Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-leoliad - Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon/ Rhithiol ar Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Gwilym Jones a Sasha Williams; Colette Owen (Yr Eglwys Gatholig) a Karen Vaughan Jones (Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr Dwyfor) a’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn (Arweinydd) (Eitem 5).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 454 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr, 2022 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr, 2022 fel rhai cywir.

 

5.

GWYNEDD AC ERYRI 2035: CYNLLUN STRATEGOL ECONOMI YMWELD CYNALIADWY GWYNEDD AC ERYRI pdf eicon PDF 215 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorwyr Dyfrig Siencyn a Nia Jeffreys

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

(1)  Derbyn yr adroddiad, gan argymell y dylid ystyried diwygio Gweledigaeth Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035 i ddarllen:-

 

“Economi Ymweld sy’n:-

(i)     Costrelu iaith a diwylliant Gwynedd ac Eryri;

(ii)    Er budd a lles pobl, amgylchedd, iaith a diwylliant Gwynedd ac Eryri”.

 

(2)  Gofyn i’r Aelod Cabinet gyfleu sylwadau’r pwyllgor i’r Cabinet.

 

Cofnod:

 

Croesawyd y Dirprwy Arweinydd a swyddogion yr Adran Economi a Chymuned i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad yr Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd yn gwahodd y pwyllgor i graffu:-

 

    Os ydi Cynllun Strategol Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri yn cyd-fynd ag uchelgais a blaenoriaethau’r Cyngor ar gyfer Economi Ymweld Cynaliadwy yn y dyfodol (Atodiad 1 i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r pwyllgor);

    Os ydi’r strwythur gweithredu ar y cyd gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn addas (Atodiad 2); a

    Threfniadau sefydlu Partneriaeth Economi Ymweld Cynaliadwy Newydd i lywio gweithrediad y Cynllun Gweithredu (Atodiad 3).

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun.  Rhoddodd y Pennaeth Cynorthwyol Diwylliant drosolwg o gynnwys yr adroddiad a’r cynllun, ac ymhelaethodd Rheolwr Partneriaethau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar strwythur a chamau gweithredu’r bartneriaeth.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Awgrymwyd, gan fod twristiaeth yng Ngwynedd ac Eryri yn seiliedig i raddau helaeth ar dirwedd yr ardal, y dylai tirfeddianwyr gael eu cynrychioli ar y bartneriaeth.

·         Nodwyd bod elfennau perthnasol i’r drafodaeth ar goll o’r adroddiad a’r atodiadau.  Roedd tueddiad i anwybyddu anghytuno a gwrthdaro posib’ dros adnoddau.  Roedd sôn am effaith posib’ ar y Gymraeg, ond roedd yr effaith hynny’n sicr.  Nid oedd cyfeiriad chwaith at yr effaith ar y gwasanaeth iechyd a’r heddlu yn ystod y tymor ymwelwyr.

·         Mynegwyd anfodlonrwydd ein bod, fel Cyngor, yn ddibynnol ar y Parc Cenedlaethol, sy’n gorff a dim atebolrwydd democrataidd yn perthyn iddo, i fod yn rhan o’r bartneriaeth gyda ni.

·         Nodwyd nad oedd yr un o’r cynlluniau sy’n rhan o’r Cynllun Arosfan o fewn ardal y Parc, ac felly nad oedd yn ateb y broblem lle mae mwyafrif y twristiaeth.  Hefyd, roedd yr astudiaeth achos yn cyfeirio at gynlluniau ar gyfer y mynyddoedd a’r llwybrau, ond gan mai’r prif beth i ni yw’r bobl sy’n byw yn y parc, lle mae’r cynlluniau ar gyfer y trefi a’r pentrefi yn y Parc?  Hefyd, roedd y cynlluniau ar gyfer glan môr ar goll o’r cynllun.  (Gan fod Rheolwr Partneriaethau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi gorfod gadael y cyfarfod am gyfnod, gofynnwyd i’r Ymgynghorydd Craffu anfon sylwadau’r aelod ymlaen ati.)

·         Nodwyd bod hwn yn gynllun strategol canmoladwy iawn.  Roedd yn dda gweld y ddau awdurdod yn cydweithio’n agos, a diolchwyd i’r Dirprwy Arweinydd a’r swyddogion am y cydweithio.

·         Mynegwyd siomedigaeth fod y swyddog o’r Parc wedi gorfod gadael y cyfarfod, a nodwyd y dylai uwch swyddog o’r Parc fod wedi bod yn rhan o’r drafodaeth hon.

·         Nodwyd bod y gwaith a gyflawnwyd gan y Pennaeth Cynorthwyol Diwylliant ar y Cynllun Rheoli Safle Treftadaeth y Byd UNESCO wedi gorfodi’r cydweithio rhwng y ddau awdurdod i raddau gan fod y rhan fwyaf o’r ardaloedd llechi y tu allan i ffiniau’r Parc, ond yno mae cymunedau Gwynedd.  Gan hynny, roedd angen rhoi ffiniau o’r neilltu weithiau, ac roedd twristiaeth yn sector sydd ddim yn parchu ffiniau.

