Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-leoliad - Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon/ Rhithiol ar Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Louise Hughes a Sasha Williams; Manon Williams (Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr Arfon), Karen Vaughan Jones (Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr Dwyfor), Ruth Roe (Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr Meirionnydd) a Roger Vaughan (UCAC).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nododd y Cadeirydd y derbyniwyd cais i drafod mater brys, ond ei bod wedi rhaglennu’r mater i’w drafod yn y cyfarfod anffurfiol ar ddiwedd y cyfarfod hwn.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 370 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gyhaliwyd ar 20 Hydref, 2022 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Hydref, 2022 fel rhai cywir.

 

5.

ADRODDIAD CYNNYDD - CADW'R BUDD YN LLEOL pdf eicon PDF 450 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Menna Jones

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

*10.30yb – 11.30yb

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan ofyn i’r Gwasanaeth adrodd yn ôl ar ganlyniad y peilot ‘Caffael Arloesol – Methodoleg Caffael Gwerth Cymdeithasol’, a hefyd casglu’r data fel sydd wedi ei godi yn ystod y cyfarfod, ac adrodd yn ôl i’r pwyllgor ymhen y flwyddyn (neu pan fo’n amserol).

 

Cofnod:

Croesawyd yr Aelod Cabinet a swyddogion yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol yn dilyn cais yr aelodau i dderbyn diweddariad ar gynnydd y Prosiect Cadw’r Budd yn Lleol, sef un o’r prosiectau blaenoriaeth o fewn Cynllun y Cyngor.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun a rhoddodd y swyddogion amlinelliad o gynnwys yr adroddiad.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Er bod y crynodeb ar ddiwedd yr adroddiad yn nodi bod cynnydd da wedi’i wneud dros y 5 mlynedd ddiwethaf er mwyn cynyddu’r ganran o wariant y Cyngor sy’n aros yn lleol, sylwyd bod y ganran ond wedi cynyddu 3% dros y cyfnod, a bod y ffigwr i lawr o gymharu â 4 blynedd yn ôl, a llynedd.  Nodwyd y deellid y rhwystrau, ond cwestiynwyd llymder yr hunan-arfarnu y tu ôl i hyn.

·         Y byddai’n fuddiol pe gellid casglu data ynglŷn â faint o gwmnïau lleol sydd wedi cyflwyno tendr, ond heb fod yn llwyddiannus, a pha adborth a roddwyd i’r cwmnïau hynny, gan adrodd yn ôl i’r pwyllgor ymhen tua blwyddyn.

·         Ei bod yn bwysig bod cyrff mawr yn yr ardal, fel Cyngor Gwynedd, yn pwrcasu’n lleol er mwyn helpu’r economi.

·         Bod y Preston Model yn hollbwysig, ond na fyddai’n gweithio’n effeithiol yng Ngwynedd gan ei fod yn fodel trefol.

·         Mai un o’r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud fel Cyngor yw edrych ar sut i alluogi cwmnïau bychan i ddod at ei gilydd a gweithio ar y cyd, a byddai unrhyw fuddsoddiad sy’n mynd i mewn i hynny yn cael ei weld, nid fel cost, ond fel budd cymdeithasol ynddo’i hyn.

·         Y dywedir yn aml fod gan Gymru yn ei chyfanrwydd fusnesau bach iawn a busnesau mawr iawn, ond ddim llawer o fusnesau canolig o ran maint, a’r busnesau canolig hynny fyddai’n creu’r budd mwyaf i’n cymunedau ni.

·         Ein bod oll yn siomedig â’r canlyniadau hyd yn hyn, ac eisiau gweld ffyrdd ymlaen.

 

Ar nodyn technegol, a gan gyfeirio at y graff ‘Gwariant Lleol Blynyddol’ ar dudalen 19 o’r rhaglen, cwestiynwyd cywirdeb y ffigur £43m (cyfalaf a refeniw) ar gyfer 2017/18, gan ei fod yn llai na’r ffigwr £56m (refeniw yn unig).  Cadarnhawyd mewn ymateb bod y ffigwr yn wallus.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         O safbwynt llymder yr hunan-arfarnu, bod Gwynedd yn un o’r ychydig gynghorau sy’n mesur y math yma o weithgaredd o ran cadw’r budd yn lleol.  Yn y cyflwyniad ar gychwyn yr eitem, roedd son am gyflwyno mesurau eraill, ac roedd hynny’n cyfeirio at y Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol yn fwy na’r ganran leol o ran gwariant yn unig.  Roedd y ffigwr yna wedi aros yn eithaf cyson ers nifer o flynyddoedd, ac er bod 1% o newid yn golygu £1.5m o wariant, roedd yn eithaf statig.  Nodwyd ymhellach ein bod wedi cyrraedd trothwy erbyn hyn a’i bod yn anodd cynyddu’r ffigwr yn uwch na hynny oherwydd y rhwystrau a’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

