angen llawer mwy o adnoddau, hyfforddiant, cymorth ac amser.

·         Pwysleisiwyd ei bod yn hollbwysig bod y mater hwn yn flaenoriaeth i ysgolion ar draws Gwynedd, a gan y Llywodraeth hefyd, a bod rhaid i addysgu am hyn fod yn rhan o’r cwricwlwm hefyd.

·         Croesawyd y ffaith bod addysg rhyw ac addysg perthynas yn rhywbeth sy’n cael sylw bellach, a phwysleisiwyd ei bod yn bwysig bod cefnogaeth ar gael i’r staff ar sut i ddelio â materion o’r fath.

·         Nodwyd bod angen bod yn greadigol o ran sut orau i ddarparu’r adnoddau, o ystyried bod amser staff ac athrawon yn brin.  Roedd modd gwneud hyfforddiant ar lein, ac efallai y dylid cael pencampwr ar draws ysgolion sy’n datblygu rhywfaint o arbenigedd, ac yn gallu cynghori yn ôl yr angen.

·         Awgrymwyd bod disgwyliad i athro / ysgol fod yn bopeth i bawb bellach, yn hytrach nag yn darparu addysg yn unig.

·         Nodwyd ei bod yn glir o’r adroddiad bod yr Adran yn cydnabod maint a difrifoldeb y broblem ac yn bwriadu gweithredu.

·         Gan fod y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno yn raddol, gan ddechrau o Flwyddyn 7 i fyny, bod rhaid gweithredu ar unwaith drwy’r ysgol gyfan, yn hytrach na disgwyl i newidiadau’r cwricwlwm ddwyn ffrwyth.

·         Gofynnwyd i’r Aelod Cabinet drosglwyddo neges i athrawon a holl staff yr ysgolion yn mynegi gwerthfawrogiad y pwyllgor hwn o’u gwaith arwrol yn sgil, nid yn unig y pandemig, ond hefyd y golled adnoddau dros y degawd diwethaf.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         Bod yr ehangu ar y gwaith lles sy’n digwydd ar hyn o bryd yr union beth sydd angen digwydd er mwyn hyrwyddo perthnasedd iach, a bod y Cynllun Ysgolion Iach yn gynllun ardderchog i fod yn gwneud hynny.

·         Bod proffil arolygiadau ysgolion yn dangos bod ‘lles’ wedi bod yn dda neu’n rhagorol yn mhob arolwg ar draws y sector ysgolion.  Gan hynny, credid bod ein proffil yng Ngwynedd o ran rhoi bri a’r pwyslais priodol ar les, gan gynnwys y maes yma, yn briodol.

·         Y byddai angen adnoddau ar gyfer rhyddhau staff i gyflawni’r hyfforddiant.  Roedd hyn oll ar waith ac yn cael ei gymryd o ddifri’ gan staff yr  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6b

7.

HYGYRCHEDD YSGOLION pdf eicon PDF 327 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn nodi’r sefyllfa bresennol o ran hygyrchedd ysgolion, gan amlinellu sut y bu cyrraedd at y sefyllfa hon, gan edrych hefyd ar y ffordd ymlaen.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Awgrymwyd y byddai rhieni’n dewis anfon eu plentyn anabl i’r ysgol gymunedol leol, yn hytrach nag i’r ysgol ddynodedig, os o gwbl yn bosib’, ac felly croesawyd y cynnydd oedd wedi digwydd yn y maes ers 2017.

·         Nodwyd bod yr adroddiad yn cyfeirio at rampiau a lifftiau, ond bod anabledd yn faes amrywiol iawn, a holwyd beth oedd darpariaeth y Cyngor o ran anableddau neu gyflyrau gwahanol megis awtistiaeth, anabledd dysgu, nam synhwyrol ayb.

·         Croesawyd y defnydd o liwiau cyferbyniol ar y grisiau yn Ysgol Botwnnog.

·         Nodwyd y dymunid cael sicrwydd, cyn anfon plentyn i ysgol ddynodedig, bod pob carreg yn cael ei throi i weld a yw’n fforddiadwy i ganiatáu i’r plentyn gael yr addysg ar ei stepen drws ei hun.

·         Bod yr addasiadau hygyrchedd yn cael dylanwad positif ar yr ysgol gyfan, ac nid yn unig ar y plant hynny sydd ag anghenion dysgu neu anabledd.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         Mai’r maen tramgwydd mewn llawer o ysgolion oedd y gwaith ffisegol drud, a bod rhai pethau fwy o fewn cyrraedd yr addasiadau rhesymol y byddai disgwyl i ysgolion eu gwneud. 

·         Bod yna addasiadau heblaw’r rhai ffisegol a nodwyd yn yr adroddiad sy’n rhan o’r strategaeth hygyrchedd, e.e. y cydweithio rhwng rhieni a disgyblion ac ysgolion o ran gwneud addasiadau i’r cwricwlwm / amserlen, a newid defnydd ystafelloedd fel bod cwricwlwm mor llawn â phosib’ ar gael i bob disgybl. 

·         O ran penderfynu ar y math o addasiadau ffisegol sydd eu hangen, y gofynnid i’r swyddogion Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad (ADY a CH) edrych ar sefyllfa ac anghenion disgyblion unigol, a chyflwyno argymhellion ar sail hynny.

·         Nad oedd gan yr Adran yr hawl i gyfeirio unrhyw blentyn i ysgol ddynodedig, ac roedd yn ddewis agored i rieni i ba ysgol y dymunent yrru eu plant.  Roedd y mwyafrif llethol yn dewis gyrru eu plant i’w hysgol leol, a gellid edrych ar ddarparu mwy o wybodaeth i rieni o ran beth yw’r cyfleusterau sydd ar gael mewn gwahanol ysgolion.

·         Bod rhieni’n rhan o’r sgwrs ynglŷn â’r posibilrwydd o wneud addasiadau mewn ysgol gyffredin.  Roedd y Tîm ADY a CH yn ymwneud â disgyblion cyn oedran ysgol, ac yn gwybod am ddisgyblion sydd am symud i mewn, ac roedd sgyrsiau’n digwydd rhwng rhieni a’r gwasanaethau canolog.  Gan hynny, roedd dewis rhydd i rieni, ond gorau oll bod y dewis hwnnw’n seiliedig ar wybodaeth ynglŷn â beth yw natur yr ysgol(ion) y mae ganddynt ddiddordeb mewn anfon eu plant iddynt.

·         Ei bod yn hawdd anghofio effaith bositif y newidiadau ar yr ysgol gyfan, a’i bod yn bwysig bod plant, waeth beth yw eu hanghenion, yn gallu dod i’r ysgol heb deimlo’n wahanol i’w  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

RHAGLEN WAITH CRAFFU DDIWYGIEDIG 2021-22 pdf eicon PDF 322 KB

Cyflwyno rhaglen waith craffu ddiwygiedig ar gyfer 2021-22.

Cofnod:

Eglurodd y Cadeirydd nad oedd yna newidiadau i’r rhaglen waith ar hyn o bryd, ac felly nad oedd angen trafodaeth, na phleidlais ar y mater.