Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-leoliad - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon/ Rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Beth Lawton yn Gadeirydd y pwyllgor hwn am 2022/23.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Beth Lawton yn Gadeirydd y pwyllgor hwn am 2022/23.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Cai Larsen yn Is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2022/23.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Cai Larsen yn Is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2022/23.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Gareth Tudor Jones a Sasha Williams a Manon Williams (Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr Arfon). 

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 319 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Chwefror, 2022 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Chwefror, 2022 fel rhai cywir.

 

7.

CYFARFODYDD HERIO PERFFORMIAD pdf eicon PDF 180 KB

Enwebu aelodau o’r Pwyllgor i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Enwebu cynrychiolwyr i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad fesul maes gwaith fel a nodir isod:-

 

  • Addysg – Y Cynghorwyr Jina Gwyrfai, Beth Lawton a Gwynfor Owen (unrhyw 2 o’r 3 i fynychu pob cyfarfod)
  • Economi a Chymuned – Y Cynghorwyr Iwan Huws a Dewi Owen (gyda’r Cynghorydd Jina Gwyrfai wrth gefn)
  • Cefnogaeth Gorfforaethol – Y Cynghorwyr Huw Rowlands a Paul Rowlinson
  • Cyllid – Y Cynghorwyr Beth Lawton ac Elin Hywel

 

Cofnod:

Gwahoddwyd y pwyllgor i enwebu dau aelod i gynrychioli’r pwyllgor yn y cyfarfodydd herio perfformiad fesul maes gwaith.

 

PENDERFYNWYD enwebu cynrychiolwyr i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad fesul maes gwaith fel a nodir isod:-

·           Addysg – Y Cynghorwyr Jina Gwyrfai, Beth Lawton a Gwynfor Owen (unrhyw 2 o’r 3 i fynychu pob cyfarfod)

·           Economi a Chymuned – Y Cynghorwyr Iwan Huws a Dewi Owen (gyda’r Cynghorydd Jina Gwyrfai wrth gefn)

·           Cefnogaeth Gorfforaethol – Y Cynghorwyr Huw Rowlands a Paul Rowlinson

·           Cyllid – Y Cynghorwyr Beth Lawton ac Elin Hywel