PROSIECT CINIO AM DDIM pdf eicon PDF 259 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

*11.30yb – 12.00yp

 

 

*TORIAD AM GINIO – 12.00yp – 12.45yp

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a chyflwyno diweddariad i’r pwyllgor pan fydd y cynllun wedi ymestyn ar draws y sector cynradd, gyda sylw penodol ar y gwaith sy’n cael ei wneud i godi’r niferoedd ac i edrych ar y rhesymau pam nad yw rhai disgyblion yn cymryd cinio ysgol, a sicrhau bod ystyriaeth yn cael ei roi i ansawdd y bwyd, gan hefyd geisio cadw’r budd yn lleol.

 

Cofnod:

Croesawyd yr Aelod Cabinet a swyddogion yr Adran Addysg i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad cynnydd yr Aelod Cabinet Addysg ar y prosiect cinio am ddim mewn ysgolion.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun a rhoddodd yr Uwch Reolwr Ysgolion amlinelliad o gynnwys yr adroddiad.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Mynegwyd syndod bod canran y disgyblion sy’n dewis cinio am ddim dan y cynlluniau UPFSM (Universal Primary Free School Meals) ac EFSM (Entitlement to Free School Meals) mor isel (70% ym Medi a 66% yn Hydref) a nodwyd pryder y bydd ysgolion yn colli allan ar grantiau eraill oherwydd na fydd rhieni sy’n gymwys i hawlio cinio ysgol am ddim dan y cynllun EFSM yn gwneud hynny bellach, gan y bydd eu plant yn cael cinio ysgol am ddim beth bynnag.

·         Bod y prosiect cinio am ddim mewn ysgolion i’w groesawu, a phwysleisiwyd pwysigrwydd dwyn pwysau gwleidyddol i sicrhau bod y swm y pryd a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei amddiffyn, neu hyd yn oed ei godi, wrth i ni fynd i mewn i gyfnod o doriadau.

·         Y dylid dathlu’r ffaith bod 1305 o blant UPFSM, na fyddai wedi derbyn cinio ysgol am ddim fel arall, wedi dewis cinio ysgol ym Medi, a bod hynny’n golygu bod gan y rhieni arian ychwanegol yn eu pocedi i’w wario’n lleol gobeithio, a thrwy hynny roi hwb i’r economi leol.

·         At y dyfodol (gan dderbyn bod yr Adran yn brysur iawn ar hyn o bryd gyda’r gwaith o gyflwyno’r prosiect ar draws yr ysgolion), gallai fod yn fuddiol cynnal ymgynghoriad blynyddol gyda rhieni a phlant mewn ymgais i gynyddu’r ganran sy’n derbyn y prydau.

·         Bod y prydau a ddarperir yn yr ysgolion yn gytbwys a maethlon, ond y gallai mwy o hyblygrwydd o ran y dewis o fwyd sydd ar gael fod yn fodd o gynyddu’r niferoedd sy’n derbyn y cinio ysgol.

·         Ei bod yn bwysig nad yw ansawdd y prydau’n dioddef o ganlyniad i gostau uwch cynhyrchu pryd bwyd.

·         Croesawyd y bwriad i ymestyn y cynnig i Flwyddyn 2 erbyn Ionawr 2023.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         Mai ffigwr cyfartalog ar draws holl ysgolion cynradd y sir oedd y 70% a’r 66%, a bod y ganran bron yn 100% mewn rhai ysgolion, gydag ysgolion eraill yn profi’n lawer mwy o her.  Nodwyd ymhellach bod arian ar gael i benodi swyddog i edrych i mewn i’r rhesymau pam bod plant yn gwrthod cinio ysgol, ac y byddai’r gwaith yma yn canolbwyntio ar yr ysgolion hynny lle mae yna batrwm o blant sydd â hawl i ginio am ddim, ond ddim yn ei gymryd.