·         Canmolwyd yr amcanion twristiaeth newydd ac awgrymwyd bod yr adroddiad hwn yn arwain y gad i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

BRIFF YMCHWILIAD CRAFFU YSGOLION UWCHRADD CATEGORI 3 GWYNEDD pdf eicon PDF 200 KB

Cymeradwyo briff ar gyfer yr Ymchwiliad Craffu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu briff yr Ymchwiliad Craffu Ysgolion Uwchradd Categori 3 Gwynedd, ac ethol y Cynghorwyr Cai Larsen, Beth Lawton, Huw Rowlands, Paul Rowlinson a Rhys Tudur i ymgymryd â gwaith yr ymchwiliad.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd - briff ar gyfer Ymchwiliad Craffu Ysgolion Uwchradd Categori 3 Gwynedd.  Gwahoddwyd y pwyllgor i fabwysiadu’r briff ac i ethol uchafswm o 5 aelod i fod yn rhan o’r ymchwiliad, gyda’r aelodaeth yn cynnwys dim llai na dau grŵp gwleidyddol gwahanol.

 

Nodwyd y gwahoddwyd aelodau i ddatgan diddordeb o ran bod yn aelodau o’r ymchwiliad yng nghyfarfod anffurfiol y pwyllgor ar 8 Rhagfyr, 2022, ac y derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb gan y Cynghorwyr Cai Larsen, Huw Rowlands, Paul Rowlinson a Rhys Tudur yn dilyn y cyfarfod.

 

Sylwyd nad oedd cynrychiolaeth o Feirionnydd ymhlith yr enwau, na merch, na chynrychiolydd o’r Grŵp Annibynnol, ac awgrymwyd enw’r Cadeirydd, y Cynghorydd Beth Lawton.

 

Yna trafodwyd briff yr ymchwiliad.  Nodwyd:-

 

·         Bod yr adroddiad yn nodi mai’r prif gwestiwn y bydd yr ymchwiliad yn ei gyfarch yw: ‘Beth yw’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ein hysgolion uwchradd ....’, ond dylai hynny fod yn hysbys i’r Awdurdod.  Nid mater i’r ymchwiliad yw canfod beth yw’r ddarpariaeth, ond yn hytrach craffu’r ddarpariaeth honno.

·         Bod y briff yn adlewyrchu’r gwirionedd, sef nad yw’r Adran Addysg yn glir beth yw’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd, a bod y ffaith bod yr ymarferiad hwn yn digwydd o gwbl yn ganlyniad diffyg monitro gwaradwyddus yn y maes yma, ac yn taflu amheuon dros yr holl ystadegau a gasglwyd ar hyd y blynyddoedd.  Roedd yr athrawon yn gwybod yn iawn pwy sy’n gwneud asesiadau a thraethodau ym mha iaith, ac ni ddeellid pam nad yw’r Adran Addysg yn gallu taflu goleuni ar beth yw’r ddarpariaeth gyfredol.  Mewn ymateb, nododd y Cadeirydd y gobeithid y byddai’r ymchwiliad yn taflu goleuni ar hynny.

·         Bod y 3 ysgol a ddewiswyd i fod yn rhan o’r ymchwiliad ymhlith yr ysgolion mwyaf Cymreigaidd yng Ngwynedd, ac na fyddai’r ymchwiliad yn canfod darlun cynrychioliadol o’r sefyllfa ar draws y sir drwy ymweld â’r ysgolion hynny’n unig.  I’r gwrthwyneb, awgrymwyd nad oedd pwynt mynd i’r ysgolion lleiaf Cymreig, ac na chredid bod y 3 ysgol a ddewiswyd yn gyfuniad amhriodol.  Mewn ymateb, eglurwyd bod yr Adran Addysg wedi awgrymu’r 3 ysgol (1 yn Arfon, 1 yn Nwyfor ac 1 ym Meirionnydd) ar y sail y byddai modd cynnwys ystyriaethau ôl-16 mewn 2 allan o’r 3 ysgol.  Roedd y mater hefyd wedi’i drafod yn y Fforwm Penaethiaid Uwchradd o ran pa ysgolion oedd yn fodlon bod yn rhan o’r ymchwiliad.

·         Bod angen sicrwydd bod y briff yn cynnwys holiadur i bob ysgol uwchradd er mwyn cael darlun bras o’r sefyllfa ar draws y sir cyn i’r gweithgor ddewis y 3 ysgol fwyaf cynrychioliadol er mwyn craffu yn fanwl.

·         Yn ogystal â’r cwestiynau a restrwyd yn Rhan B o’r briff, dylid hefyd gofyn beth yw’r waelodlin a pha gymorth mae’r Adran yn ei roi i helpu’r ysgolion i wireddu’r nod.

·         Yn ogystal â’r rhanddeiliaid a restrwyd yn Rhan CH o’r briff, y byddai hefyd yn fuddiol siarad gyda’r Pennaeth Cwricwlwm, y Pennaeth Cymraeg, y Cyngor Ysgol a chynrychiolaeth o blith y cymorthyddion.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu briff yr  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.