·         Bod Llywodraeth Cymru wedi adnabod swm y pryd o £2.90 ar gyfer pob disgybl ar gyfer y wedd gyntaf, a hynny’n seiliedig ar gyfartaledd y disgyblion sy’n bwyta cinio ysgol yn y sir.  Bwriedid ail-edrych ar y ffigwr yma ar gyfer yr ail wedd, fyddai’n digwydd ar ôl y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIADAU BLYNYDDOL ADDYSG

*12.45yp – 1.45yp

 

 

 

*Amcangyfrif o’r amseroedd

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiadau a gofyn i’r Adran Addysg a GwE gymryd sylw o unrhyw sylwadau a godwyd yn y cyfarfod hwn.

 

7a

ADRODDIAD BLYNYDDOL ADDYSG 2021-22 pdf eicon PDF 391 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun a chyflwynwyd Adroddiad Blynyddol yr Adran Addysg ar gyfer 2021-22.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Gan gyfeirio at dudalen 46 o’r rhaglen, nodwyd er bod cyfeiriad at “wneud gwaith dilynol yn ystod y flwyddyn nesaf er mwyn sicrhau fod y drefn [Categoreiddio Ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg] yn datblygu ac yn gwreiddio er mwyn cyflawni uchelgais Gwynedd yn y maes hwn” nad oedd uchelgais Gwynedd yn cael ei ddiffinio yng nghyd-destun y categoreiddio, a bod angen eglurder ar hynny.

·         Eto, gan gyfeirio at dudalen 46 o’r rhaglen, nodwyd bod rhai o’r blaenoriaethau ar gyfer y cyfnod nesaf yn arwynebol, gan eu bod yn cyfeirio at ‘sicrhau’ gwahanol gamau, ond ddim yn egluro sut y byddai’r camau hynny yn cael eu gweithredu.  Mynegwyd pryder ein bod am weld llithriad pellach yn y nifer sy’n astudio pynciau Cymraeg yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA), ac awgrymwyd ein bod mewn sefyllfa wannach heddiw nag oeddem yn 2016.

·         Mynegwyd pryder bod y Cyfrifiad yn dangos gostyngiad yn y niferoedd sy’n bathu’r Gymraeg o oedran cynnar, ac awgrymwyd y dylai’r Cyngor fod yn trochi’r holl blant sydd ddim yn ddigon rhugl yn y Gymraeg, yn hytrach na throchi hwyrddyfodiaid yn unig.

·         Nodwyd bod dadgofrestru yn broblem fawr, yn enwedig ers y cyfnod Cofid, a holwyd a fyddai’n bosib’ i’r pwyllgor dderbyn data ar hyn, a chael cyfle i graffu pam bod pobl ifanc a theuluoedd yn dewis dadgofrestru.

·         Nodwyd bod yna lawer o gwmnïau tacsis o Ddwyfor yn hebrwng plant o gwmpas ysgolion Arfon.  Deellid bod yna brinder cwmnïau tacsis yng Ngwynedd, ond o bosib’, bod yna gwmnïau bach fyddai’n awyddus i dendro, ond angen cefnogaeth o ran deall y broses.  Awgrymwyd y gellid edrych ar hyn yn drawsadrannol gyda’r Adran Economi, fel dull o gefnogi busnesau bach a lleihau costau ac ôl troed carbon ar yr un pryd.

·         Mynegwyd pryder bod yr ysgolion arbennig dros eu capasiti’n barod, gyda Hafod Lon eisoes 10% uwchlaw ei chapasiti, a gofynnwyd am drafodaeth ar hyn yn fuan iawn, gan y bydd y galw yn parhau i gynyddu.  Awgrymwyd hefyd y dylid edrych i mewn i’r rhesymau dros y cynnydd yn y galw.

·         Nodwyd bod adroddiadau blynyddol yn son am y pethau da a ddim yn son am y pethau problemus a heriol, a’i bod yn anodd craffu dogfen sy’n tueddu i ganmol yn unig.

·         Nodwyd bod y tocyn teithio ôl-16 yn syniad gwych, ond ei bod yn bwysig bod y trafodaethau’n digwydd gyda’r cwmnïau trên a bysus i sicrhau bod y gwasanaethau’n cyrraedd y sefydliadau addysg ar amser.

·         Gan gyfeirio at y sylw yn yr adroddiad ynglŷn â phlant yn colli’r gallu i lefaru i bob pwrpas yn sgil cyfnod y pandemig, nodwyd y pryderid am yr effaith hirdymor ar y plant yma, a phwysleisiwyd y dylai rhywun fod yn edrych ar yr hyn mae’r plant wedi'i golli'n gyffredinol oherwydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7a

7b

ADRODDIAD BLYNYDDOL GWE 2021-22 pdf eicon PDF 600 KB

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd swyddogion GwE i’r cyfarfod a chyflwynwyd Adroddiad Blynyddol GwE ar gyfer 2021-22.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Nodwyd ei bod yn amhosib’ craffu adroddiad o’r maint yma, ac nid dyma sut y dylai’r pwyllgor graffu gwaith GwE.

·         Mynegwyd pryder ynglŷn ag ymddygiad plant tuag at athrawon, a nodwyd y dylai darpar athrawon gael eu hyfforddi ar sut i ddelio ag ymddygiad heriol, neu ni fydd pobl ifanc yn awyddus i ymuno â’r proffesiwn.

·         Ei bod yn anodd iawn bellach i lywodraethwyr wybod beth yw’r gwaelodlin a mesur safonau yn sgil y cyfnod Cofid, a chredid bod yna rôl i GwE i’w cefnogi a’u cynorthwyo i ail-afael yn eu rôl.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         Tra’n derbyn bod yr adroddiad yn swmpus, bod yna adroddiadau mwy penodol yn cael eu cyflwyno i’r pwyllgor yn ystod y flwyddyn ar gais yr aelodau, ond bod yr Adroddiad Blynyddol yn dwyn y cwbl at ei gilydd mewn un lle.  Petai’r aelodau’n dymuno canolbwyntio ar themâu penodol, neu drafod elfennau mwy penodol mewn gweithdai, byddai GwE yn fwy na pharod i hwyluso hynny.

·         O ran cyfarch y risg yng nghyswllt anawsterau recriwtio a chynllunio olyniaeth uwch arweinwyr ar draws y rhanbarth, yn enwedig rhai cyfrwng Cymraeg, nodwyd bod llawer o son am effaith y cyfnod Cofid ar ddisgyblion, ond o bosib’ nad oedd yr effaith ar oedolion wedi’i lawn sylweddoli.  Roedd uwch arweinwyr ar draws y rhanbarth yn flinedig iawn, ac roedd chwarter y prif athrawon uwchradd wedi ymddeol yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.  Hefyd, wrth i bennaeth adael, roedd dirprwy neu berson arall yn camu i mewn i’r rôl, a’r rôl honno wedyn yn wag am gyfnod.  Nodwyd hefyd, yn ystod y cyfnod clo, y bu’n rhaid i benaethiaid roi elfennau mwy arweinyddol y gwaith o’r neilltu, a chanolbwyntio ar reoli, diogelu a sicrhau bod pawb yn saff, ond bellach roedd rhaid iddynt gamu nôl i’r rôl arweinyddol, neu gamu i mewn i’r rôl honno am y tro cyntaf yn achos penaethiaid mwy newydd.  Hefyd, o ran recriwtio, roedd y pwll Cymraeg yn llai, roedd y byd addysg yn wynebu’r newidiadau mwyaf ers 40 mlynedd, ac roedd yn gyfnod ariannol dyrys iawn.  Yn wyneb hyn oll, cwestiynid a oedd y swyddi arweinyddol yma mor ddeniadol i gymaint o bobl bellach.  O ran gallu dwyieithog staff, neu allu staff yn y Gymraeg ar draws y rhanbarth, credid bod yna gydbwysedd, ond o bosib’, wrth sicrhau bod yr arlwy yn gwbl ddwyieithog, bod y Gwasanaeth yn tynnu o bwll y Gogledd Orllewin i raddau helaeth.  Roedd secondiadau tymor byr yn un ffordd o gwmpas hynny, neu brynu amser pobl i ddiwallu bylchau os oes yna ofynion cyfrwng penodol yn codi.

·         Bod y risg o ran cysondeb ac ystod y Daith Ddiwygio yn cyfeirio at gysondeb ar sawl lefel.  Roedd y Gwasanaeth wedi bod yn gweithio gyda’r Athro Donaldson yn rheolaidd i ddeall y gofynion a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